Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu?

Bydd faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol ac ar y math o drefniadau cynhaliaeth plant fyddwch yn penderfynu eu gwneud. Yma, cewch wybod faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu pan fyddwch chi a’r rhiant arall yn cytuno i wneud cytundeb teuluol.

Beth sy’n cyfrif fel cynhaliaeth plant mewn cytundeb teuluol

Os ydych chi a’r rhiant arall yn cytuno, gallwch drefnu cynhaliaeth plant rhwng eich gilydd. Gelwir hyn yn gytundeb teuluol.

Yn aml, cytundeb teuluol yw’r ffordd hwylusaf a chyflymaf i drefnu cynhaliaeth plant gan nad oes llawer o waith papur.

Mae cytundeb teuluol yn golygu y gallwch:

  • cytuno rhwng eich gilydd faint ddylai’r taliadau cynhaliaeth plant fod, a pha bryd dylai’r taliadau gael eu gwneud
  • talu am neu gael pethau fel dillad ar gyfer eich plant yn lle arian, os ydy’r ddau ohonoch yn cytuno i hyn

Er enghraifft, gall y ddau ohonoch gytuno bod y rhiant dibreswyl yn:

  • talu cyfandaliad ar wahanol adegau ym mywyd eich plentyn
  • talu cyfran o’u hincwm
  • talu am bethau fel dillad ysgol yn lle rhoi arian
  • talu swm rheolaidd penodol yn uniongyrchol i’r rhiant â gofal

Gallwch benderfynu gwneud un o’r pethau uchod, neu i wneud cymysgedd o ddau neu fwy ohonynt.

Y peth pwysig yw:

  • bod y ddau ohonoch yn cytuno i’r cytundeb
  • bod y cytundeb yn rhoi cymorth ariannol dibynadwy sy’n helpu tuag at gostau byw eich plentyn o ddydd i ddydd

Y rhiant â gofal yw’r rhiant neu ofalwr mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer. Y rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Os ydych yn barod i wneud cytundeb teuluol, dylech wneud cofnod o hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen cytundeb teuluol. Gallwch lawr-lwytho ffurflen cytundeb teuluol drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Cewch fwy o wybodaeth am gytundebau teuluol ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

Gweithio swm o gynhaliaeth plant allan mewn cytundeb teuluol

Efallai byddwch yn penderfynu mai gwneud taliad rheolaidd o swm penodol yw’r opsiwn gorau. Os felly, gallwch gael syniad o faint ddylai’r swm yma fod drwy ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

Mae’r cyfrifydd yn defnyddio’r un fformwla a’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) i weithio symiau cynhaliaeth plant allan. Mae’n ystyried pethau fel:

  • incwm y rhiant dibreswyl
  • y nifer o blant sydd angen iddynt dalu cynhaliaeth plant ar eu cyfer
  • pa mor aml fydd y plentyn neu’r plant yn aros dros nos gyda hwy
  • y nifer o blant eraill mae’r rhiant dibreswyl (neu eu partner) yn cael budd-dal plant ar eu cyfer

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i gael mwy o wybodaeth am sut mae’r CSA yn gweithio cynhaliaeth plant allan.

Costau magu eich plant

Wrth ystyried faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu, gallech hefyd fod eisiau edrych ar beth mae eich plentyn angen arian ar ei gyfer yn rheolaidd. Er enghraifft, mae bob plentyn angen pethau fel bwyd a dillad. Hefyd, bydd babanod angen pethau fel clytiau, tra efallai bydd angen cyfarpar ysgol ar blant hŷn.

Hefyd, efallai bydd angen ystyried costau:

  • gofal plant
  • gweithgareddau fel gwersi nofio neu ddiwrnodau allan

Os byddwch yn gwneud cytundeb teuluol, gallwch gytuno gyda’r rhiant arall am sut i rannu’r costau yma. Gallwch benderfynu:

  • rhannu’r costau yn gyfartal
  • rhannu’r costau yn dibynnu ar faint o arian mae’r ddau ohonoch yn ei ennill
  • bydd un ohonoch yn talu am rai pethau a’r llall yn talu am bethau eraill

Cewch help i weithio allan costau magu eich plant, gallwch lawr-lwytho’r ffurflen ‘faint o gynhaliaeth fydd eich plentyn angen’ drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Gofyn i’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) drefnu cynhaliaeth plant

Nid yw bob tro’n bosib i rieni drefnu cynhaliaeth plant ar ben eu hunain. Efallai na fydd cytundeb teuluol yn addas i chi os:

  • nid ydych yn gwybod lle mae’r rhiant arall
  • ni allwch ddod i gytundeb gyda’r rhiant arall

Mewn achosion o’r fath, gallwch ofyn i’r CSA drefnu cynhaliaeth plant ar eich cyfer.

Gallwch hefyd wneud cais i’r CSA ar unrhyw bryd os bydd eich cytundeb teuluol yn methu.

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i gael mwy o wybodaeth am y CSA.

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i lawr-lwytho taflen a chael mwy o wybodaeth am faint o gynhaliaeth plant allai gael ei dalu drwy’r CSA.

Additional links

Trefniadau teuluol

I gael help i wneud trefniad teuluol, cysylltwch â’r gwasanaeth cyfrinachol a diduedd Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Allweddumynediad llywodraeth y DU