Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tâl Mamolaeth Statudol - pryd fydd eich taliadau'n dechrau

Yr adeg gynharaf y gellir talu eich Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) yw'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Yr adeg hwyraf yw'r diwrnod ar ôl yr enedigaeth.

Dyddiadau dechrau eich Tâl Mamolaeth Statudol a'ch Cyfnod Tâl Mamolaeth

Os byddwch yn parhau i fod yn gyflogedig yn yr 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni, gallwch ddewis y dyddiad rydych am ddechrau cael eich SMP. Nid oes rhaid i chi fod yn gweithio ar y pryd i gael y dewis hwn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn sâl.

Bydd SMP yn dechrau o unrhyw ddiwrnod y byddwch yn ei ddewis unwaith y byddwch wedi rhoi'r gorau i weithio i gael eich babi. Golyga hyn y dylai'ch SMP ddechrau o ddiwrnod cyntaf eich absenoldeb mamolaeth.

Os daw eich cyflogaeth i ben cyn dechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni, bydd eich SMP yn dechrau ar yr 11eg wythnos honno.

Gellir talu SMP am hyd at 39 o wythnosau, gelwir hyn yn Gyfnod Tâl Mamolaeth.

Amgylchiadau a all wneud gwahaniaeth i ddyddiad dechrau eich SMP

Maent yn amgylchiadau a all wneud gwahaniaeth i ddyddiad dechrau eich SMP, mae'r enghreifftiau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth.

SMP os byddwch i ffwrdd o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd

Bydd dyddiad dechrau eich SMP yn newid os byddwch i ffwrdd o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd, naill ai ar y dechrau neu yn ystod y pedair wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Os bydd hyn yn digwydd, bydd SMP yn dechrau o'r diwrnod yn dilyn y diwrnod llawn cyntaf rydych i ffwrdd o'r gwaith am reswm sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y cyfnod hwn o bedair wythnos.

SMP os byddwch yn colli eich swydd neu os byddwch yn gadael eich swydd

Os oes gennych hawl i SMP a byddwch yn colli eich swydd neu'n gadael eich swydd ar ôl dechrau'r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni ond cyn dechrau'r 11eg wythnos, bydd SMP yn cychwyn o ddechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni.

Os byddwch yn gadael ar unrhyw adeg ar ôl dechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni a chyn dechrau eich Cyfnod Tâl Mamolaeth, bydd eich SMP yn dechrau o'r diwrnod ar ôl i chi adael eich swydd.

SMP os caiff eich babi'n ei eni'n gynnar

Bydd dyddiad dechrau eich SMP yn newid os caiff eich babi ei eni mwy nag 11 wythnos yn gynnar (felly cyn dechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni), neu cyn y dyddiad y gwnaethoch ddewis dechrau eich SMP. Os bydd hyn yn digwydd bydd eich SMP yn dechrau o'r diwrnod yn dilyn genedigaeth eich babi.

SMP a genedigaethau cynamserol

Os caiff eich babi ei eni cyn bod eich Cyfnod Tâl Mamolaeth wedi dechrau ond ar ôl y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni, rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr o fewn tair wythnos. Bydd eich Cyfnod Tâl Mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod yn dilyn y diwrnod y caiff eich babi ei eni.

Os caiff eich babi ei eni'n gynnar ond ar ôl dechrau eich Cyfnod Tâl Mamolaeth, bydd SMP yn parhau i gael ei dalu am 39 o wythnosau o'r dyddiad y dechreuodd eich Cyfnod Tâl Mamolaeth.

SMP a marw-enedigaethau

Hyd yn oed os bydd eich babi yn byw am ennyd yn unig, mae'n enedigaeth fyw a bydd hawl gennych i gael SMP os ydych yn gymwys i'w gael.

Os genir eich babi yn farw cyn 24ain wythnos eich beichiogrwydd ni allwch gael unrhyw SMP, ond efallai y gallwch gael Tâl Salwch Statudol. Siaradwch â'ch cyflogwr am Dâl Salwch Statudol neu cewch ragor o wybodaeth gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Byddwch yn gymwys i gael SMP os genir eich babi yn farw o 24ain wythnos eich beichiogrwydd. I gael y taliad, mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o'r enedigaeth i'ch cyflogwr. Bydd hyn yn hysbysiad ar gyfer cofrestru marw-enedigaeth gan y meddyg neu'r fydwraig sy’n bresennol, neu dystysgrif farw-enedigaeth gan y cofrestrydd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Fudd-daliadau Mamolaeth yn y daflen NI17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU