Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych ar incwm isel, ac yn cael rhai budd-daliadau neu gredydau treth, gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.Taliad untro yw hwn i’ch helpu tuag at gostau mamolaeth ac eitemau babi. Mae’r grant yn ddi-dreth ac nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Rheolau ar gyfer Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol ar gyfer Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Taliad ar gyfer eich babi newydd ac unrhyw fabanod eraill a anwyd ar yr un pryd

Gallwch ond gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os nad oes unrhyw blant eraill o dan 16 oed yn eich teulu.

Talu ar gyfer babi newydd eich plentyn dibynnol ac unrhyw fabanod eraill a anwyd ar yr un pryd

Gallwch ond gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os yw eich plentyn dibynnol o dan 20 oed ac nid oes ganddynt blant eraill.

Estyniad i’r rheolau ar gyfer Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Mae'r rheolau presennol wedi cael eu hymestyn er mwyn caniatáu talu Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn mewn rhai amgylchiadau pan fydd genedigaeth luosog. Dyma lle mae plentyn neu blant o dan 16 oed eisoes yn y teulu. Mae hyn yn berthnasol i geisiadau a wnaed rhwng 13 Awst 2012 ar gyfer babanod:

  • sy’n ddisgwyliedig ar neu ar ôl 29 Hydref 2012
  • sy’n cael eu geni ar neu ar ôl 29 Hydref 2012
  • sydd wedi cael eu mabwysiadu neu mewn trefniadau tebyg ar neu ar ôl 29 Hydref 2012

Os ydych yn disgwyl genedigaeth luosog ar 29 Hydref 2012 neu ar ôl hynny

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os oes gennych blentyn neu blant o dan 16 oed yn eich teulu.

Mae'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar p'un a yw nifer y babanod a anwyd neu a ddisgwylir yn fwy na nifer y plant sydd eisoes yn y teulu.

Enghreifftiau

Mae dau o blant wyth oed a deg oed yn y teulu a disgwylir tripledi. Bydd Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn daladwy ar gyfer dau o'r babanod newydd.

Mae gefeilliaid pedair oed yn y teulu o enedigaeth luosog blaenorol a disgwylir tripledi. Bydd Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn daladwy ar gyfer un o'r babanod newydd.

Os yw eich plentyn dibynnol o dan 20 oed

Os yw eich plentyn dibynnol:

  • o dan 20 oed
  • yn disgwyl genedigaeth luosog ar 29 Hydref 2012 neu ar ôl hynny

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os oes gan eich plentyn dibynnol plentyn neu blant yn barod.

Mae'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar p'un a yw nifer y babanod a anwyd neu a ddisgwylir yn fwy na nifer y plant sydd eisoes yn y teulu.

Enghreifftiau

Mae eisoes gan eich plentyn dibynnol ddau o blant rhwng un a dwy oed ac maent yn disgwyl gefeilliaid. Bydd Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn daladwy ar gyfer un o'r babanod newydd.

Mae gan eich plentyn dibynnol gefeilliaid sy’n ddwy oed ac maent yn disgwyl tripledi. Bydd Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn daladwy ar gyfer un o'r babanod newydd.

Pwy all gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?

Gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os ydych chi neu'ch partner yn cael unrhyw un o'r canlynol ar y dyddiad rydych yn ei hawlio:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd ddifrifol

ac os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi ar y dyddiad rydych yn ei hawlio:

  • rydych chi neu'ch partner yn feichiog ac yn disgwyl babi o fewn 11 wythnos neu wedi rhoi genedigaeth o fewn y tri mis diwethaf
  • mae plentyn dibynnol rydych yn cael budd-dal ar ei rhan yn disgwyl babi o fewn 11 wythnos neu wedi rhoi genedigaeth o fewn y tri mis diwethaf
  • nid chi yw’r fam ac rydych wedi dod yn rhiant unigol sy'n gyfrifol am faban nad yw’n fwy na blwydd oed
  • rhoddwyd gorchymyn mabwysiadu neu breswylio i chi neu’ch partner ar gyfer babi nad yw’n fwy na blwydd oed
  • rhoddwyd gorchymyn rhiant i chi neu’ch partner ar gyfer genedigaeth faeth ac nid yw’r babi yn fwy na blwydd oed
  • rydych chi neu'ch partner wedi cael eich penodi’n warcheidwad babi nad yw’n fwy na blwydd oed
  • lleolwyd babi gyda chi neu’ch partner i’w fabwysiadu gan asiantaeth ac nid yw’r babi yn fwy na blwydd oed
  • rydych chi neu'ch partner wedi mabwysiadu babi dramor ac nid yw’r babi yn fwy na blwydd oed

Defnyddir y term partner yma i olygu:

  • person rydych yn briod â hwy neu berson rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn briod â hwy, neu
  • bartner sifil neu berson rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn bartneriaid sifil.

Faint fyddwch yn ei gael?

Gallwch gael £500 am bob babi. Ni fydd eich cynilion yn effeithio ar y grant.

Sut mae Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Sut i wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Gallwch wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn drwy gwblhau pecyn cais SF100W (Cychwyn Cadarn).

Dylech ddychwelyd eich pecyn cais wedi’i gwblhau i’r cyfeiriad canlynol:

Freepost Plus RSCE-EATS-AHAK
Wembley BDC
PO Box 110
London SW95 9EA

I gael pecyn cais, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith. Gallwch lawrlwytho pecyn cais oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Dylech ddychwelyd eich pecyn cais wedi’i gwblhau i’r Ganolfan Byd Gwaith

Pryd i wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Mae pryd i wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os:

  • byddwch chi, neu aelod o'ch teulu, yn feichiog neu wedi cael babi - gallwch wneud cais o 11 wythnos cyn yr enedigaeth nes bod y babi yn dri mis oed
  • bydd eich plentyn dibynnol wedi dod yn rhiant cyfrifol babi (ond nid y fam), mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis ar ôl iddynt ddod yn gyfrifol
  • byddwch wedi dod yn rhiant cyfrifol babi (ond nid y fam), mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis o fod yn gyfrifol
  • rhoddwyd gorchymyn mabwysiadu, preswylio neu riant, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i roi’r gorchymyn
  • rydych wedi mabwysiadu babi dramor, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i'r effaith hon cymryd lle neu'n cael ei gydnabod
  • rydych wedi cael ei benodi’n warcheidwad y babi neu wedi cael babi wedi’i leoli gyda chi i'w fabwysiadu gan asiantaeth, mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i hyn ddigwydd

Os ydych yn disgwyl am benderfyniad am fudd-dal neu gredyd treth cymwys, peidiwch ag oedi cyn gwneud eich cais. Mae hyn oherwydd mae'n rhaid i chi barhau i hawlio o fewn y terfyn amser o dri mis.

Yr effaith ar fudd-daliadau neu gredydau treth

Ni chaiff Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn effaith ar eich budd-daliadau eraill na'ch credydau treth.

Beth arall sydd angen i chi ei wybod

Pan fyddwch yn gwneud cais bydd angen i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith:

• y dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni

• y dyddiad geni os yw eich babi eisoes wedi'i eni

Os ydych wedi dod yn rhiant cyfrifol, dywedwch wrth y Ganolfan Byd Gwaith:

• pan ddaeth y babi i fyw gyda chi

• pryd cawsoch y dyfarniad Budd-dal Plant

Bydd angen i’r Ganolfan Byd Gwaith weld copi gwreiddiol o bapurau os yw'r babi rydych yn hawlio ar ei rhan yn destun i:

• mabwysiad

• lleoliad ar gyfer mabwysiadu

• gorchymyn preswylio

• genedigaeth faeth

• gwarcheidwaeth

Bydd angen i chi hefyd ddangos i’r Ganolfan Byd Gwaith eich bod chi wedi bod yn cael cyngor ar anghenion iechyd a lles cyffredinol y babi. Os byddwch yn hawlio cyn i'r babi gael ei eni, bydd angen i chi hefyd ddangos eich bod wedi bod yn cael cyngor ar iechyd mamolaeth.

Mae tystysgrif ar gyfer hwn ar gefn y ffurflen gais y bydd angen i chi gael ei llofnodi gan weithiwr iechyd proffesiynol, er enghraifft:

• bydwraig gymunedol neu ysbyty

• ymwelydd iechyd

• eich meddyg

Gallwch gael rhagor o wybodaeth o'r Ganolfan Byd Gwaith.

Sut i apelio

Os gwrthodir Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i chi, neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith o fewn mis i ddyddiad llythyr y penderfyniad.

Os byddwch yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith yn hwyrach na hynny, efallai na fyddant yn gallu'ch helpu.

Gallwch chi, neu rywun arall a chanddynt yr awdurdod i weithredu ar eich rhan:

  • gofyn am eglurhad
  • gofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad
  • gofyn i’r Ganolfan Byd Gwaith ailedrych ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid. Efallai eich bod yn credu bod rhai ffeithiau wedi cael eu hanwybyddu, neu efallai bod gennych wybodaeth sy'n effeithio ar y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol. Rhaid bod yn ysgrifenedig

Gallwch gymryd unrhyw un o'r camau a restrir uchod, neu gallwch gymryd pob un ohonynt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU