Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Profion DNA a’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)

Un o’r ffyrdd y gall y CSA ddatrys unrhyw anghytuno am bwy yw rhiant plentyn yw trwy brofi DNA. Os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn ar ôl i’r CSA weithio’r gynhaliaeth plant allan, gallant gymryd prawf DNA. Cewch wybod mwy yma am brofi DNA.

Profi DNA

Gall profi DNA naill ai:

  • profi 100% nad yw person yn rhiant i blentyn
  • dangos tebygolrwydd o 99.99% bod person yn rhiant i blentyn

Rhaid i’r person a enwir fel rhiant i’r plentyn a’r rhiant â gofal gytuno i gymryd y prawf. Hefyd bydd rhaid i’r rhiant â gofal gytuno bod y plentyn yn gallu cymryd y prawf. Os yw’r plentyn dros 16 gallant roi caniatâd eu hunain.

Y rhiant â gofal yw’r rhiant neu ofalwr y mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Bydd y wybodaeth a roddir i’r cwmni profi, a’r holl ganlyniadau, yn gwbl gyfrinachol.

Cymryd prawf DNA

Gall profion DNA naill ai gael eu trefnu:

  • trwy ddefnyddio’r cwmni profi DNA sy’n cynnal profion ar ran y CSA
  • trwy gwmni profi DNA preifat

Bydd y CSA ddim ond yn derbyn canlyniadau’r prawf preifat os ydynt yn fodlon bod:

  • y prawf wedi cael ei wneud gan gwmni cymeradwy
  • trefniadau diogelwch yn cwrdd â safonau derbyniol
  • pawb sy’n gysylltiedig â’r prawf yn hapus y cafodd ei gynnal yn gywir
  • y prawf yn seiliedig ar samplau o’r person a enwir fel y rhiant, y rhiant â gofal a’r plentyn

Cewch restr o gwmnïau profi DNA cymeradwy trwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Mae prawf DNA fel arfer yn cynnwys profi sampl o gelloedd y foch. Gallwch hefyd roi sampl gwaed. Mae’n rhaid i bawb sy’n rhan o’r prawf roi'r un fath o sampl.

Mae profi DNA yn cynnwys nifer o gamau

Cam 1

Mae’r cwmni DNA yn anfon pecyn gwybodaeth at y person a enwir fel rhiant y plentyn a’r rhiant â gofal. Mae’r pecyn yn cynnwys ffurflen apwyntiad ddylai’r person a enwir fel rhiant y plentyn ei chwblhau a’i hanfon yn ôl.

Cam 2

Mae’r person a enwir fel rhiant y plentyn yn dewis meddyg i gynnal y prawf.

Cam 3

Bydd y meddyg yn cael pecyn profi gan y cwmni profi.

Cam 4

Yn ddibynnol ar ba brawf a ddewiswyd, bydd y meddyg naill ai’n cymryd:

  • rhai celloedd o’r foch o du fewn y geg gan ddefnyddio sbwng bychan ar ffon
  • sampl gwaed

Cam 5

Bydd y meddyg yn anfon y samplau i’r cwmni profi.

Cam 6

Bydd y cwmni profi yn anfon y canlyniadau at y rhiant â gofal, y person a enwir fel rhiant y plentyn ac i’r CSA. Hefyd gall y canlyniadau gael eu rhoi i lys fel tystiolaeth.

Talu am brawf DNA

Y ffi am brofi tri o bobl (dau oedolyn ac un plentyn) yw £252.00. Os bydd y person a enwir fel rhiant y plentyn yn talu wrth ddychwelyd y ffurflen apwyntiad, gallant dalu ffi ostyngol o £187.20.

Gall y costau yma newid, felly ffoniwch y CSA i wneud yn siŵr faint ydy’r ffioedd. Nid oes unrhyw arian a delir ar gyfer y prawf DNA yn mynd i’r CSA.

Mae’r CSA yn disgwyl i’r person a enwir fel rhiant y plentyn dalu am y prawf.

Mewn amgylchiadau arbennig, bydd y CSA yn derbyn na all y person a enwir fel rhiant y plentyn dalu am y prawf. Os bydd hyn yn digwydd bydd y CSA yn talu am y prawf. Ond os bydd y prawf yn dangos eu bod yn rhiant i’r plentyn, bydd rhaid iddynt ad-dalu’r arian yma i’r CSA.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y prawf DNA?

Os bydd y prawf yn profi bod y person yn rhiant i’r plentyn, bydd y CSA yn gweithio allan faint ddylai’r taliadau fod. Bydd y taliadau hyn yn cynnwys:

  • unrhyw gynhaliaeth plant sy’n rhaid iddynt dalu
  • pris y prawf DNA

Os bydd canlyniadau’r prawf yn profi nad yw’r person a enwir fel rhiant i’r plentyn yn rhiant i’r plentyn, efallai bydd y CSA yn:

  • ad-dalu pris y prawf (os gwnaed y prawf gan y cwmni sy’n trefnu profion i’r CSA)
  • ad-dalu unrhyw daliadau cynhaliaeth plant a wnaed ar ôl y dyddiad pryd gwnaeth y person wadu bod yn rhiant i’r plentyn

Nid oes angen i’r CSA ad-dalu unrhyw gynhaliaeth plant a dalwyd cyn i’r person wadu eu bod yn rhiant i’r plentyn.

Mae pob penderfyniad am ad-daliadau yn cael ei wneud gyda disgresiwn y CSA ac yn ddibynnol ar amgylchiadau bob achos.

Additional links

Trefniadau teuluol

A wyddoch chi? Gallwch chi a’r rhiant arall drefnu cynhaliaeth plant heb gynnwys unrhyw un arall. Yma cewch wybod am drefniadau teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU