Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cynllun oedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ac roedd yn gymorth wrth ddiogelu eich Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010. Dewch i gael gwybod sut i wneud cais am flynyddoedd treth flaenorol a’r credydau newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, naill ai byddech wedi bod yn gymwys yn awtomatig ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref neu byddech wedi gwneud cais amdano.
Cymhwyso'n awtomatig ar gyfer y Cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Cawsoch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref os oeddech yn cael:
Gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Dylech fod wedi gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref os oeddech:
Wrth gyfrifo eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, tynnwyd nifer y blynyddoedd hynny pan oeddech yn cael taliadau Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref o'r nifer o flynyddoedd cymwys sydd eu hangen er mwyn cyfrifo'ch pensiwn.
Ond ar gyfer Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, nid oedd cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn gallu gostwng nifer y blynyddoedd cymwys o dan 20.
Byddwch hefyd wedi adeiladu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth pe byddech yn gymwys ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref oherwydd bydde:
Disodlwyd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.
O 6 Ebrill 2010, gall rhieni a gofalwyr adeiladu blynyddoedd cymhwyso drwy gredydau wythnosol newydd ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Phensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr, byddwch yn cael credyd ar gyfer pob wythnos y byddwch yn:
Ni fydd unrhyw gyfyngiad ar gredydau a ddyfarnwyd i rieni a gofalwyr ar ôl mis Ebrill 2010, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r rheolau cymhwyso.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd blynyddoedd treth llawn o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref rydych eisoes wedi adeiladu cyn 2010 wedi cael eu trosi i flynyddoedd cymwys hyd at uchafswm o 22 mlynedd. Bydd y blynyddoedd cymhwyso hyn hefyd yn cyfrif tuag at fudd-daliadau profedigaeth.
Yn yr amgylchiadau canlynol, ni fyddech fel arfer wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Lwfans Gofalwr
Os ydych yn cael Lwfans Gofalwr byddwch chi'n cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig ac fel arfer ni fyddai fel arfer angen i chi wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Menywod priod neu weddwon
Os oeddech yn wraig briod neu'n wraig weddw, ni allech gael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar gyfer unrhyw flwyddyn dreth gyflawn os:
Gallech barhau i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref os oeddech:
Gallwch wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EM i gael ffurflen gais CF411.
Lawrlwytho ffurflen i’w hargraffu a’i chwblhau
Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen hawlio CF411 o wefan Cyllid a Thollau EM.
Gofalwyr maeth
Os ydych chi'n ofalwr maeth, pan fyddwch chi'n llenwi ffurflen CF411, rhaid i chi roi llythyr gan eich awdurdod lleol neu'r asiantaeth rydych chi'n gweithio iddi yn cadarnhau eich bod wedi bod yn ofalwr maeth cymeradwy drwy gydol y flwyddyn dreth gyflawn.
Pryd i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Os ydych yn hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref am y blynyddoedd pan fuoch chi'n gofalu am rywun â salwch neu anabledd hirdymor rhwng mis Ebrill 1978 a mis Ebrill 2002, gallwch hawlio unrhyw bryd. Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallech barhau i wneud cais ond. Ni fyddwch fel arfer yn cael eich talu unrhyw ychwanegiad o Bensiwn y Wladwriaeth y gallai fod wedi bod yn ddyledus am y blynyddoedd blaenorol.
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2002/03 ymlaen, roedd yn rhaid i chi wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref o fewn tair blynedd i ddiwedd unrhyw flwyddyn dreth a dreuliwyd gennych yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd hirdymor.
Enghreifftiau
Oes oeddech yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd hirdymor trwy gydol y flwyddyn dreth 2009-10, mae’n rhaid i chi wneud cais cyn 5 Ebrill 2013.