Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i dalu cynhaliaeth plant drwy’r CSA

Gall rhieni sy’n talu cynhaliaeth plant drwy’r CSA dalu drwy ddebyd uniongyrchol neu’n uniongyrchol o’u henillion. Gallant hefyd dalu’r rhiant arall yn uniongyrchol os ydy’r ddau ohonynt yn cytuno i hyn. Cewch weld sut gall taliadau cynhaliaeth plant gael eu gwneud drwy’r CSA.

Sut gellir talu cynhaliaeth plant

Os gwneir taliadau cynhaliaeth plant drwy’r CSA, gall y rhiant dibreswyl dalu:

  • trwy ddebyd uniongyrchol - bydd taliadau’n cael eu cymryd yn syth o’u cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • yn uniongyrchol o’u henillion – bydd y CSA yn trefnu Gorchymyn Didynnu o Enillion gyda’u cyflogwr

Y rhiant dibreswyl ydy’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Mae talu drwy ddebyd uniongyrchol yn ffordd hawdd a chyflym i dalu cynhaliaeth plant. Os ydych yn rhiant dibreswyl ac rydych am dalu drwy ddebyd uniongyrchol, bydd y CSA yn gallu trefnu hyn i chi.

Gall talu’n uniongyrchol o enillion helpu i riant dibreswyl reoli eu harian. Dyma pryd bydd cynhaliaeth plant yn:

  • cael ei chymryd gan y cyflogwr yn uniongyrchol o enillion y rhiant dibreswyl cyn i’r rhiant dibreswyl gael eu henillion
  • cael ei dalu i mewn i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa’r Post y rhiant â gofal

Y rhiant neu’r person â gofal yw’r rhiant neu’r gofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Talu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol

Unwaith bydd y CSA wedi gweithio swm y gynhaliaeth plant allan, os yw’r rhieni’n cytuno, gallant wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer talu a chael cynhaliaeth plant. Gelwir hyn yn Gynhaliaeth Uniongyrchol.

Y ffordd hwylusaf a chyflymaf o dalu yw drwy archeb sefydlog. Mae archeb sefydlog yn sicrhau bod cynhaliaeth plant yn cael ei thalu ar amser. Mae taliadau’n mynd:

  • o gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa Bost y rhiant dibreswyl
  • yn uniongyrchol i gyfrif y rhiant â gofal

Os nad oes gennych chi neu’r rhiant arall gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa’r Post ac na allwch agor un, rhowch wybod i’r CSA.

Os ydych yn defnyddio Cynhaliaeth Uniongyrchol mae’n syniad da i gadw cofnod o’r taliadau a wneir neu a geir. Mae hyn rhag ofn y bydd unrhyw broblemau yn y dyfodol.

Efallai y gall y CSA eich helpu os bydd taliadau yn cael eu methu. Dylech roi gwybod yn syth am unrhyw daliadau a fethwyd. Gallwch hefyd ofyn i’r CSA ddechrau casglu a phasio taliadau ymlaen os bydd eich trefniadau Cynhaliaeth Uniongyrchol yn torri i lawr.

Pa mor aml ddylai taliadau gael eu gwneud

Os ydych am i’r CSA gasglu a phasio taliadau ymlaen, bydd y CSA yn gwneud trefniadau gyda chi a’r rhiant arall am:

  • pa mor aml i wneud taliadau
  • pryd caiff taliadau eu gwneud

Mae hyn fel arfer yn seiliedig ar bryd mae’r rhiant dibreswyl yn cael eu cyflog, pensiwn neu fudd-daliadau. Er enghraifft, gellir talu cynhaliaeth plant:

  • bob wythnos
  • bob pythefnos
  • bob pedair wythnos
  • bob mis

Dylech gysylltu gyda’r CSA ar unwaith os ydych yn rhiant dibreswyl a’ch bod:

  • yn cael problemau talu
  • yn mynd i fethu taliad

Hyd yn oed os bydd y CSA yn casglu ac yn pasio taliadau ymlaen, mae’n dda i gadw cofnod o’r taliadau a wneir neu a geir. Mae hyn rhag ofn y bydd unrhyw broblemau yn y dyfodol.

Amserlenni Casglu ac Amserlenni Talu

Os mai chi ydy’r rhiant dibreswyl, bydd y CSA yn anfon amserlen taliadau atoch. Bydd hyn yn dweud wrthych:

  • faint o gynhaliaeth plant sy’n rhaid i chi ei dalu
  • pryd sydd raid i chi wneud y taliadau

Gelwir hyn yn Amserlen Gasglu.

Os mai chi ydy’r rhiant â gofal, bydd y CSA yn anfon amserlen taliadau atoch fel y byddwch hefyd yn gwybod:

  • faint o gynhaliaeth plant sy’n ddyledus
  • ar ba ddiwrnod bydd y gynhaliaeth plant yn cael ei chasglu gan y rhiant dibreswyl (neu eu cyflogwr)

Gelwir hyn yn Amserlen Taliadau.

Cewch fwy o wybodaeth am sut i dalu cynhaliaeth plant drwy’r CSA trwy lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Cewch fwy o wybodaeth am sut i gael cynhaliaeth plant drwy’r CSA trwy lawr-lwytho’r daflen ganlynol.

Clirio dyledion cynhaliaeth plant

Fel arfer, gofynnir i rieni dibreswyl sydd wedi osgoi neu fethu taliadau cynhaliaeth plant i dalu’r swm sy’n ddyledus ganddynt yn llawn ac ar unwaith.

Gall rhiant dibreswyl glirio unrhyw gynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt drwy:

  • defnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd
  • talu trwy eu banc

Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn bosib i riant dibreswyl gytuno gyda’r CSA i dalu’r gynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt mewn rhandaliadau.

Os bydd cynhaliaeth plant dal heb ei thalu, gall y CSA gymryd camau i adennill unrhyw arian sy’n ddyledus.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am beth mae’r CSA yn ei wneud am ddiffyg talu drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU