Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Anghytuno am fod yn rhiant – beth all y CSA ei wneud

Pan fydd rhiant yn gwneud cais i’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), rhaid iddynt enwi rhiant arall y plentyn neu blant. Weithiau, bydd y person a enwir yn gwadu eu bod yn rhiant. Cewch weld yma beth all y CSA ei wneud pan fydd hyn yn digwydd.

Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?

Gall rhywun wadu eu bod yn rhiant i blentyn cyn neu ar ôl gweithio cynhaliaeth plant allan.

Os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn bydd y CSA yn:

  • dweud wrth y rhiant sydd wedi gwneud y cais beth sydd wedi digwydd a gofyn iddynt am unrhyw dystiolaeth sy’n profi pwy yw’r rhiant
  • gofyn i’r person a enwir fel y rhiant arall i roi tystiolaeth sy’n profi nad ydynt yn rhiant i’r plentyn

Os nad yw’r person a enwir fel y rhiant yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth sy’n profi nad ydynt yn rhiant i’r plentyn gall y CSA wneud un neu fwy o’r canlynol:

  • ‘tybio pwy yw’r rhiant’
  • gofyn i’r ddau riant gymryd prawf DNA (bydd angen profi DNA'r plentyn hefyd)
  • gofyn i’r llysoedd wneud penderfyniad

Gallwch gael mwy o wybodaeth am beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dweud nad ydynt yn rhiant i blentyn trwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Profi DNA

Gallwch gael mwy o wybodaeth am brofi DNA a’r CSA drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Talu cynhaliaeth plant yn ystod anghytundeb am fod yn rhiant

Mae’r rheolau ynglŷn â thalu cynhaliaeth plant yn ystod anghytundebau’n ddibynnol ar os yw swm cynhaliaeth plant:

  • eisoes wedi cael ei weithio allan
  • ddim wedi cael ei weithio allan

Os gweithiwyd y gynhaliaeth plant allan yn barod

Mewn rhai amgylchiadau, bydd y person a enwir fel rhiant i blentyn yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn ar ôl i’r CSA weithio’r gynhaliaeth plant allan. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i’r person a enwir fel rhiant y plentyn dalu hyd nes byddant yn rhoi tystiolaeth i brofi nad nhw yw’r rhiant.

Os nad ydy’r gynhaliaeth plant wedi cael ei gweithio allan

Os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn cyn gweithio’r gynhaliaeth plant allan, ni fydd y CSA yn:

  • gweithio’r gynhaliaeth plant allan tan gaiff yr anghytundeb ei ddatrys
  • gofyn iddynt dalu tan gaiff yr anghytundeb ei ddatrys

Bydd y CSA yn anelu at ddatrys anghytundebau cyn gynted â phosib. Os caiff ei brofi mai’r person a enwir fel y rhiant yw’r rhiant mewn gwirionedd, bydd y swm o gynhaliaeth plant sy’n rhaid iddynt ei dalu yn cael ei ôl-ddyddio. Caiff ei ôl-ddyddio i’r dyddiad pryd gwnaed y cais.

Os mai chi yw’r person a enwir fel y rhiant

Efallai byddwch am roi arian i un ochr rhag ofn y profir mai chi yw rhiant y plentyn a bydd angen i chi dalu cynhaliaeth plant.

Os yw’r person a enwir yn profi nad ydynt yn rhiant i’r plentyn

Os yw’r person a enwir fel rhiant y plentyn yn profi nad nhw yw’r rhiant, efallai bydd y CSA yn:

  • ad-dalu unrhyw daliadau cynhaliaeth plant a wnaed ar ôl y dyddiad cyntaf iddynt wadu mai nhw oedd rhiant y plentyn
  • ad-dalu cost y prawf DNA os trefnwyd un drwy’r CSA

Hefyd, gallai’r CSA ofyn i’r rhiant â gofal ad-dalu unrhyw gynhaliaeth plant, os cafodd yr arian yma:

  • ei derbyn ar ôl y dyddiad pryd gwadwyd bod yn rhiant
  • wedi cael ei ad-dalu i’r person gafodd eu henwi fel rhiant

Gwneir ad-daliadau yn unol â disgresiwn y CSA ac yn ddibynnol ar amgylchiadau pob achos.

Os profir mai’r person a enwir ydy rhiant y plentyn

Bydd rhaid i’r person a enwir fel rhiant y plentyn dalu’r swm a weithiwyd allan gan y CSA os ydynt yn:

  • cael tystiolaeth mai’r person a enwir yw’r rhiant
  • gallu tybio pwy yw’r rhiant

Bydd y swm yma’n cynnwys:

  • unrhyw gynhaliaeth plant sy’n rhaid iddynt ei dalu
  • cost y prawf DNA os talwyd am un gan y CSA

Gallwch lawr-lwytho’r daflen ganlynol am fwy o wybodaeth am sut mae’r CSA yn datrys anghytundebau am fod yn rhiant.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU