Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am orchmynion llys os ydych yn anghytuno ynghylch plant

Os ydych yn methu'n lân â chytuno ar drefniadau ynghylch plant pan ddaw perthynas i ben, gall un rhiant neu'r ddau riant wneud cais i lys. Dylai hyn fod yn ddewis olaf - gall mynd â'r materion hyn i lys fod yn anodd iawn i chi a'ch plant. Mynnwch wybod beth y gallwch ofyn i lysoedd benderfynu arno, a pha orchmynion llys y gallwch wneud cais amdanynt.

Y camau cyntaf wrth ddatrys gwrthdaro ynghylch plant mewn llys

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu cytundebau eu hunain am blant os daw eu perthynas i ben. Ond os ydych yn methu'n lân â chytuno â'ch cyn-bartner, gallwch ofyn i lys benderfynu ar y trefniadau.

Fel arfer, bydd barnwyr yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb yn ystod yr achos llys. Ac os dewch i gytundeb, gall y barnwr roi terfyn ar y broses yn y llys heb wneud gorchymyn llys.

Er mwyn dechrau'r broses, bydd angen i chi wneud cais am un gorchymyn llys neu fwy. Mae nifer o orchmynion y gall llysoedd teulu eu gwneud o ran trefniadau ar gyfer plant.

Mathau o orchymyn llys ynghylch plant

Bydd y math o orchymyn (neu orchmynion) llys y bydd angen i chi wneud cais amdano yn dibynnu ar ba drefniadau ar gyfer eich plant na allwch gytuno arnynt.

Gorchmynion Cyswllt

Mae Gorchmynion Cyswllt yn golygu bod yn rhaid i'r person y mae'r plentyn yn byw gyda nhw ganiatáu i'r plentyn gysylltu â rhywun arall. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn byw gyda'ch cyn-bartner ac na allwch gytuno ar drefniadau ynghylch gweld eich plentyn, gallwch wneud cais am Orchymyn Cyswllt.

Gorchmynion Preswyliaeth

Mae Gorchmynion Preswyliaeth yn penderfynu ble a gyda phwy y bydd plentyn yn byw. Os na allwch gytuno ar hyn â'ch cyn-bartner, gallwch wneud cais am Orchymyn Preswyliaeth.

Gorchmynion Mater Penodol

Mae'r gorchmynion hyn yn rhoi cyfarwyddyd ar bwynt penodol am eich plentyn na allwch gytuno arno. Er enghraifft, os na allwch gytuno ble y dylai eich plentyn fynd i'r ysgol, gallwch wneud cais am Orchymyn Mater Penodol.

Gorchmynion Camau Gwaharddedig

Mae'r gorchmynion hyn yn golygu na chaiff rhywun wneud y peth a nodir yn y gorchymyn heb ganiatâd y llys. Er enghraifft, efallai na fyddwch am i'ch cyn-bartner fynd â'ch plentyn dramor. Gallwch wneud cais am Orchymyn Camau Gwaharddedig os ydych yn poeni am hyn.

Gorchmynion Cyfrifoldeb Rhiant

Mae'r gorchmynion hyn yn rhoi'r holl hawliau, dyletswyddau a chyfrifoldebau i rywun fel rhiant. Mae gan fam gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig, ac nid oes angen iddi wneud cais amdano.

Efallai y byddwch am wneud cais am Orchymyn Cyfrifoldeb Rhiant os oes unrhyw un o'r pwyntiau canlynol yn berthnasol:

  • chi yw tad plentyn ond nid oeddech yn briod â mam y plentyn pan gafodd y plentyn ei eni
  • ganwyd y plentyn ar ôl 1 Rhagfyr 2003 ac nid oeddech wedi'ch cofrestru fel y tad ar dystysgrif geni'r plentyn
  • nid ydych wedi gwneud Cytundeb Cyfrifoldeb Rhiant â'r fam

Datrys problemau ynghylch cynhaliaeth plant

Fel arfer, penderfynir ar gynhaliaeth plant rhwng rhieni neu drwy'r Comisiwn Trefnu Gorfodi a Chynhaliaeth Plant (CMEC).

Ond weithiau, y llysoedd sy'n penderfynu ar drefniadau cynhaliaeth fel rhan o ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil. (Fel arfer, mae hyn yn rhan o 'orchymyn caniatâd'). Os nad yw'r trefniadau hyn yn gweithio, gellir dod â'r materion yn ôl i'r llys.

Pwy all wneud cais am orchmynion ynghylch plant

Gall mam neu dad y plentyn wneud cais am:

  • Orchmynion Cyswllt
  • Gorchmynion Preswyliaeth
  • Gorchmynion Mater Penodol
  • Gorchmynion Camau Gwaharddedig

Os ydych yn llys-riant (yn briod â rhiant plentyn) gallwch wneud cais am:

  • Orchmynion Cyswllt
  • Gorchmynion Preswyliaeth
  • Gorchmynion Cyfrifoldeb Rhiant

Os ydych yn llys-riant a bod gennych eisoes Orchymyn Cyfrifoldeb Rhiant, gallwch hefyd wneud cais am:

  • Gorchmynion Mater Penodol
  • Gorchmynion Camau Gwaharddedig

Gall pobl eraill, gan gynnwys neiniau a theidiau, wneud cais am orchmynion llys ynghylch plant.

Ond mae'n rhaid iddynt wneud cais i'r llys am ganiatâd er mwyn cael gwneud hynny.

Gallwch wneud cais am ganiatâd drwy gwblhau ffurflen C2 a'i dychwelyd at lys sy'n delio â materion teuluol.

Y gost o wneud cais am orchymyn

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi i wneud cais am orchymyn llys ynghylch plant. Ar hyn o bryd mae'n costio £200. Efallai y gallwch gael gostyngiad os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu ar incwm isel.

Sut i wneud cais am orchymyn llys

Er mwyn gwneud cais am orchymyn llys ynghylch plant, bydd angen i chi gwblhau ffurflen C100 a'i dychwelyd at lys sy'n delio â materion teuluol. Mae'n ffurflen fanwl iawn ac mae'n bwysig i bob adran gael ei chwblhau'n gywir.

I ddod o hyd i lys sy'n delio â materion teuluol, dilynwch y ddolen isod a dewiswch 'Gwaith teuluol' yn yr adran 'Chwiliad Math o Waith Llys'.

Cael cyngor

Mae gwneud cais am orchymyn llys ynghylch plant yn gam mawr. Gall arwain at benderfyniadau a fydd yn effeithio ar eich bywyd chi a bywyd eich plentyn mewn ffyrdd efallai na fyddwch wedi'u hystyried.

Mae'n syniad da cael cyngor cyfreithiol cyn gwneud penderfyniad terfynol ai mynd i'r llys fydd y dewis cywir i chi a'ch plant.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU