Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mathau o statws cyflogaeth

Ceir tri math o statws cyflogaeth – gallwch un ai fod yn ‘weithiwr’, yn ‘gyflogai’ neu’n ‘hunangyflogedig’. Bydd eich statws cyflogaeth yn helpu i ddiffinio pa hawliau a chyfrifoldebau sydd gennych yn y gwaith. Yma, cewch wybod beth yw’r hawliau cyflogaeth sylfaenol ar gyfer pob statws cyflogaeth.

Gweithwyr

Diffinnir ‘gweithwyr’ yn fwy eang na chyflogeion ac yn wahanol i’r rhai sy’n wirioneddol hunangyflogedig. Mae statws gweithiwr yn cynnwys unigolion sy’n gweithio dan amrywiaeth o gontractau. Mae cyflogeion yn weithwyr, ond mae gan gyflogeion wahanol gyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth na sydd gan weithwyr.

Fel gweithiwr, bydd gennych yr hawl i gael hawliau cyflogaeth craidd, gan gynnwys yr hawl i gael y canlynol:

  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • gwarchodaeth rhag didynnu arian o'ch cyflog yn anghyfreithlon
  • isafswm cyfnod o wyliau â thâl (gwyliau blynyddol)
  • isafswm cyfnod o seibiau
  • peidio â gweithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd, neu i gael dewis peidio â derbyn yr hawl hon
  • gwarchodaeth yn erbyn gwahaniaethu yn eich erbyn yn anghyfreithlon (gan gynnwys cael eich trin yn llai ffafriol ar sail eich statws rhan amser)
  • gwarchodaeth am ‘chwythu’r chwiban’ (rhoi gwybod am gamwedd yn y gweithle)

Mae’n bosib y bydd gennych hefyd yr hawl i gael:

  • Tâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu Statudol
  • Tâl Salwch Statudol

Fodd bynnag, dylech holi a ydych chi'n gymwys i gael y rhain gan eu bod yn dibynnu ar nifer o bethau gwahanol, gan gynnwys faint rydych chi'n ei ennill.

Y gofynion allweddol ar gyfer sefydlu statws ‘gweithiwr’ yw eich bod:

  • yn gorfod gwneud gwaith neu ddarparu gwasanaethau yn bersonol, ac ni allwch anfon dirprwy i wneud y gwaith nac is-gontractio’r gwaith
  • ddim yn ymgymryd â’r gwaith fel rhan o’ch busnes chi (e.e. os yw'r 'cyflogwr' yn un o'ch cleientiaid chi)

Cyflogeion

Y statws ‘cyflogai’ sy’n berthnasol i’r grŵp mwyaf o bobl yn y gweithle. Mae pob cyflogai yn weithiwr, ond fel cyflogai bydd gennych chi amrywiaeth ehangach o hawliau cyflogaeth a chyfrifoldebau cyflogaeth i’ch cyflogwr a gan eich cyflogwr. Er enghraifft, byddai angen i chi roi isafswm o gyfnod rhybudd os byddwch yn dymuno gadael eich swydd.

Mae cyflogeion yn gweithio dan gontract cyflogaeth (a elwir hefyd yn gontract gwasanaeth). Fel arfer, contract ysgrifenedig ydyw, ond gall hefyd fod yn gontract llafar neu'n gontract dealledig, neu’n gyfuniad o’r tri. I gael rhagor o wybodaeth am gontractau cyflogaeth, darllenwch ‘Contractau cyflogaeth’.

Fel cyflogai, bydd eich hawliau yn cynnwys pob un o’r hawliau sydd gan weithwyr, yn ogystal â’r hawl i gael y canlynol:

  • isafswm o ddatganiad o’ch telerau cyflogaeth
  • Tâl Salwch Statudol
  • isafswm o gyfnodau rhybudd os bydd eich cyflogaeth yn dod i ben (e.e. os yw eich cyflogwr yn eich diswyddo)
  • peidio â chael eich diswyddo yn annheg
  • tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu a chyfnod mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
  • gofyn am gael gweithio’n hyblyg
  • amser o'r gwaith ar gyfer argyfwng
  • Tâl Dileu Swydd Statudol

Bydd rhai o’r hawliau hyn yn gofyn am isafswm cyfnod o wasanaeth parhaus gyda’ch cyflogwr cyn y byddwch yn gymwys i’w cael.

Hefyd, bydd gan rai cyflogeion hawliau ychwanegol sydd y tu hwnt i'w hawliau statudol. Byddai’r rhain yn rhan o delerau ac amodau eich contract cyflogaeth. Er enghraifft, gallai eich cyflogwr ddewis rhoi cyfnodau rhybudd neu dâl salwch mwy hael i chi.

Hunangyflogedig

Ni fydd deddfwriaeth cyflogaeth yn gwarchod pobl hunangyflogedig fel arfer gan mai chi, mewn gwirionedd, yw eich bos.

Byddwch yn elwa o warchodaeth ar gyfer eich iechyd a'ch diogelwch ac, mewn rhai achosion, o warchodaeth yn erbyn gwahaniaethu.

Byddai eich hawliau a’ch cyfrifoldebau yn cael eu pennu gan delerau’r contract y bydd gennych gyda’ch cleient.

Fel arfer, mae pobl hunangyflogedig mewn busnes ar gyfer eu hunain ac yn darparu gwasanaethau i amryfal gleientiaid. Dyna sut y gellir eu hadnabod. Yn gyffredinol, bydd pobl hunangyflogedig yn fwy annibynnol na gweithwyr. Mae ganddynt fwy o reolaeth dros sut a phryd i ddarparu'r gwasanaeth a phwy fydd yn ei ddarparu. Fel arfer, byddant yn gallu gwarchod eu buddion masnachol eu hunain yn well, er mai nhw fydd yn cario unrhyw risg ariannol o'r busnesau y maent yn eu gweithredu.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cofrestru gyda Chyllid a Thollau EM
  • cyflwyno ffurflen dreth flynyddol
  • talu eich taliadau treth ac Yswiriant Gwladol eich hun

Ble i gael cymorth

Os nad ydych yn siŵr a ydych chi’n weithiwr, yn gyflogai ynteu’n hunangyflogedig, dylech ddarllen ‘Deall eich statws cyflogaeth’. Bydd yn egluro’r profion sylfaenol a ddefnyddir wrth benderfynu ar statws cyflogaeth a bydd yn cynnwys dolenni at enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ystyried fel eich sefyllfa waith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU