Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn gweithio cynhaliaeth plant allan

Mae’r CSA yn defnyddio gwybodaeth gan y ddau riant i weithio swm cynhaliaeth plant allan. Cewch wybod sut mae cynhaliaeth plant yn cael ei gweithio allan o dan reolau cynllun 2003. Gallwch hefyd gael gwybod lle i gael gwybodaeth am gynllun 1993.

Gwahanol reolau ar gyfer gweithio cynhaliaeth plant allan

Gall sut bydd y CSA yn gweithio eich cynhaliaeth plant allan ddibynnu ar bryd cafodd eich achos ei agor.

Os agorwyd eich achos ar ôl Mawrth 2003, bydd eich cynhaliaeth plant yn cael ei gweithio allan gan ddefnyddio rheolau’r cynllun 2003 (a elwir weithiau yn 'cynllun presennol'). Os agorwyd eich achos cyn Mawrth 2003, bydd eich cynhaliaeth plant yn cael ei gweithio allan gan ddefnyddio rheolau’r cynllun 1993 (a elwir weithiau yn 'hen gynllun').

Cewch wybodaeth am gynllun 1993 drwy lawr-lwytho'r taflenni canlynol.

Gwybodaeth sydd ei hangen ar y CSA i weithio cynhaliaeth plant allan

Er mwyn gweithio cynhaliaeth plant allan, mae’r CSA yn edrych ar sawl peth, gan gynnwys:

  • incwm net wythnosol y rhiant dibreswyl
  • y nifer o blant sydd angen cynhaliaeth plant
  • pa mor aml mae’r plant hynny yn aros dros nos gyda’r rhiant dibreswyl
  • os oes plant eraill mae’r rhiant dibreswyl ( neu eu partner) yn cael budd-dal plant ar eu cyfer.
  • os yw’r rhiant dibreswyl yn talu cynhaliaeth plant ar gyfer unrhyw blant eraill

Rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Mae’r CSA yn cael y wybodaeth yma gan y ddau riant. Gallant hefyd gael gwybodaeth am incwm gan gyflogwr y rhiant dibreswyl neu Gyllid a Thollau EM (HMRC).

Sut mae’r CSA yn gweithio incwm net y rhiant dibreswyl allan

Mae’r CSA yn cyfrif incwm y rhiant dibreswyl fel:

  • eu henillion (yn cynnwys budd-daliadau)
  • arian o bensiwn galwedigaethol neu bersonol
  • rhai credydau treth

Incwm net yw’r swm o incwm sydd yn weddill wedi didynnu’r canlynol:

  • treth
  • Yswiriant Gwladol
  • cyfraniadau pensiwn

Cyfraddau cynhaliaeth plant

Er mwyn gweithio swm wythnosol o gynhaliaeth plant allan, mae’r CSA yn defnyddio:

  • gwybodaeth incwm wythnosol net y rhiant dibreswyl
  • un o bedair ‘cyfradd’

Mae’r gyfradd a ddefnyddir yn dibynnu ar beth yw incwm y rhiant dibreswyl neu os oes amgylchiadau penodol yn gymwys iddynt.

Unwaith bydd cyfradd wedi cael ei defnyddio, ystyrir ffactorau eraill. Er enghraifft, os bydd y plant sydd angen cynhaliaeth plant yn aros dros nos gyda’r rhiant dibreswyl, fe all y swm gael ei ostwng.

Isod, ceir crynodeb o bob cyfradd.

Cyfradd unffurf

Mae’r gyfradd unffurf yn £5 – waeth faint o blant sydd yn yr achos.

Defnyddir y gyfradd yma os yw incwm wythnosol net y rhiant dibreswyl rhwng £5 a £100 ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero.

Hefyd, caiff ei defnyddio os yw’r rhiant dibreswyl yn cael rhai budd-daliadau penodol, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod wedi ei gyfyngu i’r rhestr isod):

  • taliadau’r Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog
  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Hyfforddi
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel

Os oes gan y rhiant dibreswyl bartner sy’n byw gyda nhw, bydd y gyfradd unffurf yn cael ei defnyddio os yw’r partner yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

Cyfradd sylfaenol

Defnyddir y gyfradd sylfaenol os yw incwm wythnosol net y rhiant dibreswyl yn £200 neu fwy.

Mae’r gyfradd sylfaenol yn ganran o incwm net. Mae’r canran yn dibynnu ar:

  • y nifer o blant sydd angen cynhaliaeth plant
  • y nifer o blant eraill mae’r rhiant dibreswyl (neu eu partner) yn cael budd-dal plant ar eu cyfer.

Cyfradd is

Defnyddir y gyfradd is os yw incwm wythnosol net y rhiant dibreswyl yn fwy na £100 ond yn llai na £200

Bydd y rhiant dibreswyl yn talu:

  • y gyfradd unffurf o £5
  • a chanran o’u hincwm net wythnosol rhwng £100 a £200

Defnyddir y canran yn yr un modd a chyda’r gyfradd sylfaenol. Fodd bynnag, bydd y canran yn wahanol i’r gyfradd sylfaenol

Cyfradd sero

Defnyddir y gyfradd sero os yw’r rhiant dibreswyl :

  • yn fyfyriwr
  • yn blentyn
  • yn garcharor
  • yn cael lwfans am hyfforddiant yn seiliedig ar waith neu hyfforddiant Skill-seekers (yn yr Alban)
  • yn byw mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol ac yn cael help gyda’r ffioedd
  • rhwng 16 a 17 mlwydd oed a’u bod hwy neu eu partner yn cael budd-daliadau penodol

Cyfrifydd cynhaliaeth plant

Gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant ar-lein i weld faint o gynhaliaeth plant all fod yn daladwy.

Os oes rhaid i’r rhiant dibreswyl dalu am blant eraill

Weithiau, bydd rhiant dibreswyl yn defnyddio’r CSA i dalu cynhaliaeth plant i fwy nag un rhiant â gofal. Y rhiant â gofal yw’r rhiant neu ofalwr mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Yn yr achosion yma, bydd y CSA yn:

  • gweithio allan y cyfanswm o gynhaliaeth plant sy’n rhaid i’r rhiant dibreswyl ei dalu
  • rhannu’r cyfanswm hwnnw rhwng y rhieni â gofal i gyd yn dibynnu ar faint o blant mae bob un yn gofalu amdanynt

Cewch fwy o wybodaeth am sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan mewn achosion cynllun 2003 drwy lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU