Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n poeni am ynau yn eich ardal chi neu'n bryderus am fater pobl ifanc ac arfau'n gyffredinol, mae'r ffeithiau i'w gweld yma.
Gall troseddau gyda gynau gynnwys unrhyw drosedd lle defnyddir gwn neu arf tanio o ryw fath arall. Mae hyn yn cynnwys:
Er bod digwyddiadau gyda gynau ond yn un y cant o gyfanswm y troseddau a gyflawnir bob blwyddyn, mae nifer y troseddau a riportir wedi bod yn tyfu'n raddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae llawer o hyn yn digwydd oherwydd cynnydd yn y defnydd o ynau ffug.
Gwelwyd cynnydd sydyn hefyd yn nifer y bobl ifanc sy'n dweud eu bod yn cario gynau llaw go iawn neu rai ffug gan honni mai er mwyn amddiffyn eu hunain y maent yn gwneud hynny. Nid dim ond y trefi a'r dinasoedd yr effeithir arnynt gan droseddau gynau - mae'n broblem yng nghefn gwlad hefyd.
Er mwyn mynd i'r afael â phroblem troseddau sy'n ymwneud â gynau, mae dedfrydau i bobl a geir yn euog o droseddau'n ymwneud â gwn neu arf tanio arall wedi'u gwneud yn fwy llym o lawer.
Bydd unrhyw un a geir yn euog o fod ag arf dân waharddedig yn eu meddiant yn anghyfreithlon yn wynebu dedfryd o bum mlynedd yn y carchar, fan leiaf. Hefyd, erbyn hyn, rhaid i chi fod yn 17 oed o leiaf cyn y gallwch chi brynu reiffl aer.
Mae cynlluniau ar y gweill i wneud gwerthu gynau ffug realistig yn anghyfreithlon, hyd yn oed os na fyddai byth modd eu troi'n arfau sy'n tanio bwledi go iawn.
Os oes gennych wybodaeth am drosedd gyda gynau yn eich ardal chi, a'ch bod yn nerfus ynghylch mynd at yr heddlu, ffoniwch Taclo'r Taclau ar 0800 555 111. Fydd neb byth yn gofyn i chi am eich enw nac yn ceisio olrhain eich rhif ffôn.
Mae nifer o gynlluniau gwrth-ynau lleol ar gael hefyd dan law'r heddlu a'r cynghorau ac mae'n bosib yr hoffech chi fod yn rhan o hyn. Maen nhw'n trefnu gweithgareddau yn y cymunedau i dynnu sylw at y broblem, a bydd rhai'n cynnal trafodaethau ynghylch sut mae mynd i'r afael â'r broblem.
Os oes gennych ddiddordeb, galwch heibio i'ch swyddfa heddlu agosaf i gael gwybod am grwpiau yn eich ardal. Mae manylion grwpiau lleol fel hyn ar wefan rhaglen Connected y llywodraeth.