Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn meddwl bod penderfyniad eich cyflogwr ynglŷn â'ch Taliad Statudol yn anghywir, gofynnwch iddynt am y rheswm. Os byddwch yn dal yn anghytuno, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am gyngor ynglŷn â'ch hawl. Yma, cewch ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut mae cofrestru eich anghydfod gyda Chyllid a Thollau EM.
Os ydych chi'n meddwl bod penderfyniad eich cyflogwr ynglŷn â'ch Taliad Statudol yn anghywir, gofynnwch iddynt am y rheswm dros y penderfyniad.
Rhaid i chi ofyn i'ch cyflogwr cyn gynted ag y bo modd a dylent roi eu rhesymau i chi ar bapur. Gallai siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf helpu i ddatrys unrhyw broblemau.
Os na allwch chi a’ch cyflogwr gytuno ar eich taliadau, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM am gyngor.
Mae Cyllid a Thollau EM yn darparu cyngor am y Taliadau Statudol canlynol:
• Tâl Mabwysiadu Statudol
• Tâl Mamolaeth Statudol
• Tâl Tadolaeth Statudol
• Tâl Salwch Statudol
Gellir cysylltu â'r llinell gymorth cyflogeion Cyllid a Thollau EM ar 0845 302 1479. Byddant yn eich helpu i ddeall y rheolau ar gyfer taliadau, gan ystyried eich amgylchiadau penodol.
Ar ôl siarad â'r llinell gymorth gweithiwr Cyllid a Thollau EM, efallai y byddwch yn dymuno mynd â'ch achos ymhellach. Os gwnewch hynny, byddant yn rhoi rhif ffôn Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol Cyllid a Thollau EM er mwyn i chi gofrestru eich anghydfod.
Os byddwch yn penderfynu cofrestru anghydfod, bydd angen i chi roi:
Bydd angen i chi hefyd egluro beth ddigwyddodd ar ôl penderfyniad eich cyflogwr, gan gynnwys unrhyw ddyddiadau perthnasol, a dylech anfon copïau o unrhyw lythyrau gan eich cyflogwr. Mae'n rhaid i chi gofrestru eich anghydfod gyda'r Tîm Anghydfodau cyn pen chwe mis i ddyddiad penerfynaid eich cyflogwr i bedio â thalu.
Cofiwch, mae'n rhaid i chi siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf, gan geisio datrys y broblem ymysg eich gilydd, cyn ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM
Bydd y Tîm Anghydfodau yn ceisio datrys y mater drwy ffonio eich cyflogwr. Os nad ydynt yn gallu gwneud hynny, byddant yn ysgrifennu at eich cyflogwr er mwyn cael gwybodaeth i'w helpu i wneud penderfyniad. Efallai y byddant hefyd yn ysgrifennu atoch chi er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
Os credwch eich bod â hawl i gael Tâl Salwch Statudol ond nad yw eich cyflogwr yn credu eich bod yn sâl (hyd yn oed os oes gennych dystiolaeth feddygol gan eich meddyg) efallai y bydd angen i chi gael yr archwiliad meddygol a drefnir drwy Gyllid a Thollau EM cyn y gwneir penderfyniad. Caiff yr archwiliad meddygol ei gynnal gyda’ch caniatâd.
Bydd y Tîm Anghydfodau wedyn yn rhoi barn anffurfiol yn seiliedig ar eich tystiolaeth chi, eich cyflogwr a chanlyniadau'r archwiliad meddygol.
Os bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu bod gennych hawl i Daliad Statudol, dylai eich cyflogwr eich talu erbyn eich diwrnod cyflog nesaf. Os na fyddwch yn cael taliad rhaid i chi roi gwybod i'r Tîm Anghydfodau.
Os byddwch chi neu'ch cyflogwr yn anghytuno â'r penderfyniad, mae'n rhaid i chi roi eich rhesymau i Gyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad. Yna, caiff yr achos ei drosglwyddo at Swyddog Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM er mwyn ystyried yr achos a chyflwyno penderfyniad ffurfiol.
Mae gennych chi a'ch cyflogwr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ffurfiol hwn. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid apelio o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad. Os bydd y naill neu'r llall ohonoch yn apelio, ni fydd y taliad yn cael ei wneud nes bydd yr apêl wedi'i wrando.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y broses apelio ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Gall ambell gorff gynnig cymorth a chyngor ynglŷn â Thaliadau Statudol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: