Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael ysgariad

Mae'r broses ysgaru yn dechrau gyda ffurflen 'deiseb ysgar', a elwir hefyd yn Ffurflen D8. Bydd angen i chi lenwi tri chopi; un i chi, un ar gyfer y llys ac un ar gyfer eich gŵr neu'ch gwraig.

Dechrau’r broses ysgaru

Ar ôl i chi lenwi deiseb, dylech ei hanfon i lys sirol ysgariad neu i Brif Gofrestrfa'r Adran Deulu yn Llundain – gallwch gael deiseb gan dwrnai, gan rai gwerthwyr dogfennau cyfreithiol neu ar wefan Gwasanaeth Llysoedd EM.

Bydd yn rhaid i chi egluro ar y ffurflen pam mae arnoch eisiau ysgariad. Chewch chi ddim dechrau achos ysgariad os nad ydych yn briod ers blwyddyn.

Rhesymau dros gael ysgariad

Ni fydd y llys yn caniatáu i chi gael ysgariad oni fydd y barnwr yn cytuno bod eich priodas wedi dod i ben. Y term cyfreithiol am hyn yw 'chwalu heb obaith o'i hadfer'.

Bydd yn rhaid i chi fodloni'r llys bod un neu ragor o'r canlynol yn wir fel tystiolaeth bod eich priodas ar ben:

  • mae'r gŵr neu'r wraig wedi godinebu
  • ymddygiad afresymol gan eich gŵr neu eich gwraig (unrhyw ymddygiad sy’n golygu ei bod yn amhosib i chi fyw gyda nhw)
  • un cymar wedi gadael ers dwy flynedd o leiaf
  • rydych wedi gwahanu ers dwy flynedd, os yw'r ddau ohonoch yn gytun ynghylch yr ysgariad
  • rydych wedi gwahanu ers pum mlynedd, os nad yw'r ddau ohonoch yn gytun ynghylch yr ysgariad

Y prif gyfnodau wrth ysgaru

Ar ôl i chi ddychwelyd eich deiseb at lys sirol ysgariad, byddwch wedi dechrau ar y broses ysgaru. O hyn ymlaen, chi yw'r 'deisebydd' yn ôl y gyfraith. Gelwir y gŵr neu'r wraig y byddwch yn ei ysgaru yn 'atebydd' yn ôl y gyfraith.

Bydd angen i chi ddarparu copïau o'ch tystysgrif priodas, manylion unrhyw blant sy'n rhan o'r ysgariad yn ogystal ag enw a chyfeiriad unrhyw unigolyn y mae'ch gŵr neu'ch gwraig wedi godinebu â hwy os ydych yn dymuno enwi'r unigolyn hwnnw yn yr achos ysgariad fel rheswm dros yr ysgariad. Gelwir yr unigolyn hwn yn 'gyd-atebydd'.

Cyflwyno’r ddeiseb

Yn dilyn hynny, bydd y llysoedd yn postio copi o'r ddeiseb at eich gŵr neu'ch gwraig ac at unrhyw gyd-atebyddion a enwyd yn eich deiseb ysgar. 'Cyflwyno'r ddeiseb' yw'r enw ar hyn. Wedi hyn bydd gan eich gŵr neu'ch gwraig wyth niwrnod i gydnabod eu bod wedi cael y ddeiseb. Os na wnânt hyn, bydd y llys yn cysylltu â chi ac yn gofyn am ragor o fanylion ac, os bydd angen, bydd yn trefnu i swyddog llys - a elwir yn feili - gyflwyno'r ddeiseb yn bersonol.

Ar ôl cyflwyno'r ddeiseb, mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar a fydd y gŵr neu'r wraig yn cytuno i'r ysgariad ynteu'n ei herio. Efallai y bydd y llys yn gofyn i chi ddarparu mwy o wybodaeth. Os oes gennych blant, bydd yn rhaid i'r llys archwilio'r trefniadau a wnaethpwyd ar gyfer y plant (e.e. gyda phwy y byddant yn byw, lle byddant yn byw, pa gysylltiad fydd ganddynt â'r rhiant na fydd yn byw gyda hwy) a chytuno arnynt cyn caniatáu'r ysgariad.

Dyfarniad Nisi

Gelwir rhan nesaf y broses ysgaru yn 'Ddyfarniad Nisi'. Dyma gam cyntaf yr ysgariad ei hun. Dim ond pan fydd y barnwr wedi adolygu'r holl bapurau ac yn fodlon bod sail gadarn ar gyfer ysgariad y caniateir hyn. Bydd y barnwr hefyd yn sicrhau y cytunir ar yr holl faterion ariannol a'r trefniadau ar gyfer y plant, neu eu bod yn y broses o gael eu datrys. Efallai y bydd gofyn i chi fynd i'r llys, ond mae amryw o ysgariadau yn digwydd yn gyfan gwbl drwy'r post.

Dyfarniad Absoliwt

Gelwir rhan olaf ysgariad yn 'Ddyfarniad Absoliwt'. Cewch wneud cais am Ddyfarniad Absoliwt chwe wythnos a diwrnod ar ôl y Dyfarniad Nisi. Os na fyddwch chi'n gwneud cais am Ddyfarniad Absoliwt, yna gall eich gŵr neu'ch gwraig, fel yr atebydd, wneud cais amdano, ond dim ond ar ôl i dri mis arall fynd heibio. Pan gewch y Dyfarniad Absoliwt, ni fyddwch yn briod mwyach a bydd gennych hawl i ail-briodi.

Dim ond pan fydd y barnwr yn cytuno bod yr holl drefniadau ar gyfer y plant yn foddhaol y bydd y llys yn pennu Dyfarniad Absoliwt. Caiff barnwr wneud gorchymyn ariannol terfynol cyn i'r Dyfarniad Absoliwt gael ei ganiatáu, ond ni fydd y gorchymyn yn dod i rym nes bydd y dyfarniad wedi'i wneud yn absoliwt.

Cael help gyda’r broses

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio twrnai; mae nifer o barau yn ysgaru hebddynt. Ond mae'n bosib y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch:

  • os nad ydych yn siŵr a oes gennych sail i gael ysgariad ai peidio
  • os nad yw eich gŵr neu'ch gwraig yn cytuno i gael ysgariad
  • os oes gennych blant

Gall y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflenni angenrheidiol, a'ch helpu i ddod o hyd i dwrnai, os oes angen un arnoch. Fel arall, gallwch gael cymorth ar-lein gyda’r proses ysgaru ar wefan Wikivorce.

Efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch ar faterion ariannol hefyd, hyd yn oed os byddwch yn cytuno sut i rannu eich eiddo a'ch arian. Gelwir y broses o gael trefn ar ochr ariannol yr ysgariad yn 'llareiddiad ategol'. Ni fydd eiddo'n cael ei rannu'n awtomatig mewn rhaniad 50/50 bob tro. Os byddwch yn mynd i lys bydd y barnwr yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu pwy ddylai gael beth, ond anghenion unrhyw blant fydd y brif ystyriaeth bob amser.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU