Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mygio ac ymosod

Bydd y rhan fwyaf o achosion o fygio'n digwydd ar y stryd neu ar gludiant cyhoeddus a gan amlaf, byddan nhw'n digwydd gyda'r nos. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio beth y dylech chi ei wneud os byddwch chi mewn sefyllfa fel hyn.

Cael eich mygio

Bydd pobl ifanc yn aml yn cael ei mygio oherwydd eu bod yn cario llawer o bethau drud arnyn nhw megis ffonau symudol a chwaraewyr MP3. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fod yn cario arian parod yn eu waledi yn hytrach na chardiau credyd a debyd ac mae'n haws defnydido arian parod i brynu nwyddau.

Bydd mygwyr yn aml yn defnyddio grym corfforol i'ch gorfodi i roi eich eiddo gwerthfawr iddyn nhw ac maen bosib y byddan nhw'n cario arfau hefyd megis cyllyll. Os bydd mygiwr yn eich bygwth, y peth gorau yw rhoi eich pethau iddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw'n eich bygwth â chyllell.

Cofiwch y gallwch chi wastad prynu eiddo newydd neu ganslo'ch cardiau os cân nhw'u dwyn, felly peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl o gael anaf difrifol dim ond i gadw gafael ar eich stwff.

Ymosodiad

Os bydd rhywun wedi'ch dyrnu neu'ch bod wedi cael eich bygwth â thrais gan unrhyw un, yna, bydd hyn yn cael ei ystyried yn ymosodiad, hyd yn oed os nad ydych wedi'ch anafu'n ddifrifol.

Gall ymosodiadau ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd ac fe all unrhyw un gyflawni trosedd o'r fath. Fe allech fod yn cerdded i lawr y stryd, yn yr ysgol neu'r coleg neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun. Mae'n bosib hefyd i rywun sy'n eich nabod, yn ogystal â dieithriaid, ymosod arnoch chi.

Bydd pobl a geir yn euog o ymosodiad yn wynebu cosbau difrifol ac mae'n bosib y bydd rhaid iddyn nhw dreulio amser mewn Sefydliad i Droseddwyr Ifanc neu yn y carchar. Os gwelir bod yr ymosodiad yn un hiliol neu homoffobig neu os ymosodwyd ar rywun oherwydd eu cred grefyddol, bydd y ddedfryd yn fwy difrifol.

Slapio hapus

Math arall o ymosod y gallech chi fod wedi clywed amdano yw slapio hapus. Mae hyn yn digwydd pan fydd gan o bobl yn ymosod ar rywun neu'n dyrnu rhywun tra bo rhywun arall yn ffilmio'r ymosodiad ar eu ffôn symudol. Mae pobl sy'n dioddef ymosodiad fel hyn yn aml yn gorfod mynd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad slapio hapus neu os ydych chi wedi bod yn dyst i ymosodiad ar rywun arall, dylech roi gwybod i'r heddlu cyn gynted ag y bo modd.

Beth i'w wneud os bydd rhywun wedi ymosod arnoch

Mae'n bosib eich bod yn bryderus neu mewn panig os bydd rhywun wedi ymosod arnoch chi. Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cael meddyg i edrych ar unrhyw anafiadau gawsoch chi. Yna, canslwch unrhyw gardiau neu ffonau symudol fel na all neb arall eu defnyddio.

Dylech hefyd ddweud wrth yr heddlu am yr ymosodiad. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael eich brifo'n ddifrifol, neu os llwyddoch chi i ddianc rhag eich ymosodwr heb i ddim gael ei ddwyn, gall yr heddlu ddefnyddio'r wybodaeth rowch chi iddyn nhw i'w atal rhag digwydd i neb arall.

Mae'n bosib hefyd y byddwch chi am siarad â rhywun am eich teimladau. Elusen annibynnol ydy Cymorth i Ddioddefwyr sy'n helpu pobl i ddelio ag effeithiau troseddu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU