Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol tuag at gostau byw plentyn o ddydd i ddydd. Gall rhieni sydd wedi gwahanu wneud trefniadau cynhaliaeth plant rhwng ei gilydd drwy wneud cytundeb teuluol. Gallant hefyd fynd drwy’r CSA neu’r llysoedd. Cewch fwy o wybodaeth am gynhaliaeth plant a sut i wneud trefniadau sy’n gweithio i chi.
Fel arfer, mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol sy’n rheolaidd a dibynadwy ac sy’n helpu tuag at gostau byw plentyn o ddydd i ddydd.
Bydd y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr i’r plentyn o ddydd i ddydd yn talu cynhaliaeth plant i’r rhiant neu berson sy’n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd. Gall y person gyda gofal fod yn nain neu daid, neu’n warcheidwaid.
Mae cynhaliaeth plant yn gallu golygu mwy nag arian yn unig. Mae’n ymwneud â sicrhau bod rhieni yn cymryd cyfrifoldeb am eu plant, hyd yn oed os ydynt yn byw ar wahân iddynt. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i les y plentyn, gan y gall helpu i greu amgylchedd fwy sefydlog ar eu cyfer.
Mae plant sydd mewn amgylchedd sefydlog yn fwy tebygol o:
Gall bob rhiant sydd wedi gwahanu drefnu cynhaliaeth plant eu hunain os bydd y ddau yn cytuno. Dyma a elwir yn gytundeb teuluol.
Pan nad ydy hyn yn bosib, gall rhieni wneud cais drwy’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) neu’r llysoedd.
Os ydych chi a’r rhiant arall eisiau gwneud hynny, gallwch wneud cytundeb teuluol. Dyma pryd rydych yn trefnu cynhaliaeth plant rhwng eich gilydd.
Yn aml, dyma’r ffordd hwylusaf a chyflymaf i drefnu cynhaliaeth plant gan nad oes llawer o waith papur.
Mae cytundeb teuluol yn golygu y gallwch:
Fel arfer, nid yw’r math yma o drefniant yn un y gellir ei orfodi’n gyfreithiol fel arfer. Mae hyn yn golygu bod neb yn gallu casglu unrhyw daliadau sydd ar goll neu orfodi cytundeb sydd wedi chwalu. Fodd bynnag, os mae’r cytundeb yn chwalu, gall y ddau riant gofyn i’r Asiantaeth Cynnal Plant neu’r llysoedd i drefnu cynhaliaeth plant ar unrhyw adeg.
Mae yna sawl offer ar gael i chi i helpu sefydlu cytundeb rhwng rhieni, fel:
Gallwch hefyd ofyn i gyflafareddwr proffesiynol eich helpu.
Dilynwch y cyswllt canlynol i ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant.
Dilynwch y cyswllt canlynol i weld y canllaw trafod ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant ac am fwy o wybodaeth am gytundebau teuluol.
Gallwch lawr-lwytho’r ffurflen cytundeb teuluol drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.
Weithiau, ni all rhieni drefnu cynhaliaeth plant rhwng ei gilydd, felly nid yw cytundeb teuluol yn bosib. Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n addas, er enghraifft os bydd perygl o drais neu gamdriniaeth.
Mewn achosion o’r fath, bydd y CSA yn gweithio swm o gynhaliaeth plant allan. Hefyd, gallant drefnu i gasglu cynhaliaeth plant gan un rhiant ac wedyn trosglwyddo’r arian i’r rhiant arall.
Am fwy o wybodaeth am y CSA, defnyddiwch y cyswllt canlynol.
Am fwy o wybodaeth am sut mae’r CSA yn gweithio cynhaliaeth plant allan, defnyddiwch y cyswllt canlynol.
Gall rhieni hefyd drefnu cynhaliaeth plant a gorfodi taliadau drwy’r llysoedd. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio Gorchymyn Cydsynio yng Nghymru a Lloegr, a ‘Minute of Agreement’ yn Yr Alban.
Fel arfer, bydd cynhaliaeth plant yn cael ei drefnu fel hyn os ydy’r rhieni yn mynd i’r llys yn barod am reswm arall – er enghraifft, os ydynt yn cael ysgariad.
Gall defnyddio’r llysoedd i drefnu cynhaliaeth plant fod yn ddrud. Ni fydd Cymorth Cyfreithiol yn talu’r costau os ydych yn mynd i’r llys i drefnu cynhaliaeth plant yn unig.
Cewch fwy o wybodaeth am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.
Defnyddiwch y cyswllt canlynol am fwy o wybodaeth am fathau eraill o orchmynion llys sydd ar gael am drefniadau eraill ar gyfer eich plant.
Ers mis Hydref 2008, mae bob rhiant wedi gallu dewis sut i drefnu cynhaliaeth plant, hyd yn oed os ydynt yn cael budd-daliadau.
Hefyd, ers mis Ebrill 2010 gall rhiant â gofal gadw’r holl gynhaliaeth plant sy’n cael ei dalu iddynt ac ni ddylai hyn bellach effeithio ar eu budd-daliadau yn ymwneud ag incwm.
Mae’r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn rhoi gwybodaeth i’r ddau riant am:
Mae’r gwasanaeth yma am ddim.
Defnyddiwch y cyswllt canlynol i gael mwy o wybodaeth am gynhaliaeth plant ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.
I gael help i wneud trefniad teuluol, cysylltwch â’r gwasanaeth cyfrinachol a diduedd Opsiynau Cynhaliaeth Plant