Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynhaliaeth plant os oes un o’r rhieni yn byw dramor

Fel arfer, gall yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) helpu gyda chynhaliaeth plant os ydy’r ddau riant a’r plentyn yn byw yn y DU. Cewch wybod mwy yma am ba help sydd ar gael os oes un rhiant yn byw dramor, gan gynnwys gwybodaeth am drefniadau Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO).

Pryd gall y CSA helpu gyda chynhaliaeth plant dramor

Er mwyn i’r CSA ddelio gyda chais am gynhaliaeth plant, dylai’r ddau riant a’r plant fod yn byw yn y DU.

Gall y CSA dal helpu os bydd y rhiant dibreswyl yn byw dramor, a'u bod:

  • yn gweithio yng ngwasanaeth y goron – er enghraifft os ydynt yn weision sifil neu yn gweithio o fewn Gwasanaeth Llysgenhadol Ei Mawrhydi
  • yn aelod o’r Lluoedd Arfog
  • yn gweithio i gwmni sy’n seiliedig ac wedi ei gofrestru yn y DU
  • yn gweithio ar secondiad i gorff penodedig, fel awdurdod iechyd rhanbarthol neu awdurdod lleol

Y rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Cewch fwy o wybodaeth drwy gysylltu gyda’r CSA.

Os ydy’r rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia

Mewn rhai amgylchiadau:

  • bydd y rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia
  • bydd y rhiant â gofal yn byw yn y DU

Y rhiant neu’r person â gofal yw’r rhiant neu’r gofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

O dan yr amgylchiadau yma, mae’n bosib y gallai’r Asiantaeth Cynnal Plant yn Awstralia helpu gyda chynhaliaeth plant.

Cewch fwy o wybodaeth am beth i’w wneud pan fydd y rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia drwy ddilyn y cyswllt canlynol.

Os ydy’r rhiant dibreswyl yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd

O 18 Mehefin 2011 ymlaen, bydd yn rhaid i wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd orfodi:

  • gorchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant
  • penderfyniadau a wnaed gan y CSA

Mae hyn yn golygu y gall trefniadau cyfreithiol ffurfiol (er enghraifft gorchmynion llys) ar gyfer taliadau cynhaliaeth plant rheolaidd gael eu gorfodi os bydd unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:

  • mae’r rhiant dibreswyl nawr yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae’r rhiant â gofal yn byw yn y DU
  • mae’r rhiant â gofal nawr yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae’r rhiant dibreswyl yn byw yn y DU
  • mae gan y rhiant dibreswyl asedau gwerthfawr wedi eu lleoli yn yr Undeb Ewropeaidd – er enghraifft, eiddo, ceir neu arian

Gall gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ond gorfodi rhieni dibreswyl i dalu ôl-ddyledion i’r CSA os oedd yr arian sy’n ddyledus wedi cronni yn ystod cyfnod pan oedd y ddau riant yn byw yn y DU.

Os ydy’r rhiant dibreswyl yn byw y tu allan i Awstralia a’r Undeb Ewropeaidd

Gall rhieni gyda gorchymyn llys am gynhaliaeth plant geisio ei gael wedi ei orfodi mewn gwlad dramor. Os ydych am wneud hyn, bydd yn angenrheidiol i chi gysylltu gyda’r llys lle cafodd y gorchymyn ei wneud.

Gall rhieni â gofal hefyd ofyn i awdurdodau dramor greu gorchymyn am gynhaliaeth plant ar eu rhan. Os ydych am wneud hyn bydd angen i chi gysylltu gyda’ch llys ynadon lleol (neu lys y siryf yn yr Alban)

Defnyddiwch un o’r cysylltiadau canlynol i weld lle mae eich llys lleol.

Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO)

Mae gan y DU gytundebau rhyngwladol gyda mwy na 100 o wledydd ynglŷn â chynhaliaeth plant. Gelwir y trefniadau yma yn Orfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO)

Os gellir rhoi REMO mewn grym, golyga hyn:

  • gall gorchmynion cynhaliaeth plant a waned gan y llysoedd yn y DU gael eu cofrestru a’u gorfodi mewn gwledydd eraill
  • gall gorchmynion cynhaliaeth plant a wnaed mewn gwledydd eraill gael eu cofrestru a’u gorfodi gan y llysoedd yn y DU

Os ydych am geisio cael REMO mewn grym, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:

  • cysylltu gyda’r llys ble cafodd y gorchymyn ei wneud os oes gennych orchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth plant yn barod
  • cysylltu gyda’ch llys ynadon lleol os nad oes gennych orchymyn llys (llys y siryf yn yr Alban)

Bydd beth sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr

Bydd y llys yn anfon eich achos at yr uned REMO fydd yn delio gyda’r llys dramor ar eich rhan. Ni fydd angen cyfreithiwr arnoch.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr gallwch gael mwy o wybodaeth am REMO drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol:

Os ydych yn byw yn yr Alban

Os oes gorchymyn llys yn bodoli’n barod, bydd y llys a wnaeth y gorchymyn yn anfon eich achos at y Gyfarwyddiaeth Cyfiawnder.

Os nad oes gorchymyn llys yn bodoli, gallwch gael un naill ai trwy:

  • gwneud cais i lys y siryf lleol, neu
  • gwneud cais yn uniongyrchol i’r llys yn y wlad mae’r rhiant arall wedi symud iddo

Bydd angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr os ydych yn byw yn Yr Alban.

Nid yw rhai o’r trefniadau REMO sydd gan wledydd eraill gyda’r DU yn gymwys i’r Alban.

Os ydych yn byw yn yr Alban gallwch gael mwy o wybodaeth am REMO trwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Additional links

Trefniadau teuluol

I gael help i wneud trefniad teuluol, cysylltwch â’r gwasanaeth cyfrinachol a diduedd Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Allweddumynediad llywodraeth y DU