Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd eich gwraig, partner neu bartner sifil yn rhoi genedigaeth i blentyn neu'n mabwysiadu plentyn, gallech gael Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin. Dewch i gael gwybod mwy am eich hawl i gael Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin a sut i’w gael.
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin rhaid i'r canlynol i gyd fod yn wir amdanoch chi:
Gallwch gael cymorth personol ar yr hyn rydych yn gymwys i’w gael drwy ddefnyddio'r offeryn hawliau tadolaeth yn y gwaith ar-lein. Bydd yr offeryn yn rhoi datganiad personol o'r Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredinol y gallech fod yn gymwys i’w gael.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i agor hawliau a chyfrifoldebau tadolaeth.
Os ydych yn ennill £107 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir y Tâl Mabwysiadu Statudol Cyffredin, sef, £134.45 am un neu ddwy wythnos ddilynol neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai.
Bydd eich cyflogwr yn talu'r Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin i chi yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ag y byddwch chi'n cael eich cyflog Cyffredin.
Bydd eich Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin yn cael ei drin fel petai'n gyflog Cyffredin, ac felly, bydd treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu oddi arno fel arfer
I hawlio Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin, mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd rydych yn bwriadu bod yn absennol a hynny erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad tebygol geni'r babi, neu o fewn saith niwrnod i'r adeg pan fydd eich gwraig, eich partner neu bartner sifil yn cael gwybod gan yr asiantaeth fabwysiadu bod plentyn ar gael iddynt.
Os byddwch yn newid eich meddwl, mae’n rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd.
Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi am ffurflen hunandystysgrifo SC3 - dod yn rhiant - sy'n cadarnhau bod gennych yr hawl i'r tâl
Cewch ddewis pa bryd i ddechrau cael eich Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin. Gall y cyfnod absenoldeb ddechrau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos
Cewch gymryd naill ai un wythnos neu ddwy wythnos ar ôl ei gilydd, ond nid diwrnodau nawr ac yn y man.
Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Tadolaeth Statudol gan bob cyflogwr.
Ni all eich cyflogwr dalu Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin i chi am unrhyw wythnos pan fyddwch yn gweithio.
Os na allwch gael Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin, mae’n rhaid i'ch cyflogwr gwblhau’r ffurflen OSPP1. Yna bydd yn rhaid i'ch cyflogwr rhoi’r furflen hon i chi yn dweud wrthych pam nad yw OSSP wedi cael ei dalu.
Gallwch lawrlwytho ffurflen OSSP1 oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol.
Os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir, cysylltwch â llinell ymholiadau cyflogeion Cyllid a Thollau EM (HMRC) ar 0845 302 1479. Gallwch chi hefyd ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os nad ydych yn cael y swm cywir o Dâl Tadolaeth Statudol Cyffredin
I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ‘Taliadau statudol – os ydych yn credu bod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir’.