Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn feichiog neu fod gennych fabi newydd ond nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol gan unrhyw gyflogwr, gallech wneud cais am Lwfans Mamolaeth drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.
Efallai y cewch Lwfans Mamolaeth:
Gallech fod yn gymwys:
Defnyddir enillion o’ch cyflogaeth ac enillion yr ystyrir eich bod yn eu cael os ydych yn hunangyflogedig i gyfrifo eich Lwfans Mamolaeth. Ceir mwy o wybodaeth am hyn yn y daflen ‘Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth – NI17A’
Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, gallech gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle hynny. Os ydych wedi gwneud cais am Lwfans Mamolaeth, nid oes rhaid i chi wneud cais ar wahân am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn awtomatig yn gweld a allwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os oes gennych fisa sy’n caniatáu i chi fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig, gallech gael Lwfans Mamolaeth. Os bydd eich fisa’n cynnwys yr amod "nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus", gallech barhau i fod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth. Bydd angen i chi fodloni’r amodau cymhwyso. Mae’r amodau cymhwyso ar gyfer Lwfans Mamolaeth yn dibynnu ar eich cyflogaeth a’ch enillion diweddar. O ganlyniad i hyn, ni ddaw Lwfans Mamolaeth o arian cyhoeddus.
Os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth, gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.
Ceir mwy o wybodaeth yn nhaflen 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth – NA17A'.
Os ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (gan unrhyw un o'ch cyflogwyr, hyd yn oed os oes gennych fwy nag un), ni fyddwch yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.
Mae Lwfans Mamolaeth yn talu cyfradd wythnosol safonol o £135.45 neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol gros ar gyfartaledd (cyn treth), pa un bynnag yw'r lleiaf.
Telir Lwfans Mamolaeth am gyfnod o 39 wythnos ar y mwyaf.
Bydd y swm o Lwfans Mamolaeth a gewch yn dibynnu ar eich enillion wythnosol gros ar gyfartaledd, neu'r swm a gewch sy'n cael ei drin fel enillion o'ch hunangyflogaeth. Mae mwy o wybodaeth benodol ar sut caiff eich taliad o Lwfans Mamolaeth ei gyfrifo i'w gweld yn y daflen 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth - NI17A'.
Telir Lwfans Mamolaeth bob wythnos neu bob pythef wythnos yn syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
O'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni yw'r cynharaf y gellir cael Lwfans Mamolaeth. Y diwrnod yn dilyn genedigaeth eich babi yw’r diweddaraf y gallech ei gael.
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Ni chaiff Credydau Treth na Lwfans Byw i’r Anabl ei effeithio gan Lwfans Mamolaeth .
Ond tra byddwch yn cael Lwfans Mamolaeth ac unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol - mae'n bosibl y cânt eu lleihau neu eu hatal:
Gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth cyn gynted ag y byddwch yn feichiog ers 26 wythnos. I gael ffurflen gais (Ffurflen MA1W), ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 012 1888. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os nad oes gennych hawl i Dâl Mamolaeth Statudol gan unrhyw un o'ch cyflogwyr, rhaid i bob un o'ch cyflogwyr roi ffurflen SMP1W i chi i'w hanfon gyda'ch ffurflen gais MA1W.
Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth feddygol i brofi'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Fel arfer, bydd y dyddiad hwn ar y dystysgrif mamolaeth, ffurflen MATB1W. Bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn ei rhoi i chi ddim cynt nag 20 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni.
Bydd angen i chi roi prawf o'ch enillion. Dylech anfon eich slipiau cyflog gwreiddiol. Byddant yn cael eu dychwelyd atoch. Os ydych yn hunangyflogedig anfonwch eich tystysgrif Eithrio Enillion Isel. Os ydych yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, gofynnir i Gyllid a Thollau EM gadarnhau eich bod wedi gwneud pob taliad sy'n ddyledus.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Os byddwch yn gwneud rhywfaint o waith i gyflogwr, neu fel person hunangyflogedig, cyn y disgwylir i'ch Lwfans Mamolaeth ddod i ben, cewch weithio am hyd at ddeg diwrnod heb golli dim Lwfans Mamolaeth. Os byddwch yn gweithio mwy na deg diwrnod, byddwch yn colli Lwfans Mamolaeth am y dyddiau y byddwch yn eu gweithio ar ôl hynny.
Rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith am unrhyw waith yr ydych yn ei wneud pan fyddwch yn cael Lwfans Mamolaeth.
Dyma rai newidiadau na fydd yn cael effaith ar y taliad:
I hysbysu newid ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 608 8674.
Os na allwch siarad neu glywed yn glir, ffoniwch y ffôn testun ar 0845 608 8551
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:00am a 6:00pm.
Os gwrthodir Lwfans Mamolaeth i ch,i neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith ystyried eu penderfyniad eto.
Os ydych yn dal yn an fodlon gyda'r canlyniad, gallwch apelio.
Bob tro y byddwch yn feichiog rhaid i chi ddefnyddio'r wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni i gyfrifo'ch Lwfans Mamolaeth ar gyfer y beichiogrwydd hwnnw.
Mae Credydau Yswiriant Gwladol ar gael ar gyfer pob wythnos gyflawn (o ddydd Sul hyd at ddydd Sadwrn) o fewn cyfnod eich Lwfans Mamolaeth.
Os ydych yn ddi-waith yn yr 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni a'ch bod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, bydd y taliadau'n dechrau bryd hynny. Os genir eich babi cyn hyn, bydd eich Lwfans Mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y geni.
Os genir eich babi cyn dechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni neu cyn y dyddiad y bwriadwyd i'ch Lwfans Mamolaeth ddechrau, bydd y lwfans yn dechrau o'r diwrnod ar ôl geni'r plentyn.
Os byddwch yn absennol o'r gwaith am reswm yn gysylltiedig â'r beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni, bydd Lwfans Mamolaeth yn dechrau'r diwrnod ar ôl y diwrnod llawn cyntaf i chi fod yn absennol o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd.
Os ydych yn dal yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig yn ystod yr 11 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir eich babi, cewch ddewis pryd i ddechrau cael Lwfans Mamolaeth. Bydd y dyddiad yr ydych yn ei ddewis yn cyd-fynd â'r dyddiad y byddwch yn dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth.
Marw-enedigaethau
Hyd yn oed os bydd eich babi yn byw am ennyd yn unig mae'n enedigaeth fyw a bydd gennych hawl i gael Lwfans Mamolaeth os byddwch yn gymwys i’w gael.
Os yw eich baban yn farwanedig yn gynharach na 24ain wythnos eich beichiogrwydd, ni allwch gael unrhyw Lwfans Mamolaeth. Gallech gael Tâl Salwch Statudol (SSP) os ydych yn dal i weithio, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth drwy'r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae gennych hawl i gael Lwfans Mamolaeth os yw eich babi yn farwanedig o 24ain wythnos eich beichiogrwydd. I gael y taliad, mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o'r enedigaeth i'r Ganolfan Byd Gwaith. Bydd hyn yn hysbysiad ar gyfer cofrestru marw-enedigaeth gan y meddyg neu'r fydwraig sy’n bresennol, neu dystysgrif farw-enedigaeth gan y cofrestrydd.
Ceir mwy o wybodaeth yn nhaflen 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth - N117A'.
Gweithio dramor
Mae Lwfans Mamolaeth yn seiliedig ar eich cyflogaeth ac enillion yn y DU. Os nad ydych wedi gweithio am gyfnod digon hir yn y DU, mae’n bosibl y gall eich gwaith dramor gael ei ddefnyddio i gael Lwfans Mamolaeth. Os ydych wedi gweithio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (neu mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda'r DU) gall hyn gael ei ddefnyddio tuag at hawl.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwledydd y mae gan y Deyrnas Unedig gytundeb a hwy a'r budd-daliadau a gwmpesir ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.