Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os cewch eich collfarnu o drosedd, byddwch yn bwrw rhywfaint o'ch dedfryd, neu'r cyfan, yn y gymuned. Cewch eich goruchwylio a bydd yn rhaid i chi gwblhau cyrsiau addysg, hyfforddiant neu driniaeth. Mae gwneud iawn am yr hyn rydych wedi'i wneud hefyd yn chwarae rhan bwysig. Mynnwch wybod sut mae dedfrydau cymunedol yn gweithio ar gyfer pobl ifanc.
Holwch eich tîm troseddau ieuenctid os nad ydych yn siŵr o delerau eich dedfryd
Os cewch eich dyfarnu'n euog o fân drosedd, gallwch gael dedfryd gymunedol. Mae amrywiaeth o ddedfrydau cymunedol y gallwch eu cael.
Byddwch hefyd yn bwrw rhywfaint o'ch dedfryd yn y gymuned ar ôl i chi gael eich rhyddhau o'r ddalfa.
Pan fyddwch yn cael dedfryd gymunedol, bydd y llys yn nodi pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud a phethau na chaniateir i chi eu gwneud, fel:
Gelwir rhain yn 'Telerau' neu 'ofynion' eich dedfryd.
Beth fydd yn digwydd os byddwch yn torri'r rheolau
Os byddwch yn mynd yn groes i delerau eich dedfryd gymunedol, gallech orfod dychwelyd i'r llys, ac os byddwch wedi cael eich rhyddhau o'r ddalfa yn ddiweddar, gallech orfod mynd yn ôl.
Weithiau gall eich rhieni neu'ch gwarcheidwaid fynd i drafferth hefyd a gorfod mynd i'r llys.
Felly mae'n rhaid i chi ddeall:
Os oes unrhyw beth ynghylch telerau eich dedfryd yn aneglur, gallwch holi'r tîm troseddau ieuenctid, a fydd yn eich goruchwylio.
Fel arfer, bydd 'telerau' neu 'ofynion' eich dedfryd gymunedol yn eich helpu gyda phethau fel anawsterau dysgu neu'r defnydd o gyffuriau. Gallech hefyd orfod cwblhau cyrsiau neu driniaeth yn ôl gorchymyn y llys.
Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn eich helpu i ddelio ag unrhyw broblemau a all fod wedi achosi i chi droseddu, ac i'ch atal rhag cyflawni trosedd arall.
Os oes ei angen arnoch, rhoddir help i chi gyda'r canlynol:
Weithiau gelwir cymorth fel hyn yn 'ailsefydlu'.
Efallai y bydd yn rhaid i chi ymddiheuro i'r dioddefwr wyneb yn wyneb neu drwy ysgrifennu ato
Fel rhan o'ch dedfryd gymunedol efallai y gofynnir i chi wneud rhywbeth i wneud iawn am unrhyw niwed neu ddifrod a achoswyd gan eich trosedd. Er enghraifft, helpu i dacluso parc neu lanhau graffiti. Gelwir hyn yn 'gyfiawnder adferol' neu'n 'iawndal'.
Efallai y bydd yn rhaid i chi siarad â'r dioddefwr a gwrando ar ei ochr ef o'r stori hefyd. Mae hyn fel eich bod yn deall yr effaith y mae eich trosedd wedi'i chael ar bobl eraill, nid arnoch chi eich hun yn unig.
Yn aml, bydd yn rhaid i chi ymddiheuro i'r dioddefwr. Gall hyn fod yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb, os bydd y dioddefwr am wneud hynny.
Gallwch gel eich monitro a'ch goruchwylio fel rhan o'ch dedfryd gymunedol. Mae hyn yn digwydd er mwyn sicrhau eich bod yn cadw at delerau eich dedfryd.
Gallwch gael eich monitro mewn sawl ffordd, drwy eich tagio'n electronig neu drwy ofyn i chi fynd i orsaf heddlu neu at dîm troseddau ieuenctid yn rheolaidd.
Sut y gallwch gael eich monitro
Yn ystod dedfryd gymunedol, efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i rywun ble rydych ar adegau penodol. Gallai fod yn un o swyddogion yr heddlu neu'n rhywun o'r tîm troseddau ieuenctid.
Er enghraifft, os oes angen i chi fod gartref erbyn amser penodol - a elwir yn gyrffyw. Gallai'r heddlu ffonio neu ymweld â'ch cartref i gadarnhau eich bod chi yno.
Cael eich tagio
Tagio yw pan fo tag electronig yn cael ei roi amdanoch, fel arfer o amgylch eich coes. Yna gall tîm monitro gadarnhau ble rydych drwy'r amser.
Y rhaglen Goruchwylio a Gwyliadwraeth Ddwys (ISS)
Gallech gael eich rhoi ar y rhaglen ISS fel rhan o'ch dedfryd gymunedol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi gwblhau llawer o weithgareddau gwahanol tra'n cael eich goruchwylio'n fanwl a'ch cefnogi gan weithwyr cyfiawnder ieuenctid.
Gallwch hefyd gael eich rhoi ar y rhaglen ISS os rhoddir mechnïaeth amodol i chi. I gael gwybod beth yw ystyr hyn, dilynwch y ddolen 'Mechnïaeth a remánd i bobl ifanc' isod.
Gosod offer gwyliadwraeth yn eich cartref
Os bydd y llys yn gorchymyn y dylech gael eich monitro gartref, efallai y bydd angen gosod offer gwyliadwraeth yn eich cartref. Fel arfer caiff yr offer ei gysylltu â llinell ffôn a'i ddefnyddio i gadarnhau eich bod gartref yn ystod amseroedd penodol.
Dim ond drwy gytundeb y 'deiliad tŷ cyfrifol', sef eich rhiant neu'ch gofalwr fel arfer, y gellir gwneud hyn.
Os bydd y llys yn gorchymyn hyn, gall y tîm troseddau ieuenctid ei egluro i chi.