Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Tâl Mabwysiadu Statudol yw'r taliad wythnosol a gewch chi gan eich cyflogwr i'ch helpu i gael amser o'r gwaith wrth fabwysiadu plentyn. Dewch i gael gwybod mwy, gan gynnwys sut i wneud cais.
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mabwysiadu Statudol rhaid eich bod:
Gallwch gael cymorth personol ar yr hyn rydych yn gymwys i’w gael drwy ddefnyddio'r offeryn hawliau mabwysiadu yn y gwaith ar-lein. Bydd yr offeryn yn rhoi datganiad personol o fudd-daliadau mabwysiadu y gallech fod yn gymwys i’w gael.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i agor yr offeryn hawliau mabwysiadu yn y gwaith
Os ydych yn ennill £107 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir Tâl Mabwysiadu Statudol sef £135.45 neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai.
Os byddwch yn gymwys, cewch Dâl Mabwysiadu Statudol am 39 wythnos.
Bydd eich cyflogwr yn talu'r Tâl Mabwysiadu Statudol i chi yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ag y byddwch chi'n cael eich cyflog arferol.
Bydd eich Tâl Mabwysiadu Statudol yn cael ei drin fel petai'n gyflog arferol, felly bydd treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu ohono hefyd.
Er mwyn hawlio Tâl Mabwysiadu Statudol, rhaid i chi ddangos tystiolaeth i'ch cyflogwr, sef y dogfennau a gawsoch chi gan yr asiantaeth fabwysiadu. Fel arfer, 'tystysgrif baru' fydd y ddogfen hon.
Rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd rydych chi'n bwriadu bod yn absennol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn saith diwrnod ar ôl i'r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych eich bod wedi'ch paru gyda phlentyn.
Cewch ddewis pa bryd i ddechrau cael eich Tâl Mabwysiadu Statudol. Gall ddechrau ar ddyddiad lleoli'r plentyn neu hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad y disgwylir i'r plentyn gael ei leoli.
Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosib y gallwch chi gael Tâl Mabwysiadu Statudol gan bob cyflogwr.
Gallech weithio i’r cyflogwr sy’n talu Tâl Mabwysiadu Statudol am ddeng diwrnod heb golli unrhyw Dâl Mabwysiadu Statudol.
Os na allwch gael Tâl Mabwysiadu Statudol, mae’n rhaid i'ch cyflogwr gwblhau’r ffurflen SAP1. Yna, bydd yn rhaid i'ch cyflogwr roi’r furflen hon i chi yn dweud wrthych pam nad yw Tâl Mabwysiadu Statudol wedi cael ei dalu.
Gallwch lawrlwytho ffurflen SAP1 oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol.
Os ydych yn credu bod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir, cysylltwch a’r llinell ymholiadau cyflogeion Cylliad a Thollau EM ar 0845 302 1479. Gallwch hefyd ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os nad ydych yn cael y swm cywir o Dâl Mabwysiadu Statudol.
Am ragor o wybodaeth, darlleiwch ‘Taliadau statudol – os ydych yn credu bod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir’.
Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mabwysiadu Statudol cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gael gwybod am gymorth ariannol arall a allai fod ar gael i fabwysiadwyr.