Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trais domestig

Os ydych chi’n ystyried gadael perthynas dreisgar a’ch bod yn poeni am eich diogelwch chi neu am ddiogelwch eich plant, does dim rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun. Mae yna bobl all eich helpu, a gallwch gymryd camau i gadw’n ddiogel.

Beth i'w wneud os ydych chi’n dioddef trais domestig

Mae mwy i drais domestig na chael eich bwrw gan eich partner. Gall y trais fod yn gorfforol, yn rhywiol neu’n eiriol.

Gall trais domestig hefyd gynnwys nifer o bethau, megis torri ymddiriedaeth yn gyson, gemau seicolegol, harasio a rheolaeth ariannol.

Gall effeithio ar oedolion ymhob math o berthynas a gall hefyd gynnwys trais rhwng rhieni a phlant.

Os ydych mewn perthynas dreisgar, mae tri cham pwysig y mae’n rhaid i chi eu cymryd:

  • cydnabod ei fod yn digwydd i chi
  • derbyn nad arnoch chi y mae'r bai
  • ceisio cymorth a chefnogaeth

Ceisio cymorth

Efallai mai dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Caiff trais domestig ei ystyried yn ddifrifol iawn gan yr heddlu, ac fe wnânt weithredu er mwyn eich diogelu.

Os nad yw’n argyfwng, gallech gysylltu â'ch gorsaf heddlu leol a thrafod eich sefyllfa gyda nhw. Gallwch hefyd gysylltu â mudiadau annibynnol megis Cymorth i Ddioddefwyr i ofyn am gymorth a chyngor.

Bydd yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn defnyddio tact a gofal er mwyn eich diogelu, ac er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth angenrheidiol. Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â mudiadau gwirfoddol sy’n darparu llety mewn lloches lle byddwch yn ddiogel.

Cyngor a chefnogaeth

Gallwch gysylltu â nifer o bobl a mudiadau os ydych yn dioddef trais domestig. Gall eich meddyg teulu, er enghraifft, eich cyfeirio at grwpiau sy’n gweithio gyda dioddefwyr trais. Gallant eich cyfeirio at elusennau a grwpiau cefnogi lleol sy’n helpu dioddefwyr a’u plant i ddianc rhag y cylch trais.

Os nad ydych chi am ei drafod â’ch meddyg teulu, gallwch chi ffonio un o’r llinellau cymorth a restrir isod.

Gallant sicrhau eich bod yn dod o hyd i lety brys mewn lloches sy’n ddiogel, yn ogystal â’ch rhoi mewn cysylltiad â phobl y gallant sicrhau eich bod wedi eich diogelu’n dda. Does dim rhaid i chi roi gwybod eich enw iddynt.

Mae'r llinellau cymorth yn cynnwys:

  • Llinell gymorth genedlaethol trais domestig Lloegr: 0808 2000 247
  • Llinell gymorth trais domestig 24 awr Cymorth i Fenywod Gogledd Iwerddon: 0800 917 1414
  • Llinell gymorth trais domestig yr Alban: 0800 027 1234
  • Llinell gymorth trais domestig Cymru: 0808 80 10 800
  • Llinell gyngor ac ymholiadau i ddynion: 0808 801 0327

Hawliau dioddefwyr trais domestig

Plant a'ch hawliau

Gall y sawl sy'n eich cam-drin fygwth y bydd eich plentyn yn cael ei gymryd oddi arnoch os byddwch yn gadael neu'n dweud wrth rywun beth sy’n digwydd. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod na fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cymryd eich plentyn oddi arnoch am y rheswm hwn.

Os oes arnoch ofn y bydd eich partner yn cipio eich plant, ceisiwch gyngor cyn gynted ag sy’n bosibl. Gall eich Lloches, Canolfan y Gyfraith, Canolfan Cyngor Ar Bopeth, grŵp Cymorth i Fenywod lleol neu dwrnai roi cyngor i chi am sut i amddiffyn eich plentyn. Byddant yn esbonio sut y gellir cyfyngu ar gyswllt rhwng eich plentyn a phartner treisgar.

Bydd y grwpiau hyn yn esbonio y cewch, o dan y Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, wneud cais am orchymyn a fydd yn eich diogelu rhag bygythiadau a thrais (gelwir hwn yn ‘orchymyn peidio â molestu’).

Eich cartref a'ch hawliau

Gallwch wneud cais am orchymyn a fydd yn diogelu eich hawl i fyw yn ddiogel yn eich cartref teuluol (gelwir hwn yn ‘orchymyn preswylio’). Os caiff ei ganiatáu, byddai’n gorchymyn i’r sawl sy'n dreisgar tuag atoch symud o’r tŷ, ac yn ei wahardd rhag dod i mewn i’r tŷ.

Os ydych chi yn y sefyllfa hon, cysylltwch ag un o’r grwpiau cyngor

Os ydych chi’n berson ifanc mewn perthynas dreisgar, cewch wybod mwy yn yr adran pobl ifanc.

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU