Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Troseddau casineb hiliol

Os yw'r heddlu'n cael ar ddeall bod casineb hiliol wedi cymell rhywun i droseddu, byddan nhw'n ystyried y digwyddiad yn un difrifol iawn, a bydd unrhyw ddedfryd yn fwy difrifol na dedfryd ar gyfer trosedd tebyg heb gymhelliant hiliol.

Beth yw trosedd casineb hiliol?

Nid dim ond troseddu yn erbyn rhywun oherwydd lliw eu croen yw trosedd hiliol. Mae hefyd yn cynnwys cenedligrwydd, diwylliant ac iaith.

Bydd unrhyw drosedd casineb hiliol a gaiff ei riportio i'r heddlu'n cael ei drin yn ddifrifol, hyd yn oed petai modd ei ystyried yn fân ddigwyddiad, oherwydd bod troseddau hiliol yn gallu creu ofn o fewn cymunedau.

Mathau o droseddau hiliol

Bydd unrhyw drosedd a gyflawnir yn erbyn rhywun oherwydd eu hil yn cael ei ystyried yn drosedd 'hiliol waethygol' neu'n drosedd 'â chymhelliant hiliol'. Er enghraifft, mae'n bosib bod rhywun wedi cael ei fygwth â thrais neu wedi dioddef ymosodiad oherwydd eu hil.

Does dim rhaid bod rhywun wedi dioddef ymosodiad corfforol neu wedi cael ei anafu i fod wedi dioddef trosedd casineb hiliol. Mae'n bosib eich bod wedi'ch difrïo a chithau'n teimlo bod hynny'n sarhad arnoch; mae hefyd yn anghyfreithlon i neb ddefnyddio bygythiadau ac iaith sarhaus neu ddosbarthu taflenni neu bapurau a allai arwain rhywun arall i gyflawni trosedd yn erbyn rhywun oherwydd eu hil.

Os profir bod prif gymhelliant y troseddwr wedi'i seilio ar ragfarn neu ar eu casineb tuag at hil arall, yna gall y ddedfryd fod yn fwy difrifol nag ar gyfer yr un trosedd heb gymhelliant hiliol.

Riportio trosedd hiliol

Os yw rhywun wedi troseddu yn eich erbyn a chithau'n meddwl i chi gael eich targedu oherwydd eich hil, dylech ei gwneud hi'n glir wrth swyddog yr heddlu pan fyddwch chi'n rhoi eich datganiad.

Dylech hefyd sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei riportio i'ch uned diogelwch cymunedol leol. Mae gan bob heddlu yn y wlad un o'r unedau hyn a'u gwaith yw monitro a chofnodi nifer y troseddau casineb a gyflawnir yn eich ardal. Maent yn gweithio yn y gymuned i frwydro yn erbyn y broblem.

Cyfraith cydraddoldeb hiliol yn y gwaith

Hefyd, ceir nifer o gyfreithiau gwahaniaethu sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon trin rhywun yn wahanol yn y gwaith ar sail eu hil. Mae gan y mwyafrif helaeth o gyflogwyr bolisi cyfle cyfartal y mae'n rhaid i weithwyr ei lofnodi cyn iddynt ddechrau gweithio.

Mae cyfraith gwahaniaethu'n faes cymhleth. Os tybiwch eich bod o bosib yn cael eich trin yn annheg gan eich cyflogwr neu gan bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw, bydd swyddfa leol y Comisiwn Cydraddolddeb Hiliol yn gallu'ch helpu a'ch cynghori ynghylch beth i'w wneud.

Allweddumynediad llywodraeth y DU