Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwneud cais i’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)

Gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein, dros y ffôn, neu drwy lawrlwytho ffurflen gais. Cewch wybod sut y gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant, pa wybodaeth fydd angen i chi ei rhoi a pha mor hir fydd eich cais yn ei gymryd.

Cynhaliaeth plant – sut i wneud cais

Mae tair ffordd o wneud cais drwy’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA).

Gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant:

  • dros y ffôn
  • drwy lawrlwytho ffurflen gais
  • ar-lein

Gwneud cais am gynhaliaeth plant drwy ffonio’r CSA

Gallwch wneud cais drwy ffonio’r CSA.

Gwasanaeth ffonio’n ôl

Gallwch gael rhywun o’r CSA i’ch ffonio a chwblhau eich cais dros y ffôn. Defnyddiwch y cyswllt canlynol er mwyn cofrestru eich cais a gofyn i rywun eich ffonio’n ôl.

Gwneud cais gyda ffurflen gais cynhaliaeth plant

Mae’r ffurflen gais cynhaliaeth plant fydd angen i chi ei lawrlwytho a’i llenwi yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Defnyddiwch y cyswllt canlynol os mai chi ydy’r rhiant â gofal a’ch bod eisiau gwneud cais am gynhaliaeth plant:

Defnyddiwch y cyswllt canlynol os mai chi ydy’r rhiant dibreswyl a’ch bod eisiau gwneud cais i dalu (cyn belled nad ydy’r rhiant â gofal wedi gwneud cais yn barod):

Defnyddiwch y cyswllt canlynol os mai chi ydy’r rhiant dibreswyl ac mae’r rhiant â gofal wedi gwneud cais yn barod:

Y rhiant â gofal yw’r rhiant neu ofalwr mae’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer. Y rhiant dibreswyl yw’r rhiant nad ydy’r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer.

Bydd rhaid i’r person sy’n gwneud y cais lofnodi’r ffurflen cais a ddefnyddir.

Rhaid i chi brintio a llenwi’r ffurflen gais, ac wedyn ei hanfon i’r cyfeiriad canlynol:

Child Support Agency

PO Box 258

St Leonards on Sea

TN38 1GP

Gwneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i wneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein:

Gwybodaeth sy’n rhaid i chi ei rhoi wrth wneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais i gael neu i dalu cynhaliaeth plant, bydd rhaid i chi roi gwybodaeth amdanoch chi a’ch teulu, fel:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol a manylion cyfrif banc
  • manylion am y plentyn rydych yn gwneud cais ar eu cyfer – gan gynnwys enwau llawn eu mam a’u tad.

Os mai chi ydy’r rhiant â gofal, bydd hefyd angen i chi roi digon o wybodaeth i’r CSA allu adnabod a chael gafael ar y rhiant dibreswyl. Er enghraifft, bydd angen i chi roi eu henw a’u cyfeiriad i’r CSA.

Gall eich achos gael ei sefydlu’n gyflymach os gallwch roi gymaint â phosib o wybodaeth i’r CSA. Ni fydd y CSA yn gallu agor achos i chi os na fyddwch yn rhoi digon o wybodaeth:

  • amdanoch chi eich hunan
  • am y bobl eraill sy’n rhan o’r cais

Cewch fwy o wybodaeth am ba wybodaeth fydd angen i chi ei rhoi drwy lawrlwytho’r ‘Rhestr wirio - cais cynhaliaeth plant’.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i wneud y trefniadau

Bydd y CSA yn dechrau casglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt gan y rhiant dibreswyl o fewn pedair wythnos o gael cais.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y CSA rhoi gwybod i chi o fewn 12 wythnos o wneud cais os byddwch yn gallu cael cynhaliaeth plant neu beidio. Gallai gymryd hyd at 26 wythnos weithiau, er enghraifft:

  • os na all rhiant â gofal roi manylion cyswllt
  • os na fydd manylion cyswllt y rhiant dibreswyl yn rhai diweddar

Dylai’r rhiant â gofal gael taliad cynhaliaeth plant cyntaf o fewn chwe wythnos o wneud trefniadau talu gyda’r rhiant dibreswyl.

Bydd y CSA yn ceisio dod o hyd i fanylion cyswllt y rhiant dibreswyl cyn gynted â phosib os nad ydynt yn hysbys. Ond, os na ellir dod o hyd i’r rhiant dibreswyl o gwbl, yna ni all y CSA agor achos.

Delio gyda diffyg talu

Gall y CSA gymryd camau i adennill unrhyw gynhaliaeth plant sy’n ddyledus gan y rhiant dibreswyl os na fyddant yn talu.

Cewch fwy o wybodaeth am y camau gall y CSA eu cymryd i adennill cynhaliaeth drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Additional links

Trefniadau teuluol

I gael help i wneud trefniad teuluol, cysylltwch â’r gwasanaeth cyfrinachol a diduedd Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Allweddumynediad llywodraeth y DU