Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) i drefnu cynhaliaeth Plant

Mae’r CSA yn rhedeg y cynlluniau cynhaliaeth plant statudol presennol. Os byddwch chi neu’r rhiant arall yn agor achos gyda’r Asiantaeth Cynnal Plant, byddant yn gweithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu. Hefyd, gallant hefyd gasglu a phasio taliadau cynhaliaeth plant ymlaen. Yma, cewch wybod mwy am ddefnyddio’r CSA gan gynnwys sut i wneud cais.

Pwy sy’n gymwys i ddefnyddio’r CSA

Gallwch wneud cais i’r CSA os ydych yn:

  • rhiant â gofal
  • rhiant dibreswyl
  • nain, taid neu warcheidwad i’r plentyn sydd angen cynhaliaeth plant
  • plentyn sy’n byw yn yr Alban

Y rhiant neu’r person â gofal yw’r rhiant neu ofalwr mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer. Y rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Pwy sydd ddim yn gymwys i ddefnyddio’r CSA

Os ydy’r rhiant â gofal neu’r plant yn byw y tu allan i’r DU, ni all y CSA dderbyn cais ganddynt.

Hefyd, ni all y CSA dderbyn cais os ydy’r rhiant dibreswyl sy’n byw y tu allan i’r DU, oni bai:

  • eu bod yn gweithio i gyflogwr sy’n seiliedig yn y DU
  • eu bod yn gweithio i’r gwasanaeth sifil
  • eu bod yn gweithio i ‘gorff penodedig’, er enghraifft y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
  • eu bod yn y lluoedd arfog

Hefyd, ni all y CSA dderbyn cais os oes rhai cytundebau cynhaliaeth plant mew grym yn barod. Mae hyn yn cynnwys:

  • gorchmynion llys sy’n cynnwys cynhaliaeth plant a wnaed cyn 3 Mawrth 2003
  • gorchmynion llys sy’n cynnwys cynhaliaeth plant ac sydd wedi bod mewn grym am lai na 12 mis
  • cytundebau cynhaliaeth ysgrifenedig a wnaed cyn 5 Ebrill 1993

Os ydych eisiau newid un o’r trefniadau uchod, bydd angen gofyn i’r llys a wnaeth y trefniadau gwreiddiol.

Defnyddiwch y cyswllt canlynol am fwy o wybodaeth am gynhaliaeth plant i rieni sy’n byw dramor.

Sut all y CSA eich helpu

Os byddwch yn penderfynu defnyddio’r CSA, gallant eich helpu i:

  • dod o hyd i’r rhiant arall os nad ydych yn gwybod lle maent yn byw
  • ceisio datrys unrhyw anghytuno am bwy sy’n rhiant i’r plentyn
  • gweithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu

Unwaith bydd eich achos wedi agor, gall y CSA:

  • trefnu i’r rhiant dibreswyl dalu cynhaliaeth plant
  • pasio taliadau ymlaen i’r rhiant â gofal
  • edrych eto ar eich taliadau cynhaliaeth plant pan fyddwch yn rhoi gwybod iddynt am newid i amgylchiadau’r rhieni
  • cymryd camau gorfodi os na fydd taliadau yn cael eu gwneud

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i gael mwy o wybodaeth am dalu cynhaliaeth plant drwy’r CSA.

Gwneud cais i ddefnyddio’r CSA

Gallwch wneud cais i ddefnyddio’r CSA drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, dylech wneud cais i’r Adran Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant (CMED). Cewch fwy o wybodaeth am CMED ar y wefan nidirect.

Faint mae’n cymryd i’r CSA drefnu cynhaliaeth plant

Mae’r CSA yn anelu at gael taliadau cynhaliaeth plant i rieni â gofal cyn gynted â phosib. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai taliad gael ei wneud i’r rhiant â gofal o fewn chwe wythnos o bryd bydd y CSA yn gwneud trefniadau gyda’r rhiant dibreswyl.

Sut mae’r CSA yn gweithio cynhaliaeth plant allan

Er mwyn gweithio symiau cynhaliaeth plant allan, mae’r CSA yn defnyddio gwybodaeth am amgylchiadau’r rhiant dibreswyl. Mae’r wybodaeth yma yn cynnwys:

  • incwm y rhiant dibreswyl
  • y nifer o blant sydd raid iddynt dalu cynhaliaeth plant ar eu cyfer
  • pa mor aml mae’r plentyn neu blant yn aros dros nos gyda hwy
  • y nifer o blant eraill mae’r rhiant dibreswyl (neu eu partner) yn cael budd-dal plant ar eu cyfer

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i gael mwy o wybodaeth am sut mae’r CSA yn gweithio cynhaliaeth plant allan.

Mwy o wybodaeth am eich opsiynau cynhaliaeth plant

Cewch fwy o wybodaeth am yr holl opsiynau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

Additional links

Trefniadau teuluol

I gael help i wneud trefniad teuluol, cysylltwch â’r gwasanaeth cyfrinachol a diduedd Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Allweddumynediad llywodraeth y DU