Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Twrneiod a'r llysoedd

Mae cael cyngor cyfreithiol bob amser yn ffordd dda o weithredu os byddwch yn cael ysgariad. Ond efallai y gallwch ddatrys llawer o’r anghydfodau drwy’r gwasanaeth cyfryngu teuluol.

Cyswllt a phreswylio

Pan fydd rhieni’n gwahanu, yn ysgaru neu’n gwneud hawliad i ddod â’u partneriaeth sifil i ben, mae’n rhaid penderfynu ar drefniadau ar gyfer y plant. Os na all y rhieni gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant (megis ble bydd y plant yn byw), gallant wneud hawliad i’r llysoedd teulu.

Bydd y llysoedd yn gwneud penderfyniad ac yn gwneud Gorchymyn Cyswllt neu Orchymyn Preswylio a fydd yn pennu hawliau ymweld a ble bydd y plant yn byw.

Gall achosion llys fod yn hir, yn ddrud ac yn anodd iawn i’r teulu cyfan. Yn hytrach na dilyn y broses hon, mae llawer o rieni yn gweld bod gwasanaeth cyfryngu teuluol yn opsiwn gwell. Dull o ddatrys anghydfodau ar ôl i’ch perthynas chwalu yw cyfryngu teuluol, heb y twrneiod na’r llysoedd.

Mewn proses gyfryngu, mae aelodau’r teulu yn egluro’u pryderon a’u hanghenion i’r naill a’r llall yng ngwŷdd cyfryngwr. Mae’r cyfryngwr yn eu helpu i ddod i gytundeb heb gymryd ochr neb.

Twrnai

Gallwch ofyn i'ch twrnai negodi â'ch partner ar eich rhan, naill ai'n uniongyrchol neu drwy dwrnai eich partner. Efallai y bydd eich twrnai'n awgrymu i chi geisio defnyddio gwasanaeth cyfryngu er mwyn setlo mater penodol rhyngoch.

Mae rhestr o dwrneiod y gallech gysylltu â hwy ar gael ar y we ac yn eich llyfr ffôn lleol.

Llysoedd

Gallwch hefyd wneud cais i'r llys ddatrys eich anghydfod drosoch. Fodd bynnag, bydd y llys hefyd yn eich annog i ddod i gytundeb eich hunain os bydd hynny'n bosib. Os na fyddwch wedi gwneud hynny'n barod, efallai y bydd y llys yn awgrymu i chi roi cynnig ar ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU