Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn gwadu bod yn rhiant i blentyn?

Os bydd rhiant â gofal yn enwi rhywun fel y rhiant arall, gall y person a enwir wadu eu bod yn rhiant i’r plentyn. Os bydd hyn yn digwydd, gall y CSA helpu i ddatrys hyn. Cewch weld yma beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dweud nad ydynt yn rhiant i blentyn.

Gofyn i’r person a enwir fel y rhiant am dystiolaeth

Y rhiant â gofal neu’r person â gofal yw’r rhiant neu ofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Os bydd rhywun yn cael ei enwi fel rhiant arall i blentyn a’u bod yn gwadu hyn, dylai’r person hwnnw gysylltu gyda’r CSA ar unwaith.

Gall y CSA ofyn am dystiolaeth i brofi nad y person hwnnw yw’r rhiant, gan gynnwys pethau fel:

  • canlyniadau prawf DNA blaenorol sy’n profi nad y person hwnnw yw’r rhiant
  • tystiolaeth nad yw’n bosib iddynt dadogi plentyn
  • dyfarniad gan lys

Os nad yw’r person a enwir fel rhiant i’r plentyn yn gallu rhoi unrhyw un o’r rhain, bydd y CSA yn:

  • gweld os yw’r rhiant â gofal wedi rhoi unrhyw dystiolaeth
  • gofyn i’r ddau riant gymryd prawf DNA (hefyd bydd rhaid i DNA'r plentyn gael ei brofi)
  • gofyn i’r llys wneud penderfyniad

Gofyn i’r rhiant â gofal am dystiolaeth

Gall y CSA hefyd ofyn i’r rhiant â gofal roi tystiolaeth i brofi mai’r person a enwir ganddynt ydy rhiant y plentyn. Mae’r pethau sy’n cyfrif fel tystiolaeth yn cynnwys:

  • tystysgrif geni’r plentyn sy’n dangos enw’r person arni
  • tystysgrif priodi sy’n dangos enw’r ddau berson arni
  • datganiad bod yn rhiant gan y llysoedd
  • tystysgrif mabwysiadu
  • canlyniadau prawf DNA blaenorol sy’n profi pwy yw’r tad

Os bydd y rhiant â gofal yn rhoi unrhyw un o’r uchod, gall y CSA ‘dybio pwy yw’r rhiant’. Dyma pryd bydd y CSA yn penderfynu eu bod wedi cael rheswm da i gredu mai’r rhiant a enwir yw rhiant y plentyn.

Os na all y rhiant â gofal roi’r wybodaeth yma, gall y CSA ofyn i’r ddau riant gymryd prawf DNA. Bydd angen profi DNA'r plentyn hefyd.

Tybio pwy yw’r rhiant

Yn ôl y gyfraith, gall y CSA dybio pwy yw’r rhiant os oedd y person a enwir fel y rhiant:

  • yn briod i fam y plentyn ar unrhyw amser rhwng cenhedliad a genedigaeth y plentyn (oni chafodd y plentyn ei fabwysiadu)
  • wedi enwi ar dystysgrif geni’r plentyn (oni chafodd y plentyn ei fabwysiadu)
  • wedi cymryd prawf DNA sy’n dangos eu bod yn rhiant i’r plentyn
  • wedi gwrthod cymryd y prawf DNA
  • wedi mabwysiadu’r plentyn yn gyfreithiol
  • yn cael eu henwi fel y rhiant mewn gorchymyn llys pan gafodd y plentyn ei eni i fam fenthyg

Os bydd y CSA yn tybio pwy yw’r rhiant, bydd yn gweithio allan swm cynhaliaeth plant. Rhaid i’r person a enwir fel y rhiant dalu’r swm yma hyd nes gallant roi tystiolaeth i brofi nad ydynt yn rhiant i’r plentyn.

Os ydych yn anghytuno gyda’r penderfyniad tybio pwy yw’r rhiant

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad am dybio pwy yw’r rhiant, gallwch ofyn i’r CSA ail edrych ar y penderfyniad.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i gael y CSA i ail edrych ar y penderfyniad drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Profi DNA

Un o’r ffyrdd y gall y CSA ddatrys anghydfod am fod yn rhiant yw trwy brofi DNA.

Os bydd y person a enwir fel rhiant y plentyn yn gwrthod cymryd prawf DNA, bydd y CSA yn tybio eu bod yn rhiant i’r plentyn. Pan fydd hyn yn digwydd bydd rhaid iddynt dalu cynhaliaeth plant.

Os bydd rhiant â gofal yn gwrthod cymryd prawf DNA, bydd y CSA yn cau’r achos.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am brofion DNA drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Gofyn i’r llys wneud penderfyniad

Weithiau ni fydd profion DNA yn addas ac ni all y CSA dybio pwy yw’r rhiant. Er enghraifft, os caiff plentyn ei eni o ganlyniad i driniaeth ffrwythloni. Yn yr achosion hyn, efallai bydd y CSA yn gwneud cais i’r llys er mwyn gofyn iddynt ddatrys yr anghydfod.

Gall person a enwir fel rhiant i blentyn hefyd ofyn i’r llysoedd farnu nad ydynt yn rhiant i blentyn. Bydd y llys fel arfer yn gofyn i bawb sy’n gysylltiedig â’r achos gymryd prawf DNA. Os bydd y person yn gwrthod, efallai bydd y llys yn tybio eu bod yn rhiant i’r plentyn.

Gallwch lawr-lwytho’r daflen ganlynol am fwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn gwadu bod yn rhiant i blentyn.

Yn yr adran hon...

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU