Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi am geisio achub eich perthynas, mae help ar gael. Fodd bynnag, os ydych chi’n bendant bod y berthynas wedi dod i ben, mae sawl ffordd y gallwch chi helpu i wneud y broses mor ddi-boen â phosib i'ch plant.
Gall cwnselydd eich helpu i drafod eich problemau a bydd yn helpu cyplau sy'n awyddus i achub eu perthynas. Mae cwnselwyr wedi cael eu hyfforddi i wrando ac i'ch helpu i ddod o hyd i'ch atebion eich hunain i broblemau yn eich perthynas.
Os ydych chi’n bendant bod eich perthynas wedi dod i ben, gall cwnsela helpu'r teulu i ymdopi â’r hyn sy’n digwydd. Gallai hefyd arwain at well trafodaethau rhwng y teulu a gwell perthynas rhwng pobl yn y tymor hir ar ôl i'r berthynas ddod i ben.
Pan fydd perthynas yn chwalu, gall hwn fod yn gyfnod emosiynol iawn i blant, felly ceisiwch gadw’r canlynol mewn cof:
Mae'n bwysig i chi roi gwybod i'ch plant beth sy'n digwydd yn ystod pob cam o’r broses ysgaru neu wahanu. Nid ydych yn eu gwarchod drwy gadw pethau oddi wrthynt.
Dywedwch wrth eich plant beth sy’n digwydd. Does dim angen iddynt wybod pob manylyn, ond mae angen iddynt wybod beth sy’n digwydd. Efallai na fyddant yn dymuno bod yn rhan o benderfyniadau, ond bydd y mwyafrif o blant eisiau teimlo eich bod yn gwrando arnynt.
Anogwch eich plant i ofyn cwestiynau a rhowch atebion gonest a chalonogol iddynt, ond peidiwch ag addo pethau na allwch gadw atynt. Os nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch rhywbeth, dywedwch hynny, a’u sicrhau y byddwch yn dweud wrthynt cyn gynted â phosibl.
Gall y broses ysgaru fod yn llawer haws i bawb os gallwch osgoi cynnwys y llysoedd. Felly yn hytrach na mynd i’r llys, gallwch lenwi ffurflen ‘Datganiad trefniadau ar gyfer y plant’, a elwir hefyd yn Ffurflen D8A. Derbynnir y ffurflen ar yr amod:
Os ceir anghytundeb ynghylch unrhyw un o’r pethau hyn, efallai y bydd yn rhaid i farnwr benderfynu. Ni fydd y barnwr yn caniatáu i chi gael ysgariad os nad yw'n teimlo bod y trefniadau ar gyfer y plant yn dderbyniol.
Bydd cyplau dibriod sy’n gwahanu yn aml yn cytuno ar drefniadau ar gyfer y plant ymlaen llaw, felly does dim angen cynnwys y llysoedd. Ond os ceir anghydfod ynghylch cystodaeth neu gyswllt, gellir gwneud cais i’r llys drwy lenwi ffurflen C100.
Fel rheol, mae’n well i bawb ac yn achosi llai o straen os gallwch chi ddod i gytundeb am faterion megis gofal eich plant heb gynnwys y llysoedd. Mae cyfryngu i deuluoedd yn ffordd dda o gyflawni hyn, drwy eich helpu i ddod o hyd i atebion mewn ffyrdd sy'n osgoi gwrthdaro.