Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymhorthdal Incwm

Mae Cymhorthdal Incwm yn arian ychwanegol i helpu pobl ar incwm isel. Mae ar gyfer pobl nad ydynt yn gorfod llofnodi’n ddi-waith. P'un a ydych yn gymwys neu beidio a faint a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Ceir yma rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pwy all ei gael.

Pwy all gael Cymhorthdal Incwm?

Mae ar gyfer pobl y mae’r cyfan isod yn berthnasol iddynt hwy:

  • rhwng 16 oed a’r oed y gallant gael Credyd Pensiwn
  • yn cael incwm isel
  • yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, yn dibynnu ar swm eich cyflog
  • heb fod yn astudio’n llawn amser (ond ceir ambell eithriad)
  • nad ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • heb gynilion dros £16,000
  • yn byw ym Mhrydain Fawr

Gallech gael Cymhorthdal Incwm os ydych yn un o'r canlynol:

  • yn rhiant unigol
  • ar absenoldeb rhiant neu dadolaeth
  • yn ofalwr
  • yn ffoadur sy'n dysgu Saesneg a gyrhaeddodd llai na blwyddyn yn ôl

Gall pobl ifanc mewn addysg berthnasol hefyd gael Cymhorthdal Incwm. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu addysg llawn amser hyd at TAG Safon Uwch. Gallai hyn fod yn berthnasol os ydych:

  • yn rhiant
  • heb fod yn byw gyda rhiant neu rywun sy’n gweithredu fel rhiant
  • mewn perygl difrifol o gamdriniaeth neu drais
  • yn ffoadur sy'n dysgu Saesneg

Gallwch gael Cymhorthdal Incwm yn ogystal â rhai budd-daliadau eraill.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Credyd Pensiwn

Os ydych chi neu’ch partner ar incwm isel ac wedi cyrraedd yr oedran isafswm cymhwyso, gallai fod gennych hawl i gael Credyd Pensiwn.

Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegiad i’ch incwm wythnosol at isafswm lefel gwarantedig.

Mae’r oedran y gallwch gael Credyd Pensiwn- yr oedran cymhwyso - yn codi’n raddol i 66 oed ochr yn ochr ag ychwanegiad oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched i 65 oed ac ychwanegiad pellach i 66 oed ar gyfer dynion a merched.

Teuluoedd a Chymhorthdal Incwm

Gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm ar eich cyfer chi a'ch partner.

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich trin fel cwpl os ydych yn byw:

  • gyda’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • gyda rhywun fel pe baent yn ŵr, gwraig neu bartner sifil i chi

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn galw’r person arall yn eich partner.

Ni thelir Cymhorthdal Incwm bellach ar gyfer plant os ydych yn gwneud cais o’r newydd. I gael arian ar gyfer plant, rhaid i chi bellach wneud cais am Gredyd Treth Plant yn lle hynny.

Dim ond un person mewn teulu sy’n gallu hawlio Cymhorthdal Incwm ar unrhyw un adeg. Mae sawl math o bremiymau (symiau ychwanegol) y gallech eu cael yn seiliedig ar eich amgylchiadau chi a’ch partner. Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy.

Rhieni unigol a Chymhorthdal Incwm

Mae newidiadau i Gymhorthdal Incwm a allai effeithio ar eich hawl os ydych yn ei gael oherwydd eich bod yn rhiant unigol.

Os ydych newydd ddechrau hawlio Cymhorthdal Incwm efallai na fyddwch wedi cael cyfweliad gydag ymgynghorydd personol eto. Gall ymgynghorwyr personol eich helpu i ystyried eich opsiynau ar gyfer dychwelyd i'r gwaith a dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael. Gallwch ofyn am apwyntiad i weld ymgynghorydd ar unrhyw adeg. Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Cychwyn Cadarn
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
  • budd-daliadau eraill, fel Credydau treth a Chychwyn Iach
  • helpu rhieni unigol yn ôl i’r gwaith

Cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith os hoffech siarad ag ymgynghorydd.

Gwaith a Chymhorthdal Incwm

Gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.

Pan fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn asesu eich cais am fudd-dal byddant yn ystyried rhan o’ch enillion neu gyd ohono, yn dibynnu ar y swm.

Mae'r swm a anwybyddir ganddynt yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Absenoldeb rhiant a Chymhorthdal Incwm

Os ydych yn cymryd absenoldeb rhiant di-dâl, neu absenoldeb tadolaeth (cyflogedig neu ddi-dâl), gallech gael Cymhorthdal Incwm. Rhaid i chi fodloni’r holl amodau eraill ar gyfer cael Cymhorthdal Incwm, a bod yn gymwys i un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Credyd Treth Plant (ar gyfradd uwch na'r elfen deulu)

Os nad ydych yn gymwys i gael un o'r budd-daliadau a restrir uchod, a byddwch yn cymryd absenoldeb rhiant di-dâl, efallai y gallwch gael Cymhorthdal Incwm.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy.

Gwirfoddoli a Chymhorthdal Incwm

Gallwch wirfoddoli cyn belled â'ch bod yn bodloni'r amodau ar gyfer cael Cymhorthdal Incwm.

Os ydych yn gwirfoddoli, rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith. Byddant yn gofyn i chi lenwi ffurflen.

Fel gwirfoddolwr, efallai cewch eich talu rhai o'ch costau, er enghraifft costau teithio, Nid yw'r rhain fel arfer yn cael eu cyfrif fel incwm. Bydd angen i chi gadw derbyniadau ar gyfer unrhyw daliadau i chi, i brofi eu bod ar gyfer costau’n unig.

Sut y gallwch hawlio Cymhorthdal Incwm a faint y gallwch ei gael

Dewch o hyd i wybodaeth am sut y gallwch hawlio Cymhorthdal Incwm a faint y gallwch ei gael.

Taflen wybodaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith

Cewch mwy o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU