Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gall rhai mathau o ymddygiad wneud drwg i'r ffordd y mae ardal yn edrych ac effeithio ar fywydau'r bobl sy'n byw yno. Os ydych chi'n dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch gael gwybod sut mae'r gyfraith yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

Beth ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r term cyffredin a ddefnyddir i ddisgrifio digwyddiadau neu weithredoedd sy'n peri difrod neu sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl mewn cymuned. Gall y rhain gynnwys fandaliaeth, graffiti, bygwth a chymdogion sy'n niwsans. Yn ddiweddar, rhoddwyd pwerau newydd i'r heddlu, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fynd i'r afael â'r broblem hon a gwneud cymdogaethau'n fwy diogel.

Nid bwriad y pwerau hyn yw eich atal chi rhag hel gyda'ch ffrindiau mewn mannau cyhoeddus na rheoli'r math o ddillad y byddwch chi'n eu gwisgo. Fe'u defnyddir i atal ymddygiad sarhaus a bygythiol ac i sicrhau bod eich cymdogaeth chi'n lle diogel i fod.

Contractau ymddygiad derbyniol

Os oes gan yr heddlu neu awdurdod lleol dystiolaeth bod ymddygiad rhywun yn peri problemau i'r gymuned, gallan nhw ofyn i'r person lofnodi contract ymddygiad derbyniol. Gellir rhoi Contractau fel hyn i unrhyw un, waeth faint yw eu hoed.

Contractau ysgrifenedig gwirfoddol yw'r rhain, sy'n golygu nad y llysoedd sy'n eu rhoi ac na fyddant yn ymddangos ar gofnodion troseddol. Maent yn rhestru nifer o bethau na chaiff rhywun eu gwneud rhagor, megis treulio amser mewn mannau penodol gyda phobl benodol.

Drwy lofnodi'r cytundeb, mae'r person yn cytuno i roi'r gorau i'r ymddygiad niweidiol a dilyn unrhyw ofynion eraill yn y contract. Mae'n bosib y bydd rhaid iddynt fynychu'r ysgol neu'r coleg yn fwy rheolaidd neu fynychu sesiynau cwnsela.

Caiff y cytundeb ei lofnodi hefyd gan y sefydliad lleol sy'n dymuno atal yr ymddygiad. Gallai hynny olygu'r heddlu, yr awdurdod lleol neu dîm troseddau'r ifanc. Os yw'r contract gyda rhywun dan 18 oed, bydd eu rhiant neu eu gofalwr yn ei lofnodi hefyd.

Fel arfer, bydd Contractau fel hyn yn para am chwe mis a bydd y sefydliad lleol yn monitro'r unigolyn sydd wedi llofnodi'r contract er mrwyn sicrhau nad yw'r cytundeb yn cael ei dorri. Os bydd rhywun yn torri cytundeb, bydd y sefydliad yn penderfynu pa gamau i'w cymryd. Gallai hyn olygu ymestyn y contract, defnyddio gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO) neu gamau eraill, gan ddibynnu ar sut y torrwyd y contract.

Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs)

Os bydd rhywun wedi cyflawni nifer o droseddau gwrthgymdeithasol, mae'n bosib y rhoddir gorchymyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol (ASBO) iddyn nhw. Gall unrhyw un dros 10 oed gael un.

Gorchmynion llys yw ASBOs. Maen nhw'n gallu atal troseddwr rhag mynd i ardal arbennig neu dreulio amser gyda phobl benodol. Gall nifer o sefydliadau wneud cais am un, gan gynnwys yr heddlu, awdurdod lleol a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Mae ASBOs wedi'u cynllunio i warchod aelodau'r cyhoedd rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hytrach na chosbi'r troseddwr, ac i atal ymddygiad tebyg yn y dyfodol.

Os rhoddir ASBO, bydd fel arfer yn para am ddwy flynedd o leiaf. Fodd bynnag, adolygir y gorchymyn yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu os bydd ymddygiad rhywun yn gwella, yna mae'n bosib y bydd rhai o amodau'r ASBO'n cael eu dileu neu'n cael eu newid.

Os rhoddir ASBO i chi, chewch chi ddim cofnod troseddol oni bai bod llys yn eich cael yn euog o dorri'r gorchymyn.

Torri amodau gorchymyn

Os bydd rhywun yn torri amodau gorchymyn gwrthgymdeithasol, byddan nhw'n cyflawni trosedd. Gellir eu harestio a bydd yr achos yn cael ei wrando yn y llys. Os bydd y llys yn cael y person yn euog, bydd y gosb yn dibynnu ar ei oedran a pha mor ddifrifol oedd y trosedd.

Gellir rhoi cyfnod dan glo, dedfryd gymunedol neu ddirwy i bobl sy'n torri amodau eu ASBO, ac a geir yn euog.

Hysbysiadau gwasgaru

Ffordd arall o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yw defnyddio gorchmynion gwasgaru. Gall prif swyddog yn yr heddlu osod cyfyngiadau ar lefydd lle mae llawer iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Unwaith y bydd ardal yn troi'n barth gwasgaru, bydd gan yr heddlu a swyddogion diogelwch cymunedol y grym i orchymyn grwpiau o bobl i adael ar ôl cyfnod penodol os ydynt yn amau bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd neu'n bosib o ddigwydd, ac fe allan nhw wahardd pobl o'r ardal am hyd at 24 awr.

Gall swyddog hefyd ofyn i unrhyw dan 16 fynd adref ar ôl 9.00pm. Er nad oes modd gorfodi plant dan 16 i fynd adref, mae gwrthod gadael ardal o'r fath yn drosedd.

Go brin y bydd hyn yn effeithio arnoch os ydych yn digwydd mynd drwy ardal wasgaru ar eich ffordd adref, neu os bydd yr heddlu'n teimlo nad ydych chi'n debygol o achosi trafferth.

Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU