Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trais yn y cartref

Mae unrhyw un yn gallu wynebu ymddygiad treisgar yn eu cartref, yn ddyn neu'n fenyw, waeth beth y bo'u hoed na'u sefyllfa yn y teulu. Os ydych chi'n dioddef fel hyn neu'n poeni am rywun arall, dylech wybod ble i fynd i gael help.

Beth yw trais yn y cartref?

Mae trais yn y cartref yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad o ymddygiad treisgar o fewn teulu neu berthynas. Mae'n cynnwys un aelod o'r teulu'n cam-drin un arall neu gam-drin rhwng dau berson mewn perthynas.

Ffurf arall ar drais yn y cartref yw cam-drin plant. Digwydd hyn pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei niweidio, ei esgeuluso neu ei fwlio gan oedolyn hŷn. Nid dim ond brifo rhywun yn gorfforol yw cam-drin plentyn.

Os ydy rhywun yn rhegi arnoch chi o hyd neu'n dweud wrthych nad oes ar neb eich eisiau chi, mae hyn hefyd yn gallu bod yn gam-drin emosiynol.

Os ydych chi'n cael eich brifo

Os oes rhiant, gofalwr, perthynas hwn neu rywun rydych chi mewn perthynas â nhw wedi gwneud niwed corfforol neu feddyliol i chi, dylech gofio nad oes bai arnoch chi. Bydd llawer o bobl sy'n dioddef o drais yn y cartref yn credu eu bod nhw wedi creu neu wedi achosi'r problemau a arweiniodd at y trais.

Nid yw hyn yn wir. Yr unig berson sydd ar fai yw'r un sy'n ymddwyn yn dreisgar.

Dylech ffonio'r heddlu os ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus. Maen nhw'n ystyried troseddau fel hyn yn ddifrifol iawn a byddan nhw'n gallu gweithredu'n gyflym. Os nad ydych chi am ffonio'r heddlu, mynnwch sgwrs â ffrind neu athro/athrawes y gallwch ymddiried ynddyn nhw am eich teimladau.

Os ydych chi'n gwybod bod rhywun arall yn cael ei frifo

Os ydych chi'n poeni bod un o'ch ffrindiau, eich rhieni neu'ch gofalwyr yn dioddef trais yn eu cartref eu hunain, dywedwch wrthyn nhw am eich pryderon. Y peth gorau yw eu helpu nhw i sgwrsio am y sefyllfa a rhoi cymorth iddyn nhw os byddan nhw'n penderfynu riportio'r peth eu hunain.

Sefydliadau sy'n gallu cynnig mwy o wybodaeth

Os byddwch chi'n dioddef trais yn y cartref, neu os ydych chi'n poeni y gall rhywun rydych chi'n ei 'nabod fod yn dioddef, mae nifer o sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw i gael cyngor i'ch helpu.

Childline

Os ydych chi'n dioddef trais yn y cartref a'ch bod yn poeni am beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n ei riportio i'r heddlu, dylech ffonio Childline ar 0800 1111. Byddan nhw'n gallu rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd os dywedwch chi wrth rywun am eich sefyllfa a'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf. Mae Childline ar agor 24 awr y dydd a saith niwrnod yr wythnos.

Mae galwadau i Childline am ddim a fyddan nhw byth yn ymddangos ar eich bil ffôn. Hefyd, mae'n bosib y gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan.

NSPCC

Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) linell gymorth sy'n rhoi cyngor cyfrinachol i bobl sy'n poeni am achosion posib o gam-drin plant. Ni all yr NSPCC ymchwilio i achosion posib o gam-drin plant, ond byddan nhw'n gallu riportio eich pryderon i’r heddlu neu i’ch tîm gwasanaethau plant lleol. Y rhif yw 0808 800 5000 ac mae ar agor 24 awr y dydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU