Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cynhaliaeth plant wneud gwahaniaeth pwysig i les plentyn. Arian yw Cynhaliaeth Plant a delir gan riant nad yw'n byw gyda'r teulu i'r rhiant sy'n gofalu er mwyn helpu gyda chostau byw bob dydd y plentyn. Canfyddwch fwy am eich opsiynau cynhaliaeth plant.
Os ydych yn rhiant mae’n bwysig nad yw eich cyfrifoldeb ariannol am y plentyn yn dod i ben ar ôl i’r perthyans a’r rhiant arall chwalu. Gall rhoi cytundeb cynhaliaeth plant effeithiol ar waith gwneud gwahaniaeth sylweddol i les plentyn.
Y ddau brif opsiwn y gallwch ddewis ar gyfer trefnu cytundeb cynhalieth plant yw:
Os hoffech gael gwybod mwy am eich opsiynau, ewch i wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant. Mae’r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn wasanaeth di-dâl sy’n cynnig gwybodaeth ddi-duedd i helpu’r naill riant a’r llall wneud dewis gwybodus am gynhaliaeth.
Ers Ebrill 12 2010, gallwch gadw'r holl gynhaliaeth a dalwyd i chi heb iddo effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi barhau i ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith am unrhyw daliadau cynhaliaeth a gewch.
Mae gan y DU drefniadau gyda mwy na 100 o wledydd a thiriogaethau sy’n golygu y gall person sy’n byw mewn un wlad hawlio cynhaliaeth gan gynbartner sy’n byw mewn gwlad arall. Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth, - neu REMO - yw’r enw a roddir yn y DU ar gyfer y broses hon. Ymdrinnir â cheisiadau REMO gan y llysoedd. Dilynwch y cysywllt cyntaf isod am restr o’r holl wledydd sydd gan gytundeb REMO â’r DU.
Gwneud cais yn erbyn rhwyun dramor
Os oes eisoes gennych gorchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth pan oedd eich cyn-bartner yn byw yn y DU, dylech fynd i'r llys a wnaeth y gorchymyn. Defnyddiwch y cyswllt CourtFinder isod i ganfod manylion cyswllt ay llys. Gall staff y llys esbonio’r broses i chi.
Os nad oes eisoes gennych orchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth (os oes gennych asesiad CSA yn unig, er enghraifft), dylech gysylltu â’ch llys ynadon lleol neu lys teulu am wneud cais o’ch cynbartner sy’n byw dramor.
Credydau treth
Os byddwch yn dechrau gwaith ac ar incwm isel, gallech gael arian o gredydau treth. Os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi, gallech fod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant i helpu gyda’r gost o ofalu amdanynt.
Gall eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol roi gwybod i chi'r hyn y byddwch yn gymwys i’w gael.
Credyd Mewn Gwaith
Mae Credyd Mewn Gwaith yn daliad penodol di-dreth y gallai fod ar gael os ydych yn rhiant sy’n magu plant ar eich pen eich hun. Defnyddiwch y cyswllt isod i ganfod os gallwch wneud cais amdano.