Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Talu Syml

Mae Talu Syml yn ffordd i bobl nad oes ganddynt gyfrif i gasglu taliadau budd-dal, pensiwn neu gynhaliaeth plant. Gallwch gasglu eich taliadau o fan PayPoint sy'n arddangos yr arwydd Talu Syml. Dewch i gael gwybod mwy, gan gynnwys sut i ddod o hyd i safle PayPoint sy'n dangos arwydd Talu Syml yn eich ardal.

Casglu eich taliadau

Pan fydd disgwyl i chi gael taliad budd-dal, pensiwn neu gynhaliaeth plant, ewch â'ch cerdyn Talu Syml i fan PayPoint sy’n arddangos yr arwydd Talu Syml. Bydd eich taliad ar gael i'w gasglu yno.

I gasglu taliad, bydd angen i chi roi eich cerdyn a chadarnhau eich dyddiad cofiadwy. Bydd angen i chi hefyd roi rhywfaint o dystiolaeth sy’n cadarnhau pwy ydych. Gallai hyn fod ar ffurf:

  • trwydded yrru ddilys â llun y DU neu drwydded yrru ar bapur
  • pasbort cyfredol
  • bil nwy, trydan, dŵr neu linell ddaear ffon cyfredol (llai na 3 mis oed)

Cewch restr lawn o’r dogfennau y gallwch eu defnyddio i brofi pwy ydych ar dudalen 5 o’r daflen 'Cwestiynau am eich cerdyn Talu Syml’.

Dod o hyd i fan PayPoint sy’n arddangos yr arwydd Talu Syml

Ceir mannau PayPoint mewn siopau papurau newydd lleol, siopau cyfleus neu archfarchnadoedd. Gallwch ddefnyddio'r man PayPoint sy'n arddangos yr arwydd Talu Syml - ni fydd pob man PayPoint yn arddangos yr arwydd Talu Syml.

Defnyddiwch y teclyn chwiliad cod post i ddod o hyd i'ch man Paypoint lleol sy'n arddangos yr arwydd Talu Syml.

Os oes angen i rywun arall gasglu eich arian ar eich rhan

Eich arian chi yw hwn, felly bydd yn rhaid i chi ddewis rhywun y gallwch ymddiried ynddo i gasglu eich taliadau ar eich rhan.

Os yw'r un person bob amser yn casglu eich taliadau, gall gael ei gerdyn Talu Syml ei hun i gasglu eich taliadau. Er mwyn casglu taliadau ar eich rhan, mae angen i’r person wneud y canlynol:

  • dangos ei gerdyn ei hun
  • cadarnhau ei ddyddiad cofiadwy
  • dangos prawf adnabod

Os bydd pobl wahanol yn casglu eich taliadau ar eich rhan, bydd yn rhaid i chi roi eich cerdyn Talu Syml er mwyn iddynt ei ddefnyddio bob tro. Bydd angen i chi hefyd roi eich dyddiad cofiadwy. Bydd yn rhaid iddynt ddangos eich prawf adnabod chi, yn ogystal â'u prawf adnabod eu hunain.

Cewch fwy o wybodaeth am sut y gall rhywun arall gasglu eich taliadau ar dudalen 8 o’r daflen 'Cwestiynau am eich Cerdyn talu syml'.

Os byddwch yn colli eich cerdyn Talu Syml

Ffoniwch 0800 032 5872 os ydych wedi colli eich cerdyn. Mae'r llinellau ar agor 24 awr y dydd.

Bydd eich cerdyn yn cael ei atal a chaiff un newydd ei bostio atoch. Ni fyddwch yn colli unrhyw un o'ch taliadau. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallwn drefnu i chi gael mynediad ar unwaith i’ch taliad os oes angen.

Os nad ydych am gael eich talu drwy Dalu Syml

Ffoniwch y swyddfa sy'n gofalu am eich cais. Gall ddweud wrthych am eich dewisiadau talu a'ch helpu i benderfynu pa un sydd orau i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU