Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tâl Mamolaeth Statudol - sut i wneud cais

I wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn bwriadu rhoi'r gorau i weithio i gael babi a'r diwrnod rydych am i'ch taliadau ddechrau. Rhaid i chi hefyd ddarparu tystiolaeth feddygol o'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni.

Dweud wrth eich cyflogwr

Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad rydych am i'ch Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) ddechrau. Efallai y bydd angen rhybudd ysgrifenedig ar eich cyflogwr. Gallwch newid eich meddwl am y dyddiad ond rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd o'r dyddiad newydd.

Os nad yw'n bosibl rhoi rhybudd o 28 diwrnod, rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch. Os bydd eich cyflogwr yn ystyried ei bod yn ymarferol resymol i chi roi gwybod yn gynt nag y gwnaethoch, gall wrthod talu SMP i chi.

Os gallwch gael SMP ac absenoldeb mamolaeth, mae'n well dweud wrth eich cyflogwr am y dyddiad rydych am i'ch SMP ddechrau ar yr un pryd ag y byddwch yn dweud wrth eich cyflogwr am eich absenoldeb mamolaeth.

Bydd y rhan fwyaf o ferched yn gallu cymryd absenoldeb mamolaeth o'u gwaith. I wneud cais am absenoldeb mamolaeth rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr erbyn diwedd yr wythnos gymhwyso fan bellaf (dyma'r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni) eich bod yn feichiog a'r:

  • dyddiad rydych yn disgwyl i'ch babi gael ei eni
  • dyddiad rydych am ddechrau eich absenoldeb mamolaeth

Darllenwch 'Absenoldeb mamolaeth' am ragor o wybodaeth.

Darparu tystiolaeth feddygol i'ch cyflogwr

Mae'n rhaid i chi roi tystiolaeth feddygol i'ch cyflogwr o'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Fel arfer bydd hyn ar y dystysgrif mamolaeth (ffurflen MATB1W) y gallwch ei chael gan eich meddyg neu'ch bydwraig.

Ni allwch gael y dystysgrif hon hyd nes y byddwch wedi cyrraedd yr 20fed wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gael ei eni (fel arfer 21ain wythnos y beichiogrwydd). Fel arfer bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn rhoi'r dystysgrif i chi yn eich apwyntiad cynenedigol nesaf ar ôl hynny.

Dylech roi'r dystiolaeth hon i'ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch a heb fod yn hwyrach na thair wythnos ar ôl y dyddiad y disgwylir i'ch SMP ddechrau. Ni all eich cyflogwr dalu SMP i chi heb y dystiolaeth hon.

Hyd yn oed os caiff eich babi ei eni'n gynamserol, cyn y cyflwynir y dystysgrif mamolaeth i chi, bydd angen y canlynol ar eich cyflogwr:

  • tystiolaeth o'r dyddiad y disgwyliwyd i'ch babi gael ei eni mewn gwirionedd
  • y dyddiad y cafodd eich babi ei eni mewn gwirionedd

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y daflen NI17A - 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU