Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn gyflogai ond na allwch weithio oherwydd eich bod yn sâl, efallai y gallwch gael Tâl Salwch Statudol. Telir gan eich cyflogwr a hynny am hyd at 28 wythnos. Cael gwybod pwy all gael Tâl Salwch Statudol a sut caiff ei dalu.
Os ydych yn gweithio i gyflogwr dan gontract gwasanaeth (hyd yn oed os mai dim ond newydd ddechrau ydych chi ac wedi gwneud rhywfaint o waith), bydd gennych hawl i'r Tâl Salwch Statudol, os yw'r canlynol yn berthnasol:
Caiff cyfartaledd eich enillion wythnosol ei gyfrifo drwy ddefnyddio eich enillion yn y cyfnod o wyth wythnos cyn i’ch salwch ddechrau. Darllenwch ‘Tâl Salwch Statudol - sut y caiff ei weithio allan a pha ddyddiau byddwch yn cael eich talu amdanynt’ am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn.
Er mwyn cael Tâl Salwch Statudol, mae’n rhaid i chi:
Darllenwch 'Tâl Salwch Statudol - dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl a darparu tystiolaeth'.
Y gyfradd safonol ar gyfer Tâl Salwch Statudol yw £85.85 yr wythnos.
Bydd eich cyflogwr yn cyfrifo cyfradd ddyddiol o Dâl Salwch Statudol pe bai angen, drwy rannu'r gyfradd safonol gyda'r dyddiau pan fyddech fel arfer yn gweithio yn yr wythnos honno. I gyfrifo Tâl Salwch Statudol mae wythnos yn rhedeg o ddydd Sul i ddydd Sadwrn.
Fel arfer, telir y Tâl Salwch Statudol ar eich diwrnod cyflog arferol yn yr un modd â'ch enillion cyffredin.
Mae Tâl Salwch Statudol yn amodol ar dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, os mai dim ond y Tâl Salwch Statudol a gewch, efallai na fydd digon ohono i godi treth arno, oni bai eich bod yn cael taliadau eraill yn ychwanegol.
Os na allwch gael Tâl Salwch Statudol, neu os yw wedi dod i ben, rhaid i'ch cyflogwr gwblhau ffurflen SSP1W a'i rhoi i chi. Ar y ffurflen, rhaid i'ch cyflogwr ddweud pam na chafodd y Tâl Salwch Statudol ei dalu neu pam ei fod yn dod i ben, yn ogystal â nodi dyddiad y taliad olaf. Defnyddir ffurflen SSP1W i gefnogi cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae’n bwysig bod eich cyflogwr yn rhoi’r ffurflen i chi gyn gynted â phosibl. Heb y wybodaeth ar y ffurflen, ni ellir gwneud penderfyniad ar eich hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gall oedi eich taliad.
Mae dwy fersiwn o'r ffurflen, un y gallwch ei hargraffu ac yna'i chwblhau â llaw, neu un y gallwch ei chwblhau ar-lein ac yna'i hargraffu.
Os oes gan eich cyflogwr gynllun tâl salwch, sy'n gydradd i'r Tâl Salwch Statudol neu'n well, nid oes rheidrwydd arnynt i weithredu'r cynllun Tâl Salwch Statudol. Efallai hefyd bod ganddynt reolau gwahanol wrth dalu, a bydd rhaid i chi gadw at y rhain.
Am ragor o wybodaeth am gynlluniau tâl salwch galwedigaethol, darllenwch 'hawliau tâl salwch'.
Os byddwch yn sâl ar ôl 28 wythnos o dâl salwch galwedigaethol, neu os daw hwn i ben ynghynt ac nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Salwch Statudol, rhaid i'ch cyflogwr roi ffurflen SSP1W i chi er mwyn i chi allu hawlio'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dylent wneud hyn gyn gynted â bo modd.
Gall y Tâl Salwch Statudol effeithio ar rai budd-daliadau a thaliadau eraill y gallech fod yn gymwys i'w cael. Am ragor o wybodaeth, darllenwch 'Tâl Salwch Statudol - yr effaith ar fudd-daliadau a thaliadau eraill'.
Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, ni chaiff effaith ar y Tâl Salwch Statudol.
Os byddwch yn gweithio dramor, gallech gael Tâl Salwch Statudol os yw eich cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan.
Os byddwch yn mynd dramor ar ymweliad, gallech wneud cais am dâl Salwch Statudol os gallwch brofi eich bod yn dal yn sâl.
Ni all aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog gael Tâl Salwch Statudol, ond efallai y gall aelodau o'u teuluoedd ei gael os byddant yn bodloni’r amodau ar gyfer talu.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch 'Hawlio budd-daliadau yn Ewrop'.
Gofynnwch i’ch cyflogwr am reswm os credwch:
Os ydych yn parhau i anghytuno gallwch ffonio llinell ymholiadau Cyllid a Thollau EM ar gyfer cyflogeion ar 0845 302 1479 i gael cyngor.
Darllenwch ‘Taliadau statudol – os ydych yn credu bod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir’ am fwy o wybodaeth.
Os nad yw eich cyflogwr yn gallu talu Tâl Salwch Statudol i chi oherwydd ei fod wedi mynd yn fethdalwr, bydd Cyllid a Thollau EM yn eich talu.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol ar 0191 225 5221.