Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyffuriau a throseddu

Mae'n bosib eich bod chi'n meddwl mai dim ond rhywun sy'n cael ei ddal yn gwerthu cyffuriau y bydd yr heddlu'n ei arestio. Ond fe all defnyddio cyffuriau at eich defnydd personol hyd yn oed arwain at ddirwy fawr neu gyfnod yn y carchar.

Dosbarthiadau cyffuriau

Bydd pob cyffur yn cael ei ddosbarthu i un o dri chategori, yn ôl pa mor beryglus ydyn nhw.

Cyffuriau sy'n cael yr effaith fwyaf niweidiol yw cyffuriau Dosbarth A. Mae’r cyffuriau hyn yn cynnwys heroin, cocên, ecstasi ac LSD.

Mae Cyffuriau Dosbarth B yn llai peryglus na rhai Dosbarth A, ond gallant fod yn niweidiol os cân nhw'u camddefnyddio. Mae cyffuriau Dosbarth B yn cynnwys sbîd, canabis a rhai amffetaminau.

Mae cyffuriau Dosbarth C yn llai peryglus i'r defnyddiwr na chyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B. Wedi dweud hynny, maen nhw'n dal i fod yn anghyfreithlon ac fe allan nhw fod yn niweidiol. Mae cyffuriau Dosbarth C yn cynnwys cetamin, GHB a rhai tawelyddion.

Bod â chyffuriau yn eich meddiant

Os cewch chi'ch dal â chyffuriau yn eich bag neu yn eich poced, mae'n bosib y cewch chi'ch cyhuddo o fod â sylwedd anghyfreithlon yn eich meddiant, a hynny os mai chi biau'r stwff ai peidio. Os ydych chi dan 17 oed, mae gan yr heddlu yr hawl i roi gwybod i'ch rhiant neu'ch gofalwr eich bod wedi cael eich dal.

Os ydych chi wedi eich canfod â chyffuriau yn eich meddiant, bydd y gosb gewch chi'n dibynnu ar ba fath o gyffur y mae'r heddlu wedi dod o hyd iddo a'ch hanes personol.

Os ydyn nhw'n dod o hyd i gyffur Dosbarth C arnoch chi a chithau heb hanes troseddol, fe gewch chi rybudd ffurfiol neu rybuddiad gan yr heddlu fan leiaf. Os byddan nhw'n dod o hyd i gyffur Dosbarth A neu B arnoch chi, neu os oes gennych hanes o droseddau gyda chyffuriau, rydych yn debygol o wynebu cosb lymach o lawer.

Dyma'r dedfrydau mwyaf posibl ar gyfer bod â chyffuriau'r gwahanol yn eich meddiant:

  • hyd at saith mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth A
  • hyd at bum mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth B
  • hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth C

Fe all y dedfrydau hyn fod yn fwy o lawer os ydych chi'n delio mewn cyffuriau neu'n eu gwerthu - hyd yn oed os mai dim ond i ffrindiau y byddwch chi'n eu rhoi neu hyd yn oed os nad oes arian yn newid dwylo.

Bod â chanabis yn eich meddiant

mae canabis bellach yn gyffur Dosbarth B, fel sbîd

Mae'r newid yn y gyfraith i ailddosbarthu canabis i Ddosbarth B yn golygu cosbau mwy llym i bobl gaiff eu dal â chanabis yn eu meddiant. Bydd yr heddlu'n gweithredu, a gellir eich arestio hyd yn oed os mai dyna'r tro cyntaf i chi gael eich dal.

Pobl dros 18

Os cewch eich dal â chanabis yn eich meddiant, yn ogystal ag ystyried eich arestio a chymryd y cyffur oddi arnoch, mae'n debygol y bydd yr heddlu'n gwneud y canlynol:

  • rhoi rhybudd canabis i chi am drosedd meddiant cyntaf
  • rhoi Hysbysiad Cosb am Anhrefn i chi (dirwy o £80 yn y fan a'r lle) am ail drosedd
  • eich arestio os cewch eich dal â chanabis am y trydydd tro; gallai hyn arwain at euogfarn a chofnod troseddol.

Plant a phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed

Os cewch eich dal â chanabis yn eich meddiant, bydd yr heddlu'n cymryd y cyffur oddi arnoch a gallant eich arestio neu eich atgyfeirio at Dîm Troseddwyr Ifanc. Mae'n debygol y bydd yr heddlu hefyd yn gwneud y canlynol:

  • rhoi cerydd i chi a dweud wrth eich rhieni beth sydd wedi digwydd os mai dyma'r tro cyntaf i chi gael eich dal
  • rhoi rhybudd terfynol a'ch atgyfeirio at Dîm Troseddwyr Ifanc os mai hwn yw eich ail drosedd
  • eich arestio os mai dyma'r trydydd tro i chi gael eich dal â chanabis; gallai hyn arwain at euogfarn a chofnod troseddol

Bwriad o gyflenwi a delio

Mae'r cosbau ar gyfer cyflenwi cyffuriau'n llymach o lawer na'r rhai ar gyfer meddiant. Dylech gofio hefyd nad dim ond i ddelwyr y mae cyflenwi cyffuriau'n berthnasol. Os bydd yr heddlu'n meddwl eich bod yn bwriadu rhannu cyffuriau gyda'ch ffrindiau, mae hynny'n dal i gael i ystyried yn gyflenwi.

Mae'r heddlu'n fwy tebygol o'ch cyhuddo os ydyn nhw'n amau eich bod yn bwriadu cyflenwi cyffuriau, ond byddan nhw'n dal i ystyried faint o gyffuriau oedd gennych arnoch, a'ch hanes troseddu.

Y dedfrydau mwyaf ar gyfer bwriad o gyflenwi cyffuriau yw:

  • hyd at oes yn y carchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth A
  • hyd at 14 mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth B neu Ddosbarth C

Cyfyngiadau eraill

Er nad ydyn nhw'n anghyfreithlon, mae cyfyngiadau ar werthu sylweddau eraill a all fod yn niweidiol os cân nhw'u camddefnyddio:

  • mae yn erbyn y gyfraith i siop werthu toddyddion, petrol llenwi taniwr sigarets a rhai mathau o lud i bobl dan 18 os ydyn nhw'n credu y byddwch chi'n eu defnyddio fel cyffur
  • os ydych chi dan 18 oed, chewch chi ddim prynu alcohol, sigarets, sigarau na thybaco.

Allweddumynediad llywodraeth y DU