Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dod â phartneriaeth sifil i ben

Mae partneriaeth sifil yn rhoi'r hawl i gyplau o'r un rhyw gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u perthynas. Dim ond drwy ddiddymiad, dirymiad neu farwolaeth y gellir dod â phartneriaeth sifil i ben ac mae hon yn weithdrefn a gyflawnir mewn llys-based procedure.

Rhesymau dros gael diddymiad

Ni fydd y llys yn caniatáu i chi gael diddymiad oni fydd y barnwr yn cytuno bod eich partneriaeth sifil wedi dod i ben. Y term cyfreithiol am hyn yw 'chwalu heb obaith o'i hadfer'.

Bydd rhaid i chi fodloni'r llys fod un neu ragor o'r canlynol yn wir fel tystiolaeth bod eich partneriaeth sifil ar ben:

  • bod eich partner sifil yn ymddwyn yn afresymol
  • bu enciliad am gyfnod o ddwy flynedd a mwy
  • rydych wedi gwahanu ers dwy flynedd, os yw'r ddau ohonoch yn gytun ynghylch y diddymiad
  • rydych wedi gwahanu ers pum mlynedd, os nad yw'r ddau ohonoch yn gytun ynghylch y diddymiad


Os ydych yn teimlo bod y bartneriaeth sifil wedi 'chwalu heb obaith o'i hadfer' yna bydd angen cwblhau deiseb.

Cael deiseb

Ni chewch ddechrau achos diddymiad oni fyddwch wedi bod mewn partneriaeth sifil am flwyddyn. Bydd yn rhaid i chi egluro pam eich bod am gael diddymiad ar y ffurflen ddeiseb.

Y prif gyfnodau wrth gael diddymiad

Unwaith y byddwch yn dychwelyd eich deiseb at lys sirol sy’n ymdrin ag achosion partneriaeth sifil byddwch wedi dechrau ar eich proses ddiddymu. Chi fydd 'y deisebydd' a'ch partner sifil yw'r 'atebydd'.

Gellir gofyn i chi ddarparu copïau o'ch tystysgrif partneriaeth sifil, manylion am unrhyw blant cysylltiedig a hefyd enw a chyfeiriad unrhyw berson arall a enwir yn yr achos diddymiad.

Bydd y llysoedd yn anfon copi o'r ddeiseb at eich partner sifil. Dywedir bod rhywun yn 'cyflwyno'r ddeiseb' wrth wneud hyn. Wedi hyn bydd gan eich partner sifil wyth niwrnod i gydnabod eu bod wedi derbyn y ddeiseb. Os na wnânt hyn, bydd y llys yn cysylltu â chi ac yn gofyn am ragor o fanylion ac, os oes angen, yn trefnu i swyddog llys - a elwir yn feili - gyflwyno'r ddeiseb yn bersonol.

Ar ôl cyflwyno deiseb

Ar ôl cyflwyno'r ddeiseb, mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu a wnaiff eich partner sifil gytuno ynteu herio'r diddymiad. Efallai bydd y llys yn gofyn i chi ddarparu mwy o wybodaeth. Os oes gennych blant bydd rhaid i'r llys edrych ar y trefniadau a wnaethpwyd ar gyfer y plant (e.e. â phwy y byddant yn byw, lle byddant yn byw, pa gysylltiad fydd ganddynt â'r rhiant na fydd yn byw gyda hwy) a chytuno â hwy cyn caniatau'r diddymiad.

Gorchymyn Amodol

Gelwir rhan bwysig o'r broses ddiddymu yn 'Orchymyn Amodol'. Dyma'r cam cyntaf o'r diddymiad ei hun. Dim ond pan fydd y barnwr wedi adolygu'r holl bapurau ac yn fodlon bod sail gadarn ar gyfer diddymiad y caniateir hyn. Efallai y bydd gofyn i chi fynd i'r llys, ond mae llawer o ddiddymiadau'n digwydd yn gyfan gwbl trwy'r post.

Gorchymyn Terfynol

Gelwir rhan olaf diddymiad yn 'Orchymyn Terfynol'. Cewch wneud cais am Orchymyn Terfynol chwe wythnos a diwrnod ar ôl y Gorchymyn Amodol. Os na fyddwch chi'n gwneud cais am y Gorchymyn Terfynol, yna gall eich partner sifil, fel yr atebydd, wneud cais amdano, ond dim ond ar ôl i dri mis arall fynd heibio.

Pan fyddwch yn cael y Gorchymyn Terfynol, nid ydych mewn partneriaeth sifil mwyach ac mae gennych yr hawl i fynd i bartneriaeth sifil arall.

Cael help gyda’r broses

Os yw eich partneriaeth sifil yn dod i ben, bydd angen rhywfaint o gymorth arnoch fwy na thebyg gyda'r manylion cyfreithiol. Gall cyfreithwyr, cyfryngwyr proffesiynol a hyd yn oed y Swyddfa Cyngor ar Bopeth wneud y broses yn haws i chi.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU