Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tâl Mamolaeth Statudol

I'ch helpu i gael amser o'r gwaith cyn i chi gael eich babi ac ar ôl yr enedigaeth, mae'n bosibl y gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol. Taliad wythnosol gan eich cyflogwr yw hwn. Dewch o hyd i sut y gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol a sut i wneud cais.

Pwy sy'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol?

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, rhaid eich bod:

  • wedi cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr yn ddi-dor am o leiaf 26 wythnos i mewn i’r 15fed wythnos cyn geni'ch plentyn (yr wythnos gymhwyso)
  • wedi ennill swm ar gyfartaledd sydd o leiaf yn gyfartal â therfyn enillion isaf sy'n briodol ar y dydd Sadwrn ar ddiwedd eich wythnos gymhwyso

Y terfyn enillion is yw’r swm y mae'n rhaid i chi ei ennill cyn i chi gael eich trin fel eich bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae hwn yn £107 yr wythnos os yw diwedd eich wythnos gymhwyso yn y flwyddyn dreth 2012-13.

Os oes gennych fisa sy'n eich galluogi i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig, efallai y gallwch gael Tâl Salwch Statudol. Os yw eich fisa yn cynnwys yr amod "nad oes gennych hawl i help o gronfeydd cyhoeddus" efallai y galwch barhau i gael Tâl Salwch Statudol ar yr amod eich bod yn bodloni'r amodau cymhwyso. Mae'r amodau cymhwyso ar gyfer Tâl Salwch Statudol yn dibynnu ar eich hanes cyflogaeth ac enillion diweddar. Oherwydd hyn, nid yw Tâl Salwch Statudol yn gyfystyr ag arian cyhoeddus.

Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - amodau cymhwyso' i gael rhagor o wybodaeth.

Trwy gwblhau cyfres o gwestiynau, byddwch yn cael datganiad personol am eich hawliau yn y gwaith yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Efallai y bydd hyn yn gymorth i chi cyn gwneud cais i gael Tâl Mamolaeth Statudol. I gael datganiad, dylech ddefnyddio'r offeryn canlynol.

Sut i wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol

I wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol, rhaid i chi:

  • ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd yr hoffech ddechrau cael eich Tâl Mamolaeth Statudol
  • rhoi tystiolaeth feddygol o'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni

Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - sut i wneud cais' i gael rhagor o wybodaeth.

Faint o Dâl Mamolaeth Statudol allwch chi ei gael?

Os byddwch yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, caiff ei dalu:

  • am y chwe wythnos gyntaf ar 90 y cant o'ch enillion wythnosol gros ar gyfartaledd, heb uchafswm
  • am y 33 wythnos sy'n weddill ar un ai'r gyfradd safonol o £135.45, neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol gros ar gyfartaledd, pa un bynnag yw'r isaf

Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - sut y caiff ei gyfrifo' i gael rhagor o wybodaeth.

Pryd gaiff Tâl Mamolaeth Statudol ei dalu

Fel arfer, bydd eich cyflogwr yn eich talu yn yr un ffordd ac ar yr un pryd â'ch cyflog arferol. Gallwch gael eich talu am hyd at 39 wythnos.

Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - pryd fydd eich taliadau'n dechrau' i gael rhagor o wybodaeth.

Beth fydd yn digwydd os na allaf gael Tâl Mamolaeth Statudol?

Os na allwch gael Tâl Salwch Statudol, rhaid i'ch cyflogwr gwblhau ffurflen SMP1W a’i rhoi i chi. Ar y ffurflen, rhaid i'ch cyflogwr ddweud pam nad yw Tâl Salwch Statudol wedi cael ei dalu. Os oes gennych fwy nag un cyflogwr, rhaid i chi gael ffurflen SMP1W gan bob cyflogwr.

Defnyddir ffurflen SMP1W i gefnogi cais am Lwfans Mamolaeth. Mae'n bwysig bod eich cyflogwr yn rhoi’r ffurflen hon i chi cyn gynted ag y bo modd. Heb y wybodaeth ar y ffurflen nad oes modd gwneud penderfyniad ar hawl i gael Lwfans Mamolaeth ei wneud a all ohirio’r taliadau. Mae dau fersiwn o'r ffurflen SMP1W. Gallwch argraffu un ac yna ei gwblhau â phen neu un y gallwch ei chwblhau ar-lein a’i hargraffu wedyn.

Amgylchiadau a allai effeithio ar eich Tâl Mamolaeth Statudol

Os ydych eisoes yn cael Tâl Mamolaeth Statudol, ceir rhai amgylchiadau a allai gael effaith ar eich taliadau. Mae'r enghreifftiau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Os byddwch yn dychwelyd i weithio tra’n cael Tâl Mamolaeth Statudol

Gallwch weithio i'r cyflogwr sy'n talu'ch Tâl Mamolaeth Statudol am hyd at ddeng niwrnod yn ystod eich Cyfnod Tâl Mamolaeth heb golli'ch hawl i'w gael. Gelwir y rhain yn ddyddiau Cadw mewn Cysylltiad. Ar ôl i chi weithio am ddeng niwrnod a'ch bod yn gwneud mwy o waith i'r cyflogwr hwnnw, byddwch yn colli eich Tâl Mamolaeth Statudol am bob wythnos o'ch Cyfnod Tâl Mamolaeth y byddwch yn gweithio ynddi.

Cofiwch, os byddwch yn gweithio'ch degfed diwrnod Cadw mewn Cysylltiad ac yna'n gwneud diwrnod arall o waith yn yr un wythnos, byddwch yn colli eich Tâl Mamolaeth Statudol ar gyfer yr wythnos honno. Mae hyn oherwydd y byddwch wedi gweithio mwy na'r cyfyngiad o ddeng niwrnod yn yr wythnos honno. Yn ystod y Cyfnod Tâl Mamolaeth, mae wythnos yn golygu unrhyw gyfnod o saith niwrnod. Er enghraifft, os dechreuodd eich Tâl Mamolaeth Statudol ar ddydd Iau, bydd wythnos yn para o ddydd Iau hyd ddydd Mercher.

Os byddwch yn dechrau gweithio i gyflogwr newydd

Os byddwch yn dechrau gweithio i gyflogwr newydd cyn i'ch babi gael ei eni, ni fydd hyn yn cael effaith ar eich Tâl Mamolaeth Statudol.

Os byddwch yn dechrau gweithio i gyflogwr newydd ar ôl i'ch babi gael ei eni (os ydych chi'n gweithio i gyflogwr nad oedd yn eich cyflogi yn ystod y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylid i'ch babi gael ei eni) rhaid i'ch Tâl Mamolaeth Statudol ddod i ben. Rhaid i chi ddweud wrth y cyflogwr sy'n talu'ch Tâl Mamolaeth Statudol.

Os byddwch yn dechrau gwneud gwaith gwirfoddol

Fel arfer, nid yw gwaith gwirfoddol yn cael effaith ar Dâl Mamolaeth Statudol.

Os byddwch yn symud i fyw dramor, neu'n mynd ar ymweliad dramor

Unwaith y byddwch yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, neu os ydych chi eisoes yn ei gael, a'ch bod yn mynd dramor, rhaid i'ch cyflogwr dalu Tâl Mamolaeth Statudol i chi.

Os ydych yn gweithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig (y DU) i gyflogwr o’r DU, efallai y gallech gael Tâl Mamolaeth Statudol os yw'ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan, neu byddent yn gwneud hynny pe baech yn ennill digon.

Os oeddech chi'n gweithio i gyflogwr o'r DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac yn y DU a'ch bod wedi gweithio yn y DU yn ystod y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylid i'ch babi gael ei eni, efallai y gallech gael Tâl Mamolaeth Statudol hyd yn oed os nad yw eich cyflogwr wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan.

Os byddwch yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal

Os byddwch yn mynd i gartref gofal neu ysbyty, ni chaiff hynny effaith ar eich Tâl Mamolaeth Statudol.

Os cewch eich anfon i garchar neu eich arestio

Fe ddaw'ch Tâl Mamolaeth Statudol i ben, ond byddwch yn gallu hawlio Lwfans Mamolaeth.

Os byddwch yn sâl ar ddiwedd eich Tâl Mamolaeth Statudol

Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol gan eich cyflogwr. Defnyddir y rheolau arferol i weld a ydych yn gymwys.

Os nad oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Statudol, efallai y gallwch hawlio'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SSP1W i chi er mwyn egluro pam nad oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Statudol.

Tâl Mamolaeth Statudol os ydych yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth

Os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth, mae'n bosibl y gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Os ydych chi'n cael Tâl Mamolaeth Statudol, efallai y gallech hawlio Cymhorthdal Incwm i roi hwb bach i'ch incwm.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fudd-daliadau Mamolaeth yn y daflen NI 17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.

Os byddwch yn feichiog eto

Gallech fod a hawl i gael Tal Mamolaeth Statudol ar gyfer eich plentyn nesaf os byddwch yn bodloni’r rheolau cymhwyster. Darllenwch ‘Tal Mamolaeth Statudol – cymhwysedd’ i gael mwy o wybodaeth.

Tâl Mamolaeth Statudol ac ansolfedd

Os nad yw eich cyflogwr yn gallu talu Tâl Mamolaeth Statudol i chi oherwydd ei fod wedi mynd yn fethdalwr, bydd Cyllid a Thollau EM yn eich talu yn ei le. Dim ond pan fydd eich cyflogwr wedi'i ddatgan yn ffurfiol yn fethdalwr y byddant yn gwneud hyn. Bydd Cyllid a Thollau EM yn dechrau talu yn ystod wythnos yr ansolfedd. Rhaid i unrhyw daliadau cyn y dyddiad hwnnw gael eu talu gan eich cyflogwr.

Os yw eich cyflogwr yn fethdalwr, dylech ffonio'r Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol ar 0191 225 5221.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod am Dâl Mamolaeth Statudol

Bob tro y byddwch yn feichiog, mae’n rhaid i chi ddefnyddio'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni er mwyn cyfrifo eich Tâl Mamolaeth Statudol ar gyfer y cyfnod o feichiogrwydd.

Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Mamolaeth Statudol gan bob cyflogwr.

Os byddwch yn anghytuno gyda’r penderfyniad am eich Tâl Mamolaeth Statudol

Gofynnwch i’ch cyflogwr am reswm os credwch:

  • fod eu penderfyniad i beidio â thalu Tâl Mamolaeth Statudol i chi yn anghywir
  • nid ydych yn cael y swm cywir o Dâl Mamolaeth Statudol

Os byddwch yn anghytuno o hyd, gallwch ffonio llinell ymholiadau Cyllid a Thollau EM ar gyfer cyflogeion ar 0845 302 1479 i gael cyngor.

Darllenwch ‘Taliadau statudol – os ydych yn credu bod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir’ i gael rhagor o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU