Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno am y gwasanaeth a gewch gan yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)

Os ydych yn defnyddio’r CSA i drefnu cynhaliaeth plant ac rydych yn anhapus gyda’r ffordd cafodd eich achos ei drin, gallwch wneud cwyn. Cewch wybod mwy am beth allwch gwyno amdano a sut i gwyno.

Pryd gallwch gwyno i’r CSA

Gallwch gwyno am y gwasanaeth a gewch gan y CSA ar unrhyw bryd. Mae ffordd wahanol o wneud cwyn os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad a wnaed gan y CSA am swm y gynhaliaeth plant.

Cewch fwy o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad am swm y gynhaliaeth plant drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Sut i wneud cwyn

Os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth a gewch gan y CSA, dylech:

  • dweud wrthynt beth yw’r broblem
  • gofyn iddynt geisio datrys y broblem i chi

Y ffordd gyflymaf i wneud hyn yw dros y ffôn. Gallwch gael y manylion cyswllt sydd eu hangen arnoch ar ben unrhyw lythyr mae’r CSA wedi ei anfon atoch.

Gallwch hefyd gael manylion cyswllt eich swyddfa leol gan ddefnyddio’r cyswllt isod.

Os ydych dal yn anhapus, gallwch wneud cwyn.

Gallwch e-bostio cwyn gan ddefnyddio’r ffurflen gwyno ar-lein.

Hefyd, gallwch gysylltu gyda’r CSA dros y ffôn neu’n ysgrifenedig. Bydd manylion cyswllt y CSA ar ben unrhyw lythyr rydych wedi ei gael gan y CSA.

Cewch wybod may am broses cwyno’r CSA drwy lawr-lwytho’r ddogfen ganlynol.

Os ydych wedi mynd trwy’r broses cwyno ac rydych dal yn teimlo nad yw’r broblem wedi cael ei datrys, gallwch gysylltu gyda’r Archwilydd Achosion Annibynnol.

Yr Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE)

Mae’r Archwilydd Achosion Annibynnol yn ymchwilio i gwynion am gyrff llywodraethol penodol, gan gynnwys y CSA. Dim ond ar ôl i chi fynd drwy broses cwyno’r CSA y byddant yn edrych i mewn i’ch achos cynhaliaeth plant.

Os hoffech i’r Archwilydd Achosion Annibynnol edrych i mewn i’ch cwyn, rhaid i chi gysylltu gyda hwy o fewn chwe mis o gael ateb terfynol gan y CSA.

Cewch wybod mwy am yr Archwilydd Achosion Annibynnol trwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Yr Ombwdsmon Seneddol

Gallwch hefyd ofyn i’ch Aelod Seneddol i gael yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i edrych i mewn i’ch achos.

Fel arfer, bydd yr Ombwdsmon ddim ond yn gweithredu ar gŵyn unwaith rydych:

  • wedi bod trwy broses cwyno’r CSA
  • wedi cael y gŵyn wedi ei hadolygu gan yr Archwilydd Achosion Annibynnol

Cewch wybod mwy am yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Beth fydd yn digwydd os bydd y CSA wedi gwneud camgymeriad?

Weithiau, gall y CSA wneud camgymeriad wrth ddelio ag achos. Gelwir hyn yn ‘gamweinyddiaeth’. Weithiau, bydd y CSA yn talu iawndal i’r rheini hynny sydd wedi cael eu heffeithio. Gelwir y rhain yn ‘daliadau arbennig’.

Cewch wybod mwy am daliadau arbennig trwy lawr-lwytho’r ‘Canllaw Taliadau Arbennig’ gan ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Taliadau cynhaliaeth plant ymlaen llaw

Weithiau, gall camweinyddiaeth gan y CSA arwain at fethu casglu cynhaliaeth plant gan y rhiant dibreswyl ar yr amser cywir. Golyga hyn fod oedi wrth i’r rhiant â gofal gael cynhaliaeth plant.

Rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer. Rhiant â gofal neu’r person â gofal yw’r rhiant neu ofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Os oes unrhyw oedi, bydd y CSA yn gwneud taliad ymlaen llaw i’r rhiant â gofal. Bydd hyn tra y bydd y CSA yn casglu taliadau gan y rhiant dibreswyl.

Telir taliadau ymlaen llaw mewn cyfandaliad. Maent yn wahanol i daliadau arbennig oherwydd bod y CSA yn parhau i gasglu beth sy’n ddyledus gan y rhiant dibreswyl.

Pryd bydd y CSA yn gwneud taliadau ymlaen llaw

Bydd y CSA ddim ond yn gwneud taliadau ymlaen llaw pan fydd:

  • tystiolaeth glir bod camweinyddiaeth gan y CSA wedi achosi’r oedi
  • tystiolaeth glir i ddangos, os na fyddai camweinyddiaeth wedi digwydd, y byddai’r rhiant dibreswyl wedi talu neu wedi cael ei wneud i dalu
  • y swm sy’n ddyledus oherwydd camweinyddiaeth yn fwy na £100
  • yn mynd i gymryd mwy na 26 wythnos i’r rhiant dibreswyl dalu’r gynhaliaeth plant na chafodd ei chasglu oherwydd camweinyddiaeth
  • yr oedi’n hirach na’r amser arferol i brosesu taliadau

Rhaid bod y rhiant â gofal:

  • wedi gorfod aros yn hirach nag arfer am eu cynhaliaeth plant
  • wedi dangos diddordeb mewn symud eu hachos ymlaen yn ystod cyfnod yr oedi, trwy gysylltu gyda’r CSA o leiaf unwaith bob tri mis
  • yn cytuno y gall y CSA gadw’r taliadau sydd wedi cael eu hoedi unwaith cânt eu casglu gan y rhiant dibreswyl
  • yn cytuno i ad-dalu unrhyw daliadau a wnaed yn uniongyrchol iddynt gan y rhiant dibreswyl yn lle eu taliadau sydd wedi cael eu hoedi

Rhaid bod y rhiant dibreswyl:

  • wedi bod yn talu hyd at bwynt y camweinyddiaeth
  • yn gwneud taliadau cynhaliaeth plant rheolaidd a thaliadau ôl-ddyledion ar y pwynt pryd gwnaed y cais am daliad ymlaen llaw

Y CSA sy’n penderfynu os gellir gwneud taliadau ymlaen llaw. Mae pob penderfyniad am daliadau ymlaen llaw yn cael eu gwneud fesul achos.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU