Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pobl ifanc a'r ddalfa

Os ydych o dan 18 oed ac yn cael eich anfon i'r ddalfa, cewch eich trin yn wahanol iawn i oedolion. Cewch help gydag addysg, hyfforddiant a gwella eich ymddygiad. Mynnwch wybod i ble y gallwch gael eich anfon i'r ddalfa a sut beth ydyw.

Pam yr anfonir pobl ifanc i'r ddalfa

Cewch ddedfryd yn y ddalfa os byddwch yn cyflawni trosedd ddifrifol iawn

Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd, gallech gael dedfryd sy'n golygu y cewch eich rhoi dan glo - dedfryd 'yn y ddalfa'. Gall y llys roi'r math hwn o ddedfryd i chi:

  • os yw eich trosedd mor ddifrifol nad oes opsiwn arall addas
  • os ydych wedi cyflawni troseddau o'r blaen
  • os yw'r barnwr neu'r ynad o'r farn eich bod yn peri risg i'r cyhoedd

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cael eich anfon i'r ddalfa

Pan fyddwch yn cael dedfryd o gyfnod yn y ddalfa, ni fyddwch yn cael eich anfon i garchar ar gyfer oedolion, ond i ganolfan ddiogel arbennig i bobl ifanc.

Mathau o ddalfeydd ar gyfer pobl ifanc

Mae tri math o ddalfeydd ar gyfer pobl ifanc:

  • sefydliadau troseddwyr ifanc
  • canolfannau hyfforddi diogel
  • cartrefi plant diogel

Ceir manylion am y gwahaniaethau rhwng y mathau hyn o ganolfannau yn yr adran isod.

Sut y gwneir y penderfyniad ynghylch: ble y cewch eich anfon

Bydd y man lle y cewch eich rhoi yn y ddalfa yn dibynnu ar eich oedran, eich rhyw, eich anghenion unigol a ble rydych yn byw.

Cewch eich anfon i ganolfan ddiogel:

  • a all reoli eich anghenion yn ddiogel (er enghraifft, os oes gennych hanes o ddefnyddio cyffuriau, neu os ydych wedi bod yn y ddalfa o'r blaen ac wedi'i chael yn anodd)
  • sy'n addas i'ch oedran
  • sydd mor agos i'ch cartref â phosibl

Bydd sefydliad o'r enw'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn penderfynu i ble y byddwch yn mynd. Bydd yn gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a roddir iddo gan y tîm troseddau ieuenctid a gweithwyr cyfiawnder ieuenctid eraill.

Sut beth yw'r ddalfa i bobl ifanc

Byddwch yn dysgu sgiliau ac yn mynd i ddosbarthiadau tra byddwch yn y ddalfa er mwyn eich helpu pan fyddwch yn cael eich rhyddhau

Tra byddwch yn y ddalfa, byddwch yn treulio amser mewn dosbarthiadau yn dysgu sgiliau ar gyfer cael swydd neu ddychwelyd i addysg. Ceir amser ar gyfer chwaraeon, ffitrwydd a gweithgareddau eraill hefyd, gan gynnwys rhaglenni i wella eich ymddygiad.

Ceir rheolau llym iawn ynghylch yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud, ac efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i gwnsela mewn perthynas ag alcohol neu gyffuriau.

Sut le yw sefydliad troseddwyr ifanc

Caiff sefydliadau troseddwyr ifanc eu rhedeg gan y Gwasanaeth Carchardai a chwmnïau preifat. Maent yn rhoi lle i bobl ifanc rhwng 15 a 21 oed, ond mae'r rheini o dan 18 oed yn aros mewn adeiladau gwahanol i'r rheini dros 18 oed. Mae rhai'n rhannu safle â charchar i oedolion, ac mae rhai ar eu pen eu hunain.

Maent yn amrywio mewn maint, gyda rhai'n rhoi lle i tua 60 o bobl tra bod rhai eraill yn rhoi lle i fwy na 400. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn lleoedd mawr, wedi'u rhannu'n sawl 'adain' sydd â lle i rhwng 30 a 60 o bobl ifanc.

Byddwch yn cael hyd at 25 awr o addysg, sgiliau a gweithgareddau eraill yr wythnos, sy'n cynnwys rhaglenni sy'n ceisio gwella eich ymddygiad.

Ni fydd staff mewn sefydliad troseddwyr ifanc yn gallu rhoi llawer o gymorth unigol i chi, oherwydd yn gyffredinol bydd un aelod o staff i bob deg person ifanc.

Sut le yw canolfan hyfforddi ddiogel

Mae'r canolfannau hyn yn rhoi lle i bobl ifanc hyd nes eu bod yn 17 oed, ac maent yn cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat. Maent yn rhoi lle i rhwng 50 a 80 o bobl ifanc, ac maent yn cael eu rhannau'n unedau. Bydd gan bob uned rhwng pump ac wyth o bobl ynddi.

Os byddwch mewn canolfan hyfforddi ddiogel, byddwch yn cael hyd at 30 awr o addysg a hyfforddiant bob wythnos, gan ddilyn amserlen diwrnod ysgol.

Byddwch yn cael mwy o gymorth unigol mewn canolfan hyfforddi ddiogel na sefydliad troseddwyr ifanc oherwydd yn gyffredinol bydd tri aelod o staff i bob wyth person ifanc.

Sut le yw cartref plant diogel

Mae cartrefi plant diogel ar gyfer y troseddwyr ieuengaf (rhwng deg a 14 oed), a'r rheini a all fod wedi bod mewn gofal neu sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cânt eu rhedeg gan gynghorau lleol.

Fel mewn canolfan hyfforddi ddiogel, byddwch yn mynd i ddosbarthiadau gan ddilyn amserlen diwrnod ysgol.

Mae cartrefi yn llai na sefydliadau troseddwyr ifanc a chanolfannau hyfforddi diogel, gan amrywio mewn maint rhwng wyth a 40 o bobl.

Byddwch yn cael llawer o sylw a chymorth unigol, oherwydd yn gyffredinol ceir un aelod o staff i bob dau berson ifanc.

Merched ifanc sy'n cael dedfryd yn y ddalfa

Os ydych yn ferch gyda phlant neu os ydych yn feichiog, efallai y cewch eich rhoi mewn uned arbennig ar gyfer mam a'i baban. Byddwch yn cael gadael eich plentyn mewn gofal plant fel y gallwch barhau â'ch addysg.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU