Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Newidiadau i gynhaliaeth plant ar gyfer achosion yr hen gynllun

Os agorwyd achos cynhaliaeth plant gennych cyn Mawrth 2003 ac yna bu i chi agor achos arall yn nes ymlaen, gallai’r rheolau a ddefnyddir i weithio eich cynhaliaeth plant allan newid. Cewch weld beth yw’r rhesymau am hyn a sut y bydd yn effeithio ar eich taliadau cynhaliaeth plant.

Pam bod y rheolau ar gyfer gweithio cynhaliaeth plant allan wedi newid.

O’r 3 Mawrth 2003 newidiodd y CSA y ffordd mae’n gweithio cynhaliaeth plant allan ar gyfer ceisiadau a waned ar ôl yr adeg yma. Gwnaed hyn er mwyn gwneud cynhaliaeth plant yn:

  • syml i’w rheoli
  • haws i’w deall

Gelwir achosion a agorwyd cyn Mawrth 2003 yn achosion cynllun 1993. Weithiau hefyd fe’u gelwir yn achosion yr ‘hen gynllun’.

Gelwir achosion a agorwyd ar ôl Mawrth 2003 yn achosion cynllun 2003. Weithiau hefyd fe elwir y rhain yn achosion y ‘cynllun presennol’.

Nid yw cynllun 2003 yn newid:

  • pwy sy’n gymwys am gynhaliaeth plant
  • sut dylai cynhaliaeth plant gael ei thalu
  • pa bwerau sydd gan y CSA i orfodi taliadau

Symud achos cynllun 1993 i’r cynllun 2003

Mae’n rhaid i’r CSA ddefnyddio’r un rheolau i weithio cynhaliaeth plant allan ar gyfer bob plentyn sydd a’r un rhiant â gofal neu riant dibreswyl. Bydd y CSA yn gwneud hyn hyd yn oed os byddant mewn achosion gwahanol.

Y rhiant neu’r person â gofal yw’r rhiant neu’r person mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer. Y rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Mae hyn yn golygu y bydd y CSA yn symud eich achos cynllun 1993 i reolau’r cynllun 2003 os bydd yr holl amgylchiadau canlynol yn gymwys:

  • rydych yn rhan o achos gyda’r CSA a agorwyd cyn 3 Mawrth 2003
  • rydych wedi gwneud cais newydd neu wedi cael eich enwi mewn cais newydd ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003
  • mae gan y plant yn y cais newydd riant gwahanol i’r plant yn yr achos sy’n bodoli’n barod

Dyma’r unig adegau pryd gall achos gael ei symud o gynllun 1993 i gynllun 2003.

Y prif wahaniaethau rhwng cynlluniau 1993 a 2003

Y gwahaniaeth mwyaf pwysig rhwng cynlluniau 1993 a 2003 yw'r gwahanol reolau ar gyfer gweithio cynhaliaeth plant allan. Gallwch gael gwybodaeth am sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan ar gyfer achosion cynllun 2003 drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol:

Gwahaniaethau eraill gyda’r cynllun 2003

Mae’r gwahaniaethau eraill gyda’r cynllun 2003 yn cynnwys:

  • ffordd fwy syml o weithio incwm net y rhiant dibreswyl allan
  • gwahanol reolau ar gyfer rhannu gofal am y plant sydd angen cynhaliaeth plant

O dan reolau’r cynllun 2003, does ond angen i blant aros 52 noswaith y flwyddyn gyda’r rhiant dibreswyl cyn bydd cynhaliaeth plant yn cael ei gostwng. O dan reolau’r cynllun 1993, mae’n rhaid i blant aros 104 o nosweithiau gyda’r rhiant dibreswyl cyn bod y gynhaliaeth plant yn cael ei gostwng.

O dan gynllun 2003, mae’r rheolau canlynol yn gymwys hefyd

Nid oes rhaid i’r rhiant dibreswyl dalu unrhyw gynhaliaeth plant o gwbl os bydd y ddau ganlynol yn gymwys:

  • maent ar fudd-daliadau
  • maent yn rhannu’r gofal am eu plant am o leiaf 52 noson y flwyddyn

Nid yw’r CSA yn ystyried, ac nid oes angen iddynt wybod am:

  • incwm partneriaid yn rhiant â gofal neu’r rhiant dibreswyl
  • costau tai neu deithio i’r gwaith y naill riant

Gall y CSA addasu swm y gynhaliaeth plant os oes ffactorau eraill ddylai gael eu hystyried. Gelwir y rhain yn ‘amrywiadau’.

Os na fydd rhiant yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen i weithio cynhaliaeth plant allan, gall y CSA wneud ‘penderfyniad cynhaliaeth ddiffyg’. Bydd y penderfyniad yn dangos faint o gynhaliaeth plant sy’n rhaid ei dalu.

Os bydd angen i’ch achos symud i’r cynllun 2003

Os bydd angen i’ch achos symud i’r cynllun 2003, bydd y CSA yn:

  • cysylltu gyda chi a’r rhiant arall i ddweud wrthych eu bod yn symud eich achos sy’n bodoli’n barod
  • edrych ar y wybodaeth sydd ganddynt yn barod am yr achos newydd
  • casglu unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen arnynt
  • gweithio allan swm cynhaliaeth plant newydd gan ddefnyddio rheolau’r cynllun 2003

Newidiadau i’ch taliadau cynhaliaeth plant

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd swm y gynhaliaeth plant yn newid pan symudwch i’r cynllun 2003. Gall y taliadau fod yn fwy neu yn llai.

Fel arfer, bydd y CSA yn cyflwyno unrhyw newidiadau i’r taliadau yn raddol, mewn camau sefydlog blynyddol, am hyd at bum mlynedd. Mae hyn er mwyn rhoi amser i’r ddau riant i addasu i’r newid wrth gynllunio eu gwario.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun 2003, gallwch lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Mwy o gysylltiadau defnyddiol

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU