Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) yn gofalu am les plant sy'n destun achosion llys teulu. Mae swyddogion Cafcass yn annibynnol, gyda chymwysterau mewn gwaith cymdeithasol a phrofiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd. Rhestrir y rolau a gyflawnir gan swyddogion Cafcass isod.
Mae Gwarcheidwaid Plant yn cynrychioli hawliau a buddiannau plentyn yn ystod achosion sy'n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol (achosion cyfraith gyhoeddus) neu achosion o herio penderfyniadau ar fabwysiadu.
Yn benodol, gallant wneud y canlynol:
I wneud eu gwaith, mae Gwarcheidwaid Plant yn treulio amser yn dod i adnabod y plant ac aelodau eu teulu.
Mae Swyddogion Adrodd Plant a Theuluoedd yn helpu teuluoedd i gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant. Fel arfer, byddant yn cwrdd â'r rhieni neu oedolion i weld a ellir cytuno ar faterion heb orfod mynd i'r llys (a elwir yn gyfryngu).
Os na ellir dod i gytundeb, bydd y swyddog adrodd plant a theuluoedd yn llunio adroddiad i'r llys. Bydd yr adroddiad hwn yn egluro pa ymholiadau a wnaed, a beth sydd orau i'r plentyn ym marn y swyddog. Yn gyffredinol, yn yr achosion hyn, swyddogion Cafcass yw unig gynrychiolwyr buddiannau'r plentyn ac maent yn ffynhonnell o wybodaeth annibynnol i'r llys.
Nid oes gwasanaeth cyfryngu ar gael ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus neu fabwysiadu.
Mae rôl Swyddog Mabwysiadu Cafcass yn dibynnu ar ba un a yw'r rhieni yn cytuno i fabwysiadu. Os yw'r rhieni'n cytuno, bydd y swyddog yn sicrhau bod rhieni'n deall beth y bydd mabwysiadu yn ei olygu iddynt ac yn ysgrifennu adroddiad byr ar gyfer y llys.
Os nad yw rhiant yn cytuno, neu os oes amgylchiadau arbennig, bydd Gwarcheidwad Plentyn yn cynnal archwiliad manwl ac yn ysgrifennu adroddiad i roi gwybod i'r llys a fyddai mabwysiadu er budd y plentyn ym marn y gwarcheidwad.
Mae Cafcass yn cyhoeddi pecynnau i helpu plant a phobl ifanc i ddeall y broses gyfreithiol. Gellir eu lawrlwytho o'r dolenni isod.