Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant amdanynt

Os bydd amgylchiadau’r naill riant yn newid, fe all newid faint o gynhaliaeth plant byddwch yn ei gael neu yn ei dalu. Cewch wybod pa newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) amdanynt os agorwyd eich achos ar ôl Mawrth 2003.

Newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud wrth y CSA amdanynt yn ôl y gyfraith

Yn ôl y gyfraith, mae rhai newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud wrth y CSA amdanynt.

Y ffordd gyflymaf i roi gwybod am newid yw dros y ffôn. Cewch y manylion cyswllt sydd eu hangen arnoch ar dop unrhyw lythyr mae’r CSA wedi anfon atoch.

Gallwch hefyd gael manylion cyswllt eich swyddfa leol drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Newidiadau sy’n rhaid i’r rhiant dibreswyl ddweud wrth yr CSA amdanynt

Os ydych yn rhiant dibreswyl mae’n rhaid i chi ddweud wrth y CSA os bydd eich cyfeiriad yn newid o fewn saith diwrnod o pan fydd y newid yn cymryd lle.

Rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Os byddwch yn talu eich cynhaliaeth plant drwy orchymyn didynnu o enillion a’ch bod yn gadael eich swydd, mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth y CSA:

  • enw a chyfeiriad eich cyflogwr newydd (os oes un)
  • faint y disgwyliwch ei ennill
  • eich rhif cyflogres (os o gwbl)

Os ydych yn rhiant neu’n berson â gofal

Os ydych yn rhiant neu’n berson â gofal, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y CSA os bydd newid i’r:

  • nifer o blant sy’n byw gyda chi ac rydych yn cael cynhaliaeth plant ar eu cyfer
  • nifer o nosweithiau mae plentyn yn aros yn rheolaidd dros nos gyda’r rhiant dibreswyl
  • nifer o blant rydych chi neu’ch partner yn cael budd dal plant ar eu cyfer

Rhaid i chi hefyd ddweud wrth y CSA os:

  • bydd y plant rydych yn cael cynhaliaeth plant ar eu cyfer yn gadael addysg llawn amser nad yw’n addysg bellach
  • byddwch chi neu unrhyw rai o’r plant rydych yn cael cynhaliaeth plant ar eu cyfer ddim bellach yn ‘breswylydd cyson’ yn y DU

Rhiant neu berson â gofal yw’r rhiant neu’r gofalwr mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Mae ‘preswylydd cyson’ yn golygu eich bod yn byw yn rhywle yn barhaol fel arfer.

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth iawn i’r CSA

Gallwch gael eich cymryd i’r llys a chael dirwy o hyd at £1,000 os byddwch yn :

  • methu â rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen i’r CSA
  • rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol i’r CSA

Mae hyn yn gymwys i unrhyw berson neu gorff sydd, yn ôl y gyfraith, yn gorfod rhoi gwybodaeth i’r CSA. Er enghraifft:

  • cyflogwyr
  • cyfrifwyr
  • y naill riant

Newidiadau i incwm y rhiant dibreswyl

Dylai’r un o’r ddau riant ddweud wrth y CSA os bydd incwm y rhiant dibreswyl yn newid.

Dylai rhiant dibreswyl hefyd ddweud wrth y CSA os byddant yn:

  • dechrau neu orffen gweithio i gyflogwr
  • dechrau neu orffen bod yn hunangyflogedig
  • newid swydd
  • mynd yn ddi-waith
  • dechrau gwaith ar ôl bod yn ddi-waith

Newidiadau i statws budd-dal

Os ydych yn rhiant dibreswyl, rhaid i chi ddweud wrth y CSA os byddwch yn stopio cael budd-daliadau.

Os ydych yn rhiant â gofal, rhaid i chi ddweud wrth yr CSA os byddwch yn dod i wybod fod rhiant dibreswyl eich plant yn stopio cael budd-daliadau.

Yn y gorffennol, efallai na fyddai rhiant neu berson â gofal wedi cael eu cynhaliaeth plant yn llawn. Byddai hyn yn digwydd os oeddent hwy neu eu partner yn cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm. Ond, ers 12 Ebrill 2010, maent yn cael cadw’r gynhaliaeth plant i gyd heb i hynny effeithio ar eu budd-daliadau.

Newidiadau i ble rydych chi neu’r rhiant arall yn byw

Rhaid i chi ddweud wrth y CSA os:

  • rydych yn symud tŷ
  • rydych yn gwybod fod y rhiant arall wedi symud neu eu bod yn bwriadu symud
  • bydd eich rhif ffôn chi neu rif ffôn y rhiant arall yn newid (gan gynnwys rhifau ffôn symudol)

Os ydy’r rhiant dibreswyl wedi symud neu eu bod yn bwriadu symud dramor, efallai bydd hi’n dal yn bosib i chi drefnu cynhaliaeth plant.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am rieni sy’n byw dramor drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Newidiadau i amgylchiadau eich teulu

Gall newidiadau i amgylchiadau eich teulu hefyd effeithio ar eich taliadau cynhaliaeth plant. Gallai hyn fod yn newid i’r nifer o blant mae’r naill riant (neu eu partner) yn cael budd-dal plant ar eu cyfer.

Pryd gall newidiadau effeithio ar eich taliadau

Ni fydd bob newid yn effeithio ar eich taliadau cynhaliaeth plant. Y math o bethau sydd yn effeithio ar gynhaliaeth plant fel arfer yw:

  • newidiadau incwm
  • newidiadau i amgylchiadau teuluol

Mae hefyd yn dibynnu ar:

  • faint fyddai swm y gynhaliaeth plant yn newid
  • pryd cafodd eich achos gyda’r CSA ei agor

Os agorwyd eich achos ar ôl Mawrth 2003, caiff cynhaliaeth plant ei chyfrifo gan ddefnyddio rheolau’r cynllun 2003 (sef y cynllun presennol)

Os agorwyd eich achos cyn Mawrth 2003, mae’r gynhaliaeth plant yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio rheolau’r cynllun 1993 (sef yr hen gynllun)

Cewch fwy o wybodaeth am newidiadau sy’n effeithio ar gynhaliaeth plant yn achosion y cynllun presennol (2003) drwy lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Cewch fwy o wybodaeth am newidiadau sy’n effeithio ar gynhaliaeth plant yn achosion yr hen gynllun (1993) drwy lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Newidiadau i sut caiff eich cynhaliaeth plant ei gweithio allan

Weithiau, bydd newid yn eich amgylchiadau yn golygu bod angen i’r CSA symud achos o’r cynllun 1993 i reolau’r cynllun 2003.

Am fwy o wybodaeth am hyn, defnyddiwch y cyswllt canlynol.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU