Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn defnyddio’r CSA ac yn anghytuno gyda phenderfyniad a wneir ganddynt am daliadau cynhaliaeth plant, gallwch ofyn iddynt ail edrych ar y penderfyniad. Cewch wybod beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn cael ail edrych ar y penderfyniad a beth fydd yn digwydd wedi i hyn ddigwydd.
Mewn unrhyw achos cynhaliaeth plant, bydd y CSA yn casglu gwybodaeth gan y ddau riant am:
Rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.
Mae’r CSA yn defnyddio’r wybodaeth yma i weithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei thalu i’r rhiant â gofal. Rhiant â gofal neu berson â gofal yw’r rhiant neu ofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.
Bydd y CSA bob tro yn anfon llythyr at y ddau riant i ddweud wrthynt eu penderfyniad am:
Gallwch ofyn i’r CSA ail edrych ar eu penderfyniad os credwch eu bod wedi:
Rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i’r dyddiad sydd ar ben y llythyr sy’n dweud wrthych am y penderfyniad.
Y ffordd gyflymaf o gael y CSA i ail edrych ar y penderfyniad yw cysylltu gyda hwy dros y ffôn. Gallwch gael y manylion cysywllt sydd eu hangen arnoch ar ben unrhyw lythyr mae’r CSA wedi ei anfon atoch.
Os ydych wedi gofyn i rywun eich cynrychioli, gall y person hwnnw ofyn i’r CSA ail edrych ar y penderfyniad. Gall y CSA ddim ond derbyn hyn os dywedoch wrthynt yn ysgrifenedig bod y person yma yn gweithredu fel eich cynrychiolydd.
Dylai’r CSA egluro’r rhesymau am y penderfyniad ac yna ei newid os yw’n anghywir.
Os bydd y CSA yn penderfynu bod y penderfyniad yn gywir, byddant yn dweud wrth y rhiant a gwestiynodd y penderfyniad bod y penderfyniad gwreiddiol yn dal i sefyll.
Os nad fydd y rhiant yma yn fodlon gyda hyn a bod y penderfyniad yn ymwneud â swm y gynhaliaeth plant, mae ganddynt hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Nid oes unrhyw hawl apelio yn erbyn penderfyniadau am sut a phryd i dalu cynhaliaeth plant.
Mae apêl yn broses swyddogol sy’n cael ei rheoli gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd tribiwnlys annibynnol yn edrych eto ar benderfyniad y CSA. Gall gymryd peth amser i ddod i ganlyniad.
Cewch fwy o wybodaeth yma am sut i apelio a beth mae hyn yn ei olygu drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.
Os bydd y CSA yn penderfynu newid eu penderfyniad, byddant yn anfon llythyr at y ddau riant i gadarnhau beth yw’r penderfyniad newydd. Gall y naill riant ofyn i’r CSA ail edrych ar y penderfyniad newydd neu apelio yn ei erbyn os ydynt yn parhau i fod yn anfodlon.
Tra bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu neu fod apêl yn ei erbyn, rhaid i’r rhiant dibreswyl barhau i dalu cynhaliaeth plant tan i’r mater gael ei ddatrys.
A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol