Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) gallai effeithio rhai budd-daliadau a thaliadau eraill y mae efallai gennych hawl iddynt.
Ni allwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) os oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Statudol (SSP). Os ydych yn sâl ac wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth efallai y byddwch yn cael y budd-daliadau hyn eto, yn lle cael Tâl Salwch Statudol.
Os ydych wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth o fewn 12 wythnos o fod yn sâl, nid oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Statudol oherwydd gallwch ail hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Efallai na fydd gennych hawl os ydych wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth am 365 diwrnod ac nid ydych yn y Grŵp Cymorth. Dewch i gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Mae'r rheol cysylltu 104 wythnos yn cael ei diddymu o 30 Ebrill 2012. Mae hyn yn golygu ni allwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych yn sâl o fewn 104 wythnos o gais blaenorol yn dod i ben. Mae’r rheolau cysylltiol 12 wythnos yn parhau i fod yn briodol.
Os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol yn unig tra rydych yn sâl, efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau eraill.
Os ydych yn cael SSP oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar ddechrau’r pedair wythnos cyn y disgwylir eich babi neu o fewn y pedair wythnos cyn y disgwylir eich babi, bydd SSP yn dod i ben. Bydd unrhyw hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) neu Lwfans Mamolaeth (MA) yn dechrau’n awtomatig.
Os nad oes gennych salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, gallwch gael SSP am hyd at y diwrnod cyn disgwylir i’ch SMP neu MA ddechrau.
Tâl Mamolaeth Statudol a Lwfans Mamolaeth
Os oes gennych hawl i gael SMP neu MA, ni allwch gael SSP o dan unrhyw amgylchiadau am 39 wythnos yn dechrau gyda’r diwrnod cyntaf o hawl i’r taliadau hynny.
Os nad oes gennych hawl i gael SMP neu MA, ni allwch gael SSP am gyfnod o 18 wythnos. Am fwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â’ch cyflogwr neu linell gymorth Cyflogeion Cyllid a Thollau EM ar 0845 302 1479.
Os ydych yn cael SSP ni allwch wneud cais am Dâl Tadolaeth neu Fabwysiadu Statudol ar yr un pryd.
Dylech allu oedi’r taliadau hyn a gwneud cais am SSP hyd nes y byddwch yn ddigon ffit i gymryd y seibiant. Mae’n rhaid i chi ei gymryd o fewn 56 diwrnod i ddyddiad y geni neu ddyddiad disgwyl lleoli’r plentyn mabwysiadol gyda chi.
Os yw eich cyflogwr yn gweithredu eu cynllun tâl salwch eu hunan, byddant angen ystyried unrhyw hawl gwaelodol sydd efallai gennych i gael SSP am hyd at 28 wythnos.
Os byddwch yn bodloni’r amodau ar gyfer talu a bod eich tâl salwch galwedigaethol yn dod i ben cyn 28 wythnos o salwch, mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu SSP i chi, os byddwch yn gymwys, ar gyfer unrhyw wythnosau sy’n weddill hyd at gyfnod uchafswm o 28 wythnos.
Os nad oes gennych unrhyw hawl gwaelodol i SSP, neu os yw eich tâl salwch galwedigaethol yn dod i ben cyn 28 wythnos nid oes gennych hawl i gael SSP, mae’n rhaid i’ch cyflogwr gwblhau ffurflen SSP1W i chi wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os ydych yn sâl ar ôl 28 wythnos o dâl salwch galwedigaethol mae’n rhaid i’ch cyflogwr gwblhau ffurflen SSP1W i chi wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Mae'n bwysig bod eich cyflogwr yn rhoi’r ffurflen hon i chi cyn gynted â phosibl i gefnogi eich cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Heb y ffurflen hon, ni all gwneud penderfyniad ynglŷn â hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a allai oedi eich taliad.
Darllenwch 'hawl i dâl salwch' am fwy o wybodaeth am gynlluniau tâl salwch galwedigaethol.