Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Llysoedd arbennig yw llysoedd teulu sy'n delio â materion sy'n ymwneud â chyfraith deuluol. Ar y dudalen hon, gallwch gael gwybodaeth am y math o faterion y mae llysoedd teulu yn delio â nhw, a sut y mae achosion llys yn gweithio.
Pan fydd rhieni'n gwahanu, yn ysgaru neu'n gwneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben, mae angen gwneud penderfyniad ar drefniadau ar gyfer y plant. Os na all y rhieni gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant (fel ble fydd y plant yn byw), gallant wneud cais i'r llysoedd teulu.
Bydd y llysoedd yn gwneud penderfyniad ac yn cyflwyno Gorchymyn Cyswllt neu Breswyliaeth a fydd yn pennu ar hawliau ymweld a ble fydd y plant yn byw.
Gall achosion llys fod yn broses hir a drud sy'n rhoi pwysau mawr ar y teulu cyfan. Yn hytrach na dilyn y broses hon, mae'n well gan nifer o rieni ddefnyddio cyfryngu teuluol. Mae cyfryngu teuluol yn ffordd o ddatrys anghydfod ar ôl i'ch perthynas ddod i ben, heb ddefnyddio cyfreithwyr na'r llysoedd.
Wrth gyfryngu, bydd aelodau o'r teulu yn egluro eu pryderon a'u hanghenion wrth ei gilydd ym mhresenoldeb cyfryngwr. Mae'r cyfryngwr yn eu helpu i ddod i gytundeb heb gymryd ochr.
Os yw Gwasanaethau Cymdeithasol yn teimlo y byddai er budd y plentyn, neu ei bod yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y plentyn, gall ofyn i'r llysoedd gyflwyno un o'r canlynol:
Gorchmynion gofal
Mae gorchymyn gofal yn rhoi plentyn dan ofal awdurdod lleol, oherwydd bod y plentyn yn dioddef neu y gallai gael ei niweidio. Yna, bydd awdurdod lleol yn rhannu cyfrifoldeb rhiant am y plentyn gyda'r rhieni.
Gorchmynion goruchwylio
Caiff y gorchmynion hyn eu gwneud ar yr un sail â gorchmynion gofal - bod y plentyn yn dioddef neu ei fod yn debygol o gael ei niweidio. Y rhieni sydd â chyfrifoldeb rhiant o hyd, ond caiff y plentyn oruchwylydd sy'n cadw llygad barcud ar ei les.
Gorchmynion amddiffyn brys
Os ystyrir bod plentyn mewn perygl o gael ei niweidio yn ei gartref presennol, gall y llys gyflwyno gorchymyn amddiffyn brys. Bydd hyn yn symud plentyn o'r lle hwnnw i ofal yr awdurdod lleol.
Gorchmynion llety diogel
Os ystyrir y gallai plentyn niweidio ei hun neu eraill, gall y llys gyflwyno gorchymyn llety diogel. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei osod mewn llety a'i atal rhag gadael. Caiff gorchmynion llety diogel hefyd eu cyhoeddi os oes gan y plentyn hanes o redeg i ffwrdd, a'i fod yn debygol o wneud yr un peth eto.
Pan fydd unrhyw un o'r gorchmynion uchod yn cael eu cyflwyno, bydd ymarferwr Cafcass (y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) yn bresennol. Bydd yn rhoi cyngor i'r llys fel bod unrhyw benderfyniadau a wneir er budd y plentyn.
Mae mabwysiadu'n weithred gyfreithlon sy'n trosglwyddo cyfrifoldeb rhiant dros blentyn o un teulu i'r llall yn barhaol. Mae llysoedd teulu yn delio â phob cais i fabwysiadu, gan gynnwys ar gyfer mabwysiadu llysblentyn.