Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Dull o ddatrys anghydfodau wedi i’ch perthynas chwalu yw cyfryngu teuluol, heb y twrneiod neu’r llysoedd. Yma cewch wybod mwy am sut mae cyfryngu’n gweithio, sut y gall eich helpu chi a sut i ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu.
Mae cyfryngu’n ffordd well o ddatrys anghydfodau o fewn teulu yn hytrach na mynd i’r llys. Gall achosion llys fod yn hir, yn ddrud ac yn anodd iawn. Gall cyfryngu hefyd wella’r cyfathrebu rhwng aelodau’r teulu a lleihau gwrthdaro.
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu yn eich ardal drwy ffonio'r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd ar 0845 60 26 627.
Mewn proses gyfryngu, mae aelodau’r teulu yn egluro’u pryderon a’u hanghenion i’r naill a’r llall ym mhresenoldeb cyfryngwr. Mae’r cyfryngwr yn eu helpu i ddod i gytundeb heb gymryd ochr neb.
Mae’r holl wybodaeth a ddatgelir yn ystod y broses gyfryngu yn breifat, oni bai fod lles plentyn dan fygythiad. Yn yr achosion hyn, gellir anfon yr wybodaeth ymlaen at yr awdurdodau er mwyn amddiffyn y plentyn.
Mae cyfryngwyr teuluol yn dod o ystod eang o gefndiroedd gan gynnwys y gyfraith, gofal iechyd a phroffesiynau eraill sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant. Fe’u hyfforddwyd i weithio gyda phobl y mae eu perthynas wedi chwalu.
Nid yw unrhyw gytundeb a wneir drwy gyfryngu teuluol yn rhwym dan y gyfraith. Os ydych chi’n dymuno gwneud cytundeb yn rhwym dan y gyfraith, dylech wneud cais i’r llys drwy eich twrnai. Yna bydd y llys yn ystyried a ddylid gwneud gorchymyn llys.
Codir tâl fesul sesiwn ac mae’n amrywio yn ôl gwasanaethau cyfryngu unigol. Os ydych chi’n gymwys, fe allech gael Cymorth Cyfreithiol i dalu am eich gwasanaeth cyfryngu. Gallwch ddarganfod a ydych chi’n gymwys trwy ffonio’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345, neu fynd i wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Gallwch gael manylion cyfryngwyr teuluol sy’n lleol i chi drwy ffonio’r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd. Gallwch hefyd gael cyngor cyffredinol am gyfryngu, gan gynnwys cyngor ynghylch a yw eich achos chi’n addas ar gyfer cyfryngu. Ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 60 26 627, neu ewch i’w gwefan.
Mae llyfryn ar gael i roi cyngor i rieni ar faterion o ddydd i ddydd y byddai’n rhaid iddynt ddelio â hwy o bosib yn ystod y broses o ysgaru neu wahanu. Cyhoeddwyd y llyfryn gan Cafcass (y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd), ac mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi plant yn ystod y broses o wahanu. Gallwch lwytho’r llyfryn yma neu archebu copi am ddim ar-lein.
Os oeddech chi’n arfer derbyn credydau treth fel cwpl, ond rydych wedi gwahanu erbyn hyn, nid oes rhaid i chi lenwi ffurflen gais newydd. Gallwch wneud cais newydd fel person sengl dros y ffôn trwy ffonio'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900, neu ffôn testun 0845 300 3909.