Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth

Gall y CSA ofyn am a rhannu gwybodaeth amdanoch er mwyn sefydlu a rheoli eich trefniadau cynhaliaeth plant. Cewch wybod mwy am sut mae’r CSA yn casglu a defnyddio’r wybodaeth yma a sut i gael gwybod pa wybodaeth sydd ganddynt amdanoch.

Pam fod y CSA angen gwybodaeth am rieni

Mae’r CSA angen gwybodaeth benodol er mwyn gallu sefydlu a rheoli trefniadau cynhaliaeth plant. Mae’r wybodaeth yma’n helpu i:

  • dod o hyd i rieni dibreswyl
  • gweithio allan faint o gynhaliaeth plant dylai rhiant dibreswyl ei dalu
  • sicrhau bod rhieni dibreswyl yn talu’r swm cywir ar yr amser cywir

Rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad ydy’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Sut mae’r CSA yn casglu gwybodaeth

Yn gyntaf bydd y CSA yn gofyn i’r rhieni yn yr achos cynhaliaeth plant am wybodaeth. Os na fydd rhieni yn gallu neu ddim yn rhoi gwybodaeth, gall y CSA ofyn i bobl a chyrff eraill am y wybodaeth sydd ei hangen. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyflogwr neu gyfrifydd y rhiant dibreswyl neu gwmnïau neu bartneriaethau y maent yn rhoi gwasanaethau iddynt
  • cyrff llywodraethol, fel y Ganolfan Byd Gwaith, Cyllid a Thollau EM a’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • gwasanaethau’r carchar a chynghorau lleol

mudiadau sydd gan wybodaeth am hanes ariannol y rhiant dibreswyl fel banciau neu gymdeithasau adeiladu, asiantaethau cyfeirio credyd a chyflenwyr nwy a thrydan

Sut bydd y CSA yn defnyddio gwybodaeth

Bydd y CSA ddim ond yn gofyn am ac yn cadw'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn delio gydag achos cynhaliaeth plant.

Ni fydd y CSA yn rhoi enwau a chyfeiriadau allan heblaw bod llys yn gorchymyn hynny. Os bydd y gyfraith yn caniatáu, gallant hefyd roi gwybodaeth am rieni i fudiadau eraill, gan gynnwys:

  • cyrff llywodraethol eraill
  • tribiwnlys llys mewn perthynas â chynhaliaeth plant
  • asiantaethau casglu dyled

Bydd y CSA hefyd yn rhannu gwybodaeth fydd yn helpu i atal neu ganfod troseddau.

Pa wybodaeth sy’n cael ei rhoi i’r rhiant arall?

Pan fydd y CSA yn anfon llythyrau am sut cafodd cynhaliaeth plant ei gweithio allan, bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • pa blant sydd wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad
  • incwm y rhiant dibreswyl
  • y nifer o blant sy’n byw gyda’r rhiant dibreswyl
  • unrhyw amgylchiadau arbennig eraill sydd wedi cael eu hystyried

Mae hyn yn helpu’r ddau riant sicrhau bod y CSA wedi gweithio allan y swm cywir o gynhaliaeth plant gan ddefnyddio’r wybodaeth gywir.

Cael gwybod pa wybodaeth sydd gan y CSA amdanoch

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn eich caniatáu i weld pa wybodaeth bersonol mae’r CSA yn ei chadw amdanoch.

Bydd peth o’r wybodaeth ar gael am ddim, er enghraifft:

  • sut cafodd swm eich cynhaliaeth plant ei weithio allan
  • diweddariad am eich achos
  • copi o lythyr penodol a anfonwyd atoch gan y CSA

Os ydych am gael gweld gwybodaeth arall sydd gan y CSA amdanoch, bydd yn rhaid i chi:

  • talu ffi weinyddol o £10
  • anfon cais ysgrifenedig at Uned Diogelu Data'r CSA

Gallwch lawr-lwytho’r daflen ganlynol i gael gwybodaeth am sut mae’r CSA yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU