Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad a wnaed gan y CSA am gynhaliaeth plant, gallwch ofyn iddynt ail edrych arno eto. Os ydych dal yn anfodlon, gallwch wedyn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Cewch wybod mwy yma am broses apelio’r CSA.
Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad gan y CSA, rhaid i chi naill ai:
Rhaid anfon y ffurflen gais neu’r llythyr i’r CSA o fewn mis i ddyddiad llythyr y penderfyniad.
Lawr-lwytho ffurflen gais apelio
Os agorwyd eich cais ar ôl Mawrth 2003, ac rydych am wneud apêl, gallwch lawr-lwytho’r ffurflen ganlynol.
Gallwch gael y ffurflen gais apelio ar gefn y daflen.
Apelio trwy ysgrifennu llythyr
Os ydych am apelio drwy ysgrifennu llythyr i’r CSA, bydd rhaid i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Rhaid i chi lofnodi’r ffurflen apelio neu’r llythyr a’u hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
Uned Apeliadau Canolog / Central Appeals Unit
Child Support Agency
PO Box 33
Preston
PR11 2DT
Os ydych wedi gofyn i rywun eich cynrychioli, gall y person hwnnw lofnodi’r ffurflen neu’r llythyr. Dim ond os ydych wedi dweud yn barod wrth y CSA bod y person yma yn gweithredu fel eich cynrychiolydd y gallant dderbyn hyn.
Unwaith caiff apêl ei derbyn, bydd y CSA yn edrych yn ofalus ar y penderfyniad ac yn ei wirio i weld os oes unrhyw wallau.
Yna, byddant yn:
Os bydd y CSA yn newid y penderfyniad a bod y newid o fudd ariannol i chi, bydd y CSA yn:
Gallwch dynnu eich apêl yn ôl ar unrhyw amser. Er mwyn tynnu eich apêl yn ôl, rhaid i chi (neu’ch cynrychiolydd) ysgrifennu i’r Uned Apeliadau Canolog eto.
Bydd y CSA yn paratoi ‘ymateb apêl’ os:
Mae’r ymateb i’r apêl yn ddogfen sy’n cynnwys holl fanylion yr apêl ynddi. Bydd hyn yn cynnwys:
Caiff hyn ei anfon i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant.
Y Tribiwnlys Haen Gyntaf fydd yn gwrando ar eich apêl. Os byddant yn newid penderfyniad gwreiddiol y CSA, byddant yn dweud wrth y CSA pa gamau i’w cymryd. Efallai y gallwch fynd yn ôl i’r tribiwnlys Haen Gyntaf os ydych yn credu nad yw’r CSA wedi gwneud beth ddywedwyd wrthynt am ei wneud.
Os bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn penderfynu bod penderfyniad gwreiddiol y CSA yn gywir, bydd y penderfyniad hwnnw yn sefyll.
Cewch fwy o wybodaeth am sut mae tribiwnlys yn gweithio drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.
Gallwch apelio i’r Uwch Dribiwnlys os ydych yn credu fod y ddau beth canlynol yn gymwys i chi:
Fel y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mae’r Uwch Dribiwnlys yn gorff annibynnol sydd ar wahân i’r CSA. Mae ganddo’r awdurdod i newid penderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf os bydd o’r farn:
Os bydd yr Uwch Dribiwnlys o’r farn bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi gwneud y penderfyniad anghywir, bydd fel arfer yn gwneud un o’r canlynol
Am fwy o wybodaeth am apelio, gallwch lawr-lwytho un o’r taflenni canlynol.
Os agorwyd eich achos ar ôl Mawrth 2003, dylech lawr-lwytho’r daflen ‘Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant’.
Os agorwyd eich achos cyn Mawrth 2003, dylech lawr-lwytho’r daflen ‘Sut i Apelio’
A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol