Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn delio gyda diffyg talu

Os ydy rhiant dibreswyl yn defnyddio’r CSA i drefnu cynhaliaeth plant, rhaid iddynt dalu’r swm cywir ar yr amser cywir. Os na fyddant yn gwneud hyn, gall y CSA weithredu a byddant yn gwneud hynny. Cewch weld pa gamau gall y CSA eu cymryd er mwyn sicrhau bod cynhaliaeth plant yn cael ei thalu.

Pa gamau gall y CSA eu cymryd os na fydd rhieni’n talu?

Os ydych yn rhiant dibreswyl, dywedwch wrth y CSA ar unwaith os ydych yn mynd i fethu taliad neu os bydd eich taliad yn hwyr.

Y ffordd hwylusaf chyflymaf i wneud hyn yw dros y ffôn. Cewch y manylion cyswllt sydd eu hangen arnoch ar dop unrhyw lythyr mae’r CSA wedi anfon atoch.

Gallwch hefyd gael manylion cyswllt eich swyddfa leol trwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Y rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Pan fydd taliad yn cael ei fethu, bydd y CSA yn cysylltu gyda’r rhiant dibreswyl er mwyn:

  • cael gwybod pam nad ydynt wedi talu
  • trefnu iddynt dalu beth sy’n ddyledus ganddynt
  • eu rhybuddio am y camau y gellir eu cymryd os nad ydynt yn talu.

Bydd gan y rhiant dibreswyl un wythnos i ymateb. Os nad ydynt yn ymateb, gall y CSA weithredu er mwyn ceisio cael y gynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt. Dyma beth a olygwn wrth gymryd camau gorfodi.

Camau gorfodi’r CSA

Cyn gall y CSA gymryd camau gweithredu, mae angen digon o wybodaeth i allu adnabod a dod o hyd i’r rhiant dibreswyl. Fel arfer, mae hyn yn golygu bod angen eu henw a’u cyfeiriad presennol. Os mai chi ydy’r rhiant â gofal, rhaid i chi roi’r wybodaeth yma i’r CSA os nad yw ganddynt yn barod.

Gall y CSA gymryd camau ar unwaith os bydd y ddau beth canlynol yn gymwys:

  • bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd eu hangen
  • mae’r rhiant dibreswyl yn defnyddio’r gwasanaeth casglu llawn

Y rhiant â gofal ydy’r rhiant neu’r gofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Ond, rhaid i’r rhiant â gofal ofyn i’r CSA weithredu os ydy’r rhiant dibreswyl:

  • wedi defnyddio’r CSA i weithio cynhaliaeth plant allan, ac
  • yn talu’r rhiant â gofal yn uniongyrchol drwy Gynhaliaeth Uniongyrchol

Gall y CSA hefyd gymryd camau cyfreithiol pan fydd rhiant dibreswyl:

  • yn methu â rhoi gwybodaeth i’r CSA pan ofynnir amdani
  • yn rhoi gwybodaeth y maent yn gwybod sy’n ffug
  • dim yn dweud wrth y CSA bod eu hamgylchiadau wedi newid

Pa gamau gall y CSA eu cymryd yn erbyn rhieni dibreswyl

Mae tri pheth y gall y CSA ei wneud i gael cynhaliaeth plant sydd heb ei thalu gan riant dibreswyl. Gallant:

  • cymryd arian yn uniongyrchol o’u henillion neu fudd-daliadau
  • cymryd arian o’u cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • cymryd camau drwy’r llysoedd

Cymryd arian o enillion neu fudd-daliadau rhiant dibreswyl

Os yw’r rhiant dibreswyl yn gyflogedig neu’n cael pensiwn galwedigaethol, gall y CSA gymryd arian o’r enillion yma. Gelwir hyn yn Orchymyn Didynnu o Enillion. Fel arfer, dyma’r cam cyntaf y bydd y CSA yn ei gymryd os ydy’r rhiant dibreswyl:

  • yn gyflogedig
  • yn methu â rhoi rheswm da pam eu bod wedi methu taliadau
  • yn methu â dod i gytundeb am ffordd arall o dalu

Bydd y CSA yn dweud wrth gyflogwr y rhiant dibreswyl faint i gymryd o’u henillion. Yna, rhaid i’r cyflogwyr basio hyn ymlaen i’r CSA. Os na fyddant yn gwneud hyn, gall y CSA fynd a hwy i’r llys.

Os ydy’r rhiant dibreswyl yn cael budd-daliadau, Pensiwn y Wladwriaeth neu Bensiwn Rhyfel, fel arfer, bydd y CSA yn cymryd y swm sy’n ddyledus allan o’r taliadau yma.

Cymryd arian o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

Gall y CSA gymryd cynhaliaeth plant allan o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu rhiant dibreswyl. Nid oes angen cael caniatâd gan y rhiant dibreswyl na’r llys i wneud hyn.

Gall y CSA ddweud wrth fanc neu gymdeithas adeiladu’r rhiant dibreswyl i gymryd naill ai:

  • taliadau rheolaidd (mae terfyn ar faint allant ei gymryd)
  • cyfandaliad unigol

Efallai bydd y banc neu gymdeithas adeiladu yn codi ffi weinyddol am bob taliad.

Cymryd camau trwy’r llysoedd

Gall y CSA hefyd fynd a’r rhiant dibreswyl i’r llys am beidio â thalu cynhaliaeth plant. Mae rhai o’r pethau y gall y llys ei wneud yn cynnwys:

  • anfon beilïaid (Swyddogion y Siryf yn yr Alban) i dŷ'r rhiant dibreswyl i gymryd a gwerthu eu heiddo er mwyn talu am y gynhaliaeth plant sy’n ddyledus
  • anfon y rhiant dibreswyl i’r carchar
  • casglu arian sy’n ddyledus i’r rhiant dibreswyl gan rywun arall a’i ddefnyddio i dalu’r gynhaliaeth plant sy’n ddyledus
  • gorfodi iddynt werthu eu tŷ a chasglu’r arian o hyn i dalu’r gynhaliaeth plant sy’n ddyledus

Gall y CSA ofyn i’r llysoedd stopio rhiant dibreswyl sy’n ceisio osgoi talu trwy:

  • gwerthu eiddo
  • trosglwyddo perchenogaeth yr eiddo i rywun arall

Gall y CSA hefyd ofyn i’r llysoedd i wrthdroi unrhyw werthiant neu drosglwyddiad sydd eisoes wedi digwydd.

Costau cyfreithiol

Os bydd y CSA yn cymryd camau trwy’r llysoedd, efallai bydd y rhiant dibreswyl yn gorfod talu:

  • eu costau cyfreithiol eu hunain
  • costau cyfreithiol y CSA

Mae hyn ar ben y gynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt.

Am fwy o wybodaeth am y camau gall y CSA eu cymryd, gallwch lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU