Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw rhywun wedi troseddu yn eich erbyn a chithau'n meddwl i chi gael eich targedu oherwydd eich rhywioldeb, neu oherwydd rhywioldeb rhywun rydych chi'n ei 'nabod, dylech gael gwybod sut y bydd yr heddlu'n eich helpu pan fyddwch chi'n riportio'r digwyddiad.
Os bydd rhywun yn dioddef trosedd oherwydd eu rhywioldeb, yna ystyrir y trosedd hwnnw'n un lle bo homoffobia'n brif gymhelliant.
Gall trosedd casineb homoffobig ddigwydd yn rhywle ac yn aml iawn, bydd wedi'i seilio ar ragfarn a steroteipiau. Bydd yr heddlu'n ystyried unrhyw drosedd homoffobig yn ddifrifol iawn. Bydd y dedfrydau ar gyfer troseddau y profir fod iddynt gymhelliant homoffobig yn llymach a bydd unrhyw drosedd homoffobig a riportir yn cael ei drin yr un mor ddifrifol â throseddau casineb hiliol.
Gall troseddau homoffobig effeithio ar ddioddefwyr mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae'n bosib y gallai rhywun ddioddef ymosodiad neu ladrad oherwydd nad yw'r ymosodwr yn hoffi pobl y maen nhw'n eu hystyried yn wahanol iddyn nhw'u hunain.
Mae'n bosib y bydd pobl yn peintio graffiti a sloganau homoffobig ar dai rhywun neu ar eu heiddo am eu bod yn amau bod y sawl sy'n byw yno'n hoyw.
Os yw rhywun wedi troseddu yn eich erbyn neu os ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd a chithau'n meddwl y gall fod cymhelliant homoffobig iddo, dylech grybwyll hyn wrth yr heddlu pan fyddwch chi'n rhoi eich datganiad.
Fe all pobl sy'n dioddef troseddau homoffobig fod yn gyndyn o riportio'r digwyddiad i'r heddlu oherwydd nad ydyn nhw'n gyfforddus yn siarad am eu rhywioldeb gyda phobl nad ydyn nhw'n eu 'nabod. Efallai eu bod yn teimlo na fydd neb yn gwrando arnyn nhw neu'n eu cymryd o ddifri.
Mae gan y rhan fwyaf o heddluoedd uned arbennig sy'n delio â throseddau homoffobig. Bydd swyddogion yn yr unedau hyn wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddelio ag agweddau ar homoffobia. Petaech chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad â rhywun fel hyn, gofynnwch am gael siarad â nhw pan fyddwch chi'n cysylltu â gorsaf yr heddlu.
Os ydych chi'n dal i fod yn yr ysgol, mae'n bosib y cewch chi'n bwlio oherwydd bod pobl eraill yn meddwl eich bod yn hoyw. Er nad yw hyn yn drosedd y gallwch chi ei riportio i'r heddlu, mae cael eich bwlio'n dal i fod yn brofiad annymunol iawn a ddylech chi mo'i oddef.
Nid dim ond yn yr ysgol y bydd bwlio'n digwydd. Mae'n bosib bod pobl yn eich harasio, yn eich erlyn neu'n pigo arnoch yn y gwaith oherwydd bod eich cydweithwyr yn meddwl eich bod yn hoyw.
Os ydych chi yn y gwaith neu yn yr ysgol, dylech roi gwybod i athro/athrawes neu un o'r rheolwyr os ydych chi'n cael eich bwlio er mwyn iddyn nhw wneud rhywbeth yn ei gylch.